Ansicrwydd bwyd
Cyflwyniad ymchwil
Canfu Sefydliad Bevan fod costau bwyd mwy na hanner aelwydydd wedi cynyddu yn ystod yr argyfwng costau byw. Yn Ionawr 2022, clywodd y sefydliad hefyd fod miliwn o oedolion ar draws y Deyrnas Unedig wedi mynd heb fwyd am un diwrnod oherwydd costau.
Mae teuluoedd sy’n profi anawsterau ariannol yn aml yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd rhwng fforddio rhent neu fwyd. Mae cymdeithasau tai yn helpu i atal ansicrwydd bwyd mewn gwahanol ffyrdd – tebyg i ddarparu talebau banc bwyd a gweithio gyda grwpiau cymunedol i sefydlu cypyrddau bwyd lleol. Mae’r gwaith hwn wedi datblygu yn ddiweddar wrth i’r sefydliadau hyn edrych ar sicrhau diogelwch bwyd, yn hytrach na thrin diffyg sicrwydd pan mae’n digwydd.
I gyfrannu astudiaeth achos neu adnodd i’r adran hon, anfonwch e-bost at bethany-howells@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda.
Astudiaethau achos
Taclo tlodi bwyd a thanwydd - Melin Homes
Mae Melin wedi cyflenwi cyfanswm o dros £50,000 mewn talebau tanwydd a bwyd. Mae hyn yn werthfawr tu hwnt i denantiaid gan ei fod yn rhoi cymorth ar unwaith pan maent mewn caledi gan y gellir anfon y talebau ar neges destun neu drwy e-bost.
Mae’r gymdeithas tai wedyn yn gweithio gyda thenantiaid i gyfarch achosion gwraidd eu cyllideb negyddol i ganfod ffyrdd cynaliadwy i ostwng eu dibyniaeth ar dalebau bwyd a thanwydd.
Prosiect mynediad bwyd Llanilltud Fawr – Cymdeithas Tai Newydd
Mae Cymdeithas Tai Newydd yn cefnogi prosiect Mynediad Bwyd Llanilltud Fawr, a gafodd ei greu i wneud bwyd iach yn fforddiadwy a hygyrch i holl gartrefi’r ardal. Gan weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau cymunedol eraill, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chynghorau lleol, mae’r prosiect hefyd yn ymchwilio’r rhesymau sy’n gysylltiedig gyda pham nad yw rhai pobl a theuluoedd yn medru cael pryd da bob dydd.
Bwyd Da Cafe - Adra
Mae Adra yn cefnogi caffe Bwyd Da ym Mangor sy’n cydlynu dosbarthu i fanciau bwyd yn y ddinas a bwyd dros ben gan archfarchnadoedd. Caiff y prosiect hwn ei gyllido gan fwyaf drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Gwynedd.
Tŷ Pantri - Cymdeithas Tai Merthyr Tudful
Tŷ Pantri yw cynllun dosbarthu bwyd o ddrws i ddrws Cymdeithas Tai Merthyr Tudful sy’n rhoi mynediad fforddiadwy i ffrwythau a llysiau ffres a nwyddau sych ac mewn tuniau.
Roedd y pandemig yn gyfnod anodd i bobl Merthyr Tudful gyda llawer ar ffyrlo ac eraill ar y rhestr warchod. Roedd y rhan fwyaf yn ei chael yn anodd cael mynediad i fwyd maethlon a fforddiadwy gydag archfarchnadoedd mwy yn mynnu archeb dros £30 cyn y byddent yn mynd â bwyd i gartrefi. Gan sylweddoli na allai’r rhan fwyaf o denantiaid a’r gymuned ehangach fforddio hyn, lansiwyd Tŷ Pantri.
Mae Tŷ Pantri yn rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid drwy wasanaeth dosbarthu bwyd drws-i-ddrws. Gan weithio gyda chyfanwerthwyr ffrwythau a llysiau (Michael Browns) yn ogystal â Fareshare Cymru, mae’r prosiect yn darparu parseli a bagiau bwyd ar bris cost. A, gan weithio gyda phartner lleol dibynadwy – H Factor – gall y prosiect ddosbarthu nwyddau ar draws y fwrdeistref.
Oherwydd yr argyfwng mewn costau byw, mae llawer o bobl yn awr yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi a bwyta – ond mae Tŷ Pantri yn parhau yn rhaff fywyd i aelwydydd. Dywedodd cwsmeriaid pa mor bwysig y bu’r cynllun bwyd iddynt yn y misoedd diwethaf:
“Mae eich gwasanaeth yn help mawr i ni fel teulu. Er nad wyf yn denant i chi, rydych yn fy nhrin fel pe byddwn ac yn rhoi cymaint o help i mi gyda hyn.”
“Fel aelwyd, doedden ni erioed wedi bod yn y sefyllfa hon o’r blaen, lle mae’r ddau ohonom allan o waith a sut mae hyn wedi taro ar sefyllfa ariannol ein teulu. Mae Tŷ Pantri yn fendith i ni. Drwyddoch chi a Hope, gallwn fforddio bwyta a chael diet gytbwys.”
“Rydyn ni’n cael gwell gwerth am arian gyda chi oherwydd fod gennym fwy o ddewis gyda’ch blychau hanfodol, ac wrth gwrs mae eich ffrwythau a llysiau yn ffres ar y dydd. Gadewch i mi wybod os medraf wirfoddoli i helpu gwneud i’r proseict ddigwydd.”
“Wn i ddim beth fyddwn wedi wneud heb hyn, mae’n help enfawr i fi. A chi yw’r unig berson rwy’n ei weld ar ddydd Iau. Diolch.”
Mae’r gymdeithas tai yn priodoli llwyddiant Tŷ Pantri i weithio ar y cyd gyda sefydliadau o’r un anian gyda’r weledigaeth o ostwng anghydraddoldeb mewn cymunedau.
Fit and Fed - Cymdeithas Tai Merthyr Tudful
Sefydlwyd Fit and Fed Merthyr Tudful yn 2016 drwy gyllid ICF drwy’r bwrdd iechyd lleol. Gan weithio mewn partneriaeth gyda’r gwasanaeth ieuenctid lleol, mudiadau trydydd sector ar gyfer pobl ifanc a Gemau Stryd Cymru, cafodd sgiliau eu cronni i ddatblygu rhaglen gwyliau ysgol a fyddai’n rhoi mynediad am ddim i weithgareddau cyfoethogi a phryd maethlon iach ar ddiwedd pob sesiwn.
Gyda Chymdeithas Tai Merthyr Tudful yn rheoli’r proseict ac eraill yn darparu cyfleusterau a gweithwyr, sefydlwyd wyth safle Fit and Fed ar draws y fwrdeistref i ddechrau. Cafodd 159 sesiwn eu darparu ym mlwyddyn ariannol gyntaf y prosiect, cysylltwyd â 748 o blant a phobl ifanc wahanol a darparwyd 2,230 o brydau bwyd. Cododd hyn i 848 o blant a phobl ifanc, 182 sesiwn a 2,358 o brydau bwyd yn ail flwyddyn y prosiect.
Oherwydd y diddordeb mawr yn y cynllun a’r cymorth a roddodd i deuluoedd, gwnaeth Cymdeithas Tai Merthyr Tudful gais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am gyllid i ymestyn y prosiect i hyd at 15 safle ar draws y fwrdeistref. Pan oeddent yn ysgrifennu’r cais, dywedodd y tîm na fyddent byth mewn can mlynedd wedi meddwl y byddent yn wynebu’r argyfwng presennol mewn costau byw.
Mae Fit and Fed yn awr yn noddfa i lawer o deuluoedd yn yr ardal. Ehangodd y cynllun i 14 safle ers mis Ebrill 2022, gyda’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc o fewn pellter cerdded i safle.
Rhyfeddodau Un Pot gan Helpu Teuluoedd mewn Gwaith a phartneriaid - Bron Afon
Dywedodd teuluoedd sy’n teimlo’r esgid fach yn gwasgu oherwydd yr argyfwng costau byw wrth Bron Afon eu bod yn awyddus i ganfod mwy am goginio prydau iach am bris rhesymol i’r teulu.
Clywodd gwirfoddolwyr o Helpu Teuluoedd mewn Gwaith, prosiect Bron Afon a gyllidir gan y Loteri Fawr, am yr adborth a phenderfynu gwneud rhywbeth amdano.
Gyda chefnogaeth gan Tasty Not Wasty o Cwmbrân – grŵp nid er elw sy’n anelu i ostwng gwastraff bwyd – a Cook Stars o Casnewydd a Glynebwy (sy’n cynnig dosbarthiadau coginio hwyliog a fforddiadwy ar gyfer plant), cafodd y gwirfoddolwyr y syniad am Rhyfeddodau Un Pot. Mae’r rhain yn brydau iach a blasus yn seiliedig ar rysetiau syml a rhad y gall rhieni mewn gwaith eu dysgu’n rhwydd a’u gwneud gyda’u plant.
Mewn cynllun chwech wythnos, dysgodd teuluoedd goginio rhai o’r seigiau hyn, yn cynnwys chilli con carne, nwdls cyw iâr, crempogau llysiau, pupurau wedi stwffio a phasta llysiau. Fel gwledd ar ddiwedd y prosiect, fe wnaethant hefyd ddysgu sut i wneud pwdinau fel danteithion ar gyfer y Nadolig, yn cynnwys crymbl ffrwythau, tiramisu a theisen gaws.
Bu Kristina a Rhian yn wirfoddolwyr gyda Helpu Teuluoedd mewn Gwaith ers dechrau’r grŵp. Daeth eu profiadau cadarnhaol o fod yn rhan o brosiect Rhyfeddodau Un Pot o ddysgu sgiliau coginio newydd a hefyd yr hwb a roddodd i’w hyder a’u llesiant.
Dywedodd Kristina: “Mae’r cyfan am wneud pethau newydd gyda’ch teulu. O’r blaen, roedd gen i ofn defnyddio cynhwysion newydd gyda’r plant ond mae Rhyfeddodau Un Ddysgl wedi ein helpu i wneud hynny.
“Mae mynd o gwmpas a chymryd rhan y prosiect wedi bod o fudd mawr i fy lles hefyd. Mae wedi bod yn wych gwneud ffrindiau newydd.”
Dywedodd Rhian: “Rydym wedi dilyn rysetiau gwahanol bob wythnos yn defnyddio bwyd o fanciau bwyd, sydd mor bwysig gan ei fod yn gwneud y prydau a wnawn yn fforddiadwy.
“Mae’n debyg fod hyn yn un o’r grwpiau gorau i mi fod ynddo erioed. Mae fy hyder wedi cynyddu gymaint ac mae wedi helpu llawer gyda fy iechyd meddwl.”
Ar ddiwedd y prosiect rhoddodd Bron Afon beiriant ffrïo aer i bob un o’r gwirfoddolwyr i ddangos iddynt am eu hymroddiad a’u cyfraniad i’w wneud yn gymaint o lwyddiant.