Costau Byw: Ein Gofynion o Llywodraeth Cymru a'r DU 2023
Cyflwyniad
Fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ym mis Tachwedd 2023 yn edrych sut mae’r argyfwng costau byw yn parhau i daro’n ddifrifol ar gymdeithasau tai a thenantiaid yng Nghymru.
Anfonir ein adroddiad, sy’n codi cwr y llen ar y meysydd allweddol lle mae tenantiaid angen mwy o gymorth ariannol, at Lywodraeth Cymru ac Aelodau Seneddol, ynghyd â gwybodaeth ar sut y gallant lacio’r pwysau ariannol sy’n parhau i wynebu pobl yn byw mewn tai cymdeithasol.
I sicrhau y caiff argymhellion ein hadroddiad eu clywed, bydd ein harweinwyr polisi yn cwrdd gyda ffigurau allweddol yn Llywodraeth Cymru ac yn cydweithio gyda sefydliadau partner a chymdeithasau tai i sicrhau fod yr argymhellion yn adlewyrchiad cywir o anghenion tenantiaid a’r sector.
Gallwch ddarllen ein datganiad llawn ac adroddiad Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd isod.
Ar y dudalen yma
Datganiad
Mae ein hadroddiad newydd yn edrych ar yr effaith mae’r cynnydd mewn costau byw yn parhau i’w gael ar gymdeithasau tai a’u tenantiaid yng Nghymru ddwy flynedd i mewn i’r argyfwng.
Yn ein hadroddiad, rydym yn galw am Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i gymryd camau fel mater o frys i warchod tenantiaid cymdeithasau tai yn ariannol yn erbyn cynnydd parhaus mewn prisiau, a sicrhau y gallant fforddio gwresogi eu cartrefi, heb fynd i ddyled, y gaeaf hwn.
Wrth i gost hanfodion sylfaenol yn cynnwys bwyd ac ynni barhau i gynyddu eleni, mae hyn wedi ychwanegu pwysau ariannol ar gyllideb tenantiaid oedd eisoes dan bwysau mawr.
Bu tenantiaid tai cymdeithasol eisoes yn cael trafferthion sylweddol gyda chynnydd mewn costau byw, gyda rhan fawr o’u harian eisoes yn mynd i dalu am hanfodion sylfaenol.
Fodd bynnag, maent yn awr yn delio gydag effaith gronnus misoedd a misoedd o bwysau ariannol ac mae’n hanfodol eu bod yn derbyn cymorth fel mater o frys.
Yn ychwanegol at hyn, ni fydd cymorth ariannol yn cynnwys Cynllun Gostwng Biliau Ynni Llywodraeth y DU a Chynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru, a helpodd bobl gyda chostau ynni y gaeaf diwethaf, ar gael eleni gan olygu y bydd y bydd pobl yn ei chael hyd yn oed yn fwy anodd i wresogi eu cartref wrth i’r tywydd oeri.
Yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn, bu cymdeithasau tai yn gweithio gyda dros 14,000 o denantiaid i’w helpu i gael mynediad i gymorth ariannol, gyda 74% o’r rhai a arolygwyd yn dweud fod hyn yn gynnydd o’r cyfnod blaenorol o chwe mis.
Er fod cymdeithasau tai yn gwneud popeth a fedrant i helpu tenantiaid sy’n wynebu pwysau ariannol ar y cyfnod anhygoel o heriol hwn, yn cynnwys darparu cymorth ariannol, gweithio gyda sefydliadau partner, a chyfeirio at help ychwanegol, maent yn awr yn wynebu galw cynyddol am eu gwasanaethau, gan ystod mwy amrywiol o bobl.
Mae cymdeithasau tai yn awr yn ei chael yn anodd iawn ateb y galw hwn ac mae gwasanaethau rheng-flaen yn gweithio hyd eithaf eu gallu.
“Rydym yn gweld tueddiad o bobl yn gofyn am help/cymorth pan maent eisoes yn derbyn yr holl fudd-daliadau mae ganddynt hawl iddynt.”
“Cymorth cyfyngedig ac adnoddau cyfyngedig sydd ar hyn o bryd felly rydym yn gorfod llenwi’r bwlch.”
Ar ran ei aelodau, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel mater o frys i:
Llywodraeth y DU:
Cadarnhau y caiff budd-daliadau eu cynyddu yn unol â chwyddiant o fis Ebrill.
Rhoi blaenoriaeth i greu tariff cymdeithasol ynni a darparu opsiynau ad-dalu fforddiadwy ar gyfer rhai sydd mewn dyled ynni, gan weithredu ar alwadau gan National Energy Action (NEA Cymru), a gymeradwywyd gan lawer o elusennau a sefydliadau defnyddwyr eraill.
Sicrhau nad yw gorfodi gosod mesuryddion blaendalu yn ailddechrau ar gyfer aelwydydd sy’n fregus yn ariannol.
Ymrwymo i adolygu a chynyddu’r Credyd Cynhwysol i sicrhau fod isafswm lefel cymorth yn gwarantu y gall pobl dalu am hanfodion.
Llywodraeth Cymru:
Gwarchod cronfeydd argyfwng presennol a sicrhau fod y llwybrau i gymorth yn hygyrch ac wedi eu targedu at y rhai sydd fwyaf o’i angen.
Parhau i gyllido cynlluniau hanfodol sy’n targedu tlodi tanwydd a bwyd, ac sy’n cefnogi cyfraddau uwch o ddefnyddio budd-daliadau.
Mae’n rhaid cyfarch effeithiau andwyol yr argyfwng costau byw a’r angen brys am gymorth ariannol ychwanegol cyn y caiff tenantiaid eu gwthio i galedi pellach.
Papurau gwybodaeth polisi
Ym mis Hydref 2022 fe wnaethom gyhoeddi adroddiad yn edrych ar effaith yr argyfwng costau byw ar denantiaid cymdeithasau tai yng Nghymru - gallwch ei ddarllen yn llawn yma.
Cefndir
Mae pob cymdeithas tai yng Nghymru yn darparu cartrefi a gwasanaethau gyda diben cymdeithasol clir.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae cymdeithasau tai wedi dod yn gynyddol bryderus am yr effaith y mae’r cynnydd mewn costau byw yn ei gael ar eu cymunedau, yn arbennig ar gyfer aelwydydd ar incwm isel.
Mae ein hadroddiad Amser Gweithredu a gynhyrchwyd y llynedd yn sôn am y caledi sy’n wynebu tenantiaid wrth iddynt ddechrau profi effaith yr argyfwng costau byw. Roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyfarch y straen a deimlir gan denantiaid.
Ychydig o gynnydd a wnaed flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae llawer o denantiaid tai cymdeithasol mewn sefyllfa ddybryd wrth i chwyddiant uchel barhau. Dywedodd cymdeithasau tai wrthym eu bod ar fan brigo yr hyn y gallant ei gyflawni i gefnogi tenantiaid, ac mai dim ond newidiadau sylfaenol i’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael i denantiaid tai cymdeithasol fydd yn eu helpu i ddod drwy’r argyfwng.
Comisiynodd CHC arolwg o gymdeithasau tai ym mis Awst 2023 i ddynodi’r anawsterau sy’n wynebu tenantiaid a’r ystod cymorth a gynigir gan gymdeithasau tai. Mae canfyddiadau’r arolwg ac adborth gan gymdeithasau tai wedi arwain at ddatblygu cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a chreu’r adroddiad hwn.
Hoffem ymestyn ein diolch i aelodau ein grŵp ffocws costau byw, sy’n cynnwys cynrychiolwyr cymdeithasau tai ledled Cymru, am eu cyfraniad i’r adroddiad terfynol a’r argymhellion.
Rydym yn parhau i ymgysylltu gyda phartneriaid o’r sector gwirfoddol, y sector busnes a’r sector cyhoeddus ledled Cymru, ynghyd â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Ofgem. Rydym hefyd yn parhau i fonitro effaith yr argyfwng costau byw ar dai cymdeithasol yng Nghymru ac effeithlonrwydd ymyriadau’r llywodraeth, gan amlygu lle gellid – ac y dylid – gwneud mwy i gefnogi pobl yn ystod y cyfnod heriol hwn.