Jump to content

Iechyd a llesiant

Cyflwyniad ymchwil

I gyfrannu astudiaeth achos neu adnodd i’r adran hon, anfonwch e-bost at bethany-howells@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda.

Astudiaethau achos

Live Life to the Full - Grwp United Welsh

Yn 2022 cyflwynodd United Welsh gwrs Live Life to the Full i helpu diwallu anghenion cynyddol cwsmeriaid yn benodol yng nghyswllt iechyd meddwl. Cynlluniwyd cwrs Live Life to the Full ar gyfer pobl sy’n ynysig, gyda hunan-dyb isel, diffyg hyder, pryder, hwyliau isel neu gymhelliant eleni.

Eleni gwelodd United Welsh gynnydd mewn cwsmeriaid oedd mewn iechyd gwael ac yn cael trafferthion gyda’u llesiant, ac effaith negyddol hyn ar eu bywydau bob dydd.

Mae hyn yn amlygu ei hun mewn pobl yn teimlo na fedrant fynd i’r afael â gwaith tŷ megis glanhau, tacluso a garddio; delio gyda’u biliau; rheoli problemau gyda chymdogion neu broblemau teuluol heb gael cefnogaeth; cymryd cyfrifoldeb drostynt eu hunain.

Cyflwynodd United Welsh y cwrs chwech wythnos ar gyfer cwsmeriaid i goleddu eu cryfderau. Mae 40 cwsmer wedi cymryd rhan ac maent i gyd wedi adrodd gwelliannau sylweddol yn eu hiechyd a’u llesiant, hunanbarch a hyder.

Mae llawer o’r rhai a fynychodd hefyd wedi ymrestru mewn hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli, gyda phawb yn dweud y cafodd y cwrs iechyd effaith gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant.

Dywedodd un a gymerodd ran, “Mae’r cwrs wedi rhoi mwy i ddealltwriaeth i fi o sut mae fy iechyd meddwl yn effeithio arnaf i a’r bobl o fy amgylch. Mae hefyd wedi rhoi mwy o ffyrdd i fi i reoli fy iechyd meddwl, gan fy ngalluogi i ddeall yr hyn y gallaf ei reoli a’r hyn na allaf ei reoli.”

GetFit Cymru: gwella lles corfforol a meddwl Cymdeithas Tai Newydd

Bu Cymdeithas Tai Newydd yn annog tenantiaid, ynghyd â phobl ifanc yn byw ar draws ardaloedd Cwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a’r Fro i fynd allan i’r awyr iach a dod yn heini drwy Getfit.Cymru, cynllun gwobr cymhelliant a ddatblygwyd i ostwng anghydraddoldeb iechyd a gwella mynediad i nwyddau a gwasanaethau iach.

Gall y sawl sy’n cymryd rhan yn Getfit.Cymru ddewis cynlluniau lleol a heriau yn amrywio o ran lefelau anhawster drwy ddewis targedau a osodant iddynt eu hunain. Mae nifer fawr o gymhellion a gwobrau lleol ar gael i’w hannog i barhau’r rhaglen a chael pwyntiau i’w gwario tra’n cyflawni eu nodau.

Gyda chostau biliau’n cynyddu, mae Cymdeithas Tai Newydd yn gwybod y bydd incwm dros ben pobl yn gostwng. Felly, roeddent eisiau trin hyn drwy gynnig nwyddau iach a gwasanaethau sy’n helpu i wella iechyd personol fel gwobrau – tebyg i aelodaeth campfa a bwydydd iach y mae pobl weithiau’n torri yn ôl arnynt neu’n byw hebddynt pan fo pethau’n galed.

Hyd yma, mae canfyddiadau wedi dangos effaith gadarnhaol ar weithgaredd corfforol a chymdeithasol y rhai sy’n cymryd rhan fel canlyniad i dreulio mwy o amser yn ymarfer, bod yn yr awyr agored ac yn cymdeithasu. Canfu hefyd fod cymryd rhan yn Getfit.Cymru wedi arwain at fuddion iechyd cadarnhaol eraill yn cynnwys colli pwysau, colli braster corff, gwell cwsg, llai o straen, anadlu gwella bwyta’n iachach.

Y canlyniad mwyaf arwyddocaol yw sut y gwnaeth Getfit.Cymru gymell grwpiau anodd eu cyrraedd a gyda llai o gymhelliant i fod yn egnïol yn gorfforol ac yn gymdeithasol. Mewn her ‘camu lan’ ddiweddar yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant cymerodd dros 100 o bobl ifanc ran mewn ras rithiol 10K. Dangosodd adborth mai hwn oedd y tro cyntaf i lawer gymryd rhan mewn her 10K. Mae tîm Getfit.Cymru yn gobeithio parhau i gefnogi ysgolion lleol, grwpiau cymunedol ac unigolion i gynyddu eu llesiant drwy helpu i ddatblygu arferion cadarnhaol cryf.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu hoffech chi gael mwy o wybodaeth ar sut y sefydlwyd y cynllun? Anfonwch E-bost at Scott.tandy@newydd.co.uk

Cwpwrdd hanfodion ystafelloedd ymolchi – Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd

Mae’r argyfwng costau byw yn golygu fod pobl sydd mewn trafferthion yn cwtogi eu defnydd o rai eitemau ymolchi, ond gall hyn gael effaith gyflym ar ansawdd eu bywydau.

Sefydlodd Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd le yn eu swyddfa lle gall staff adael eitemau dros ben fel siampŵ, sebon cawod a diaroglydd. Mae’r syniad yn syml: cyfrannu eitemau nad ydych eu hangen a chânt eu defnyddio gan rywun sydd eu hangen.

Gall staff gasglu ychydig eitemau i’w defnyddio eu hunain neu ar gyfer y tenantiaid maent yn eu cefnogi.

Tîm Llesiant Tai Calon

Mae Tîm Llesiant Tai Calon yn cysylltu gyda thenantiaid a phreswylwyr o bob oed mewn amrywiaeth o ddulliau.

Mae’r tîm yn cefnogi sefydliadau partner, tebyg i Canolfan Byd Gwaith, Cymunedau am Waith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Gyrfa Cymru ac ysgolion lleol i helpu gyda digwyddiadau ymgysylltu tebyg i Ffeiriau Swyddi, digwyddiadau ‘Canfod eich Dyfodol’ a dyddiau/gweithgareddau Gyrfa ar gyfer disgyblion a rhieni.

Maent hefyd yn cynnig cymorth cyflogaeth a gwirfoddoli ar sail un i un ac yn arwain prosiect Cwpwrdd Dillad Gwaith Blaenau Gwent, sy’n darparu dillad gwaith a chyfweliad am ddim i helpu pobl i gael dechrau da yn eu gyrfaoedd.

Yn ogystal â’u gweithgareddau partneriaeth, mae’r Tîm Llesiant yn cysylltu gyda grwpiau cymunedol sy’n gweithredu yn eu hardal i gefnogi gwahanol weithgareddau tebyg i hybiau bwyd, canolfannau cynnes, ‘Fit and Fed’ ar gyfer plant ysgol, sesiynau llesiant meddwl, llythrennedd corfforol a gweithgareddau tyfu bwyd tebyg i randiroedd cymunedol. Mae gan y tîm hefyd Gydlynydd Bwyd Cynaliadwy sydd â rôl strategol o fewn Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent ac sy’n gweithio’n agos gydag Anogwyr Llesiant i sicrhau darpariaeth gyson.

Mae rhai o’r gweithgareddau diweddar y mae’r Tîm Llesiant wedi cymryd rhan ynddynt yn cynnwys prosiect Cwpwrdd Dillad Gwaith, a fu’n gweithio gyda Moxie People, Tai Calon, United Welsh, Working Families a Blue Egg i lansio Hyb Blaenau Gwent. Mae’r prosiect hwn yn darparu dillad gwaith a chyfweliad am ddim i bobl i’w helpu i deimlo’n hyderus pan maent yn dechrau ar yrfa newydd. Agorodd yr hyb lleol ar 25 Awst 2022 ac mae’n darparu dillad i bobl leol sy’n gwneud cais am waith neu mewn swydd newydd.

Mae Ystafell Offer Cymunedol yn gynllun arall y mae’r Tîm Llesiant yn cymryd rhan ynddo, gan weithio mewn partneriaeth gyda Hamdden Aneurin a Gemau Stryd Cymru. Mae’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn darparu dillad chwaraeon ac esgidiau addas ar gyfer pobl 3 oed i oedolion i gefnogi aelodau’r gymuned ar eu taith iechyd, chwaraeon a ffitrwydd.

Mae’r Tîm Llesiant hefyd yn cynnig cymorth i’r gymuned drwy Ganolfannau Cynnes, pecynnau rysáit yn Nhredegar, Cwmcelyn a Swffryd, cymorth bwyd i bobl ifanc ym mhrosiect Anelu’n Uchel, hamperi bwyd Nadolig a chymorth cyflogadwyedd.

Mae Tîm Llesiant Tai Calon yn ymroddedig i gefnogi’r gymuned a chysylltu gyda sefydliadau partner a grwpiau cymunedol i helpu pobl o bob oed ym Mlaenau Gwent i gyflawni eu potensial.

Clwb Llesiant Gaeaf – Tai Taf

Sefydlodd Tai Taf eu Clwb Llesiant Gaeaf yn 2022.

Mae’r gweithdai a gynhelir rhwng mis Hydref a mis Chwefror yn rhoi man cynnes a chinio twym i denantiaid, ynghyd â chyfle i gysylltu gyda’u cymuned a chael cyngor ac arweiniad am ddim mewn amgylchedd anffurfiol, croesawgar.

Caiff y gweithdai eu darparu gan arbenigwyr o nifer o sefydliadau yn cynnwys pynciau tebyg i trefnu arian, defnyddio banciau bwyd, trin dyledion ac iechyd a llesiant.

Dywedodd Clare Dickinson, rheolwr cynhwysiant cymunedol Tai Taf: “Ffurfiwyd y Clwb Llesiant Gaeaf o’r angen i denantiaid gael lle twym a chyfeillgar i fynd iddo lle gallant gymdeithasu a thrafod eu pryderon gyda phobl o’r un anian.

"Mae’n helpu pobl i sylweddoli nad nhw yw’r unig rai sy’n wynebu problemau fel dyled, trefnu arian, straen a phryder. Gallant hefyd gael mynediad i gymorth yr un diwrnod megis talebau argyfwng ar gyfer bwyd a thanwydd os oes angen hynny.”