Jump to content

Arian a dyledion

Cyflwyniad ymchwil

Fel landlordiaid cartrefi cymdeithasol, mae cymdeithasau tai yn cymryd eu cyfrifoldeb am gefnogi tenantiaid o ddifrif calon, ac felly rydym yn cyfeirio cymaint o’u hadnoddau ag y medrant tuag at helpu eu cymunedau drwy’r cyfnod anodd iawn hwn.

I gynorthwyo tenantiaid ar y rheng flaen, mae cymdeithasau tai yn cyflogi staff medrus a phrofiadol sy’n rhoi cyngor ac arweiniad mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, yn cynnwys eu helpu i gael mynediad i gymorth ariannol a chyfeirio at wasanaethau partner.

I gyfrannu astudiaeth achos neu adnodd i’r adran hon, anfonwch e-bost at bethany-howells@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda.

Astudiaethau achos

Cymdeithas Tai Cadwyn- Cadwyn

Cysylltodd swyddog cynhwysiant ariannol Cymdeithas Tai Cadwyn gyda thenant oedd mewn risg o fynd i ôl-ddyledion rhent. Cymerodd fisoedd o ymgysylltu cyn fod y tenant yn teimlo’n ddigon cysurus gyda staff Cadwyn i ddatgelu ei amgylchiadau personol: roedd wedi goroesi trais domestig ac yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn gysylltiedig â’r trawma hwn yn y gorffennol.

Canfu’r swyddog fod partner blaenorol y tenant wedi cadw tystysgrifau geni eu dau blentyn, gan olygu nad oedd y tenant yn medru hawlio budd-dal plant ar gyfer y naill na’r llall o’r plant, na’u rhoi ar hawliad budd-dal tai y tenant. Dangosodd asesiad llawn fod y tenant mewn caledi ariannol difrifol.

Cynorthwyodd swyddogion Cadwyn y tenant i ddiweddaru ei chais am Fudd-dal Tai a gwneud cais am Fudd-dal Plant a Chredyd Treth Plant.

Talodd Cadwyn hefyd am gopïau o’r tystysgrifau geni a chefnogi’r tenant gyda’r ceisiadau, gan ymweld â hi yn rheolaidd i fynd drwy’r gwaith papur helaeth oedd ei angen. Fe wnaeth y swyddog hefyd lenwi atgyfeiriad i’r gwasanaethau cymdeithasol/gwasanaethau plant fel y medrent gefnogi’r tenant a’u plant gyda’u bywyd cartref.

Gyda’r help a’r cefnogaeth drylwyr yma gan Cadwyn, fe gynyddodd incwm y tenant dair gwaith drosodd. Mae ei chyfrif rhent yn awr yn hollol gyfredol a chaiff ei dalu’n llawn bob mis yn uniongyrchol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bu gwelliant mawr hefyd yn ei hamgylchiadau personol ac mae’r plant yn ffynnu yn yr ysgol.

Cymorth ariannol - Melin Homes

Mae’r gymdeithas wedi cynyddu incwm tenantiaid gan £10m dros y 10 mlynedd ddiwethaf, yn cynnwys £1.4m yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf drwy gymorth dyled, cymorth ynni, ceisiadau grant a chymorth i hawlio budd-daliadau.

Mae’r gymdeithas hefyd yn cefnogi tenantiaid drwy gyflwyno a mynychu tribiwnlysoedd budd-dal. Yn ychwanegol, mae hefyd yn aelod gydag achrediad o AdviceUK sy’n rhoi sicrwydd i’w tenantiaid eu bod yn cael eu cynorthwyo gan sefydliad gwybodus yr ymddiriedir ynddo.

Cefnogi tenantiaid nad ydynt yn gymwys am grantiau Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai - Cadwyn

Mae 68% o’r teuluoedd sy’n byw mewn tlodi yn cynnwys o leiaf un oedolyn mewn gwaith. Dywedodd y Sefydliad Tai Siartredig yn ddiweddar nad yw gwaith bellach yn ffordd bendant allan o dlodi gyda 41% o’r rhai sy’n hawlio Credyd Cynhwysol â rhyw fath o gyflogaeth.

Mae’r astudiaeth achos isod yn dangos sut mae tîm cynyddu incwm Cymdeithas Tai Cadwyn yn helpu tenantiaid sy’n wynebu caledi nad ydynt yn gymwys am grantiau Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai drwy eu cyfeirio at wasanaethau partner.

Roedd Miss A a’i mab ifanc yn symud o lety rhent preifat i’w thenantiaeth gymdeithasol gyntaf. Roedd y celfi i gyd wedi eu cynnwys yn y llety yr oeddent yn symud ohono, felly nid oedd ganddynt unrhyw eitemau eu hunain heblaw eu dillad. Nid oedd ei landlord blaenorol wedi dychwelyd ei hernes gyntaf felly nid oedd ganddi unrhyw arian i brynu eitemau ar gyfer ei chartref newydd.

Mae Miss A yn cael ei chyflogi am tua 30 awr yr wythnos, yn ogystal â chredydau treth atodol. Er ei bod yn derbyn budd-dal oedd yn cymhwyso, fe wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau wrthod ei chais am daliad disgresiwn ar gyfer celfi a nwyddau gwyn. Apeliodd Cadwyn ond cafodd y penderfyniad ei gadarnhau (mae’n debyg oherwydd ei hincwm).

Roedd Miss A wedi cymryd ati yn fawr ac yn bryderus, gan ei bod yn dychmygu ei hun a’i mab yn casglu ar y llawr, heb unrhyw gyfleusterau i olchi eu dillad neu goginio eu bwyd.

Arferai Miss A fod yn geisiwr lloches ac wedi ffoi o drais yn ei mamwlad. Oherwydd hyn, nid oedd ganddi unrhyw berthnasau na ffrindiau ym Mhrydain a allai ei chynorthwyo. Esboniodd y tîm yn Cadwyn y sefyllfa i staff NuLife Furniture yng Nghaerdydd, sy’n rhan o’r gymdeithas tai. Er eu bod yn arbenigo mewn celfi, aethant ati yn syth i gysylltu â chymaint o sefydliadau, elusennau ac unigolion ag y medrent i ganfod popeth yr oedd Miss A a’i mab eu hangen.

O fewn saith diwrnod, gallodd NuLife roi peiriant golchi, ffwrn drydan (yn cynnwys ei gosod), dau wely sengl, oergell-rhewgell, soffa tair sedd, cwpwrdd dillad a phecyn cychwynnol o gyllyll a ffyrc a llestri i’r teulu. Ers hynny dywedodd Miss A y byddai hi a’i mab mewn sefyllfa wael heb help NuLife.

Cytundeb lefel gwasanaeth Adra a Chyngor ar Bopeth Gwynedd

Cysylltodd cymdeithas tai Adra, mewn partneriaeth â Cyngor ar Bopeth (CAB) Gwynedd, gyda dros 100 tenant drwy gydol y flwyddyn 2021/22. Er fod llawer o gymdeithasau tai yn cyfeirio tenantiaid at wasanaethau CAB, mae gan Adra berthynas arbennig gyda thîm Gwynedd. Mae hyn yn cynnwys cytundeb rhannu data sy’n galluogi CAB Gwynedd i ddweud sut mae eu hymwneud gyda thenantiaid Adra yn mynd, a rhoi adborth uniongyrchol i dimau ymgysylltu â thenantiaid yn fisol.

Mae Adra yn cyfeirio tenantiaid gyda dyled ganolig i uchel i CAB Gwynedd, lle mae timau yn rhoi cyngor ar ddyledion, cyngor, sut i drin arian a chostau ynni a chyfleustodau. Bydd CAB yn cysylltu gyda thenantiaid dros gyfnodau hir – weithiau fwy na 12 mis. Cafodd Adra y dull hwn yn effeithlon iawn gan fod rhai tenantiaid yn teimlo’n fwy cysurus yn ymwneud gyda sefydliadau niwtral.

Dengys yr astudiaethau achos dilynol sut y mae’r bartneriaeth hon wedi helpu tenantiaid Adra:

Cafodd Mr D ei atgyfeirio am gymorth i apelio yn erbyn penderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roeddent wedi gwrthod ei gais am Daliad Annibynnol Personol. Mae Mr D yn dioddef gyda iechyd meddwl ac mae ganddo broblemau symud. Arweiniodd y penderfyniad at ddirywiad yn ei iechyd meddwl ac at galedi ariannol. Ar ôl ymyriad drwy ailystyried mandadol, bu Mr D yn llwyddiannus wrth newid y penderfyniad ac mae’n awr yn derbyn PIP ar y radd uchaf ac wedi derbyn ôl-daliad.

Cyfanswm enillion: £23,251.80

Daeth Miss G, mam sengl, atom yn dilyn cyfnod ariannol anodd gyda dyledion o £6,983.33. Roedd ei chredydwyr yn mynd â hi i’r llys, a dywedodd y byddai’n ei chael yn anodd talu rhent. Ar ôl edrych i mewn i bethau a chanfod fod digon o arian yn mynd i mewn i’r tŷ, ac nad oedd rheswm am y ddyled, daeth yn glir fod gan Miss G broblem gyda gamblo. Roedd hyn yn creu dyled ac yn golygu fod Miss G yn ei chael yn anodd talu dyled o’i hincwm gwario. Ar ôl derbyn cymorth gyda’i phroblem gamblo, a gweithio ar ei chyllideb, llwyddodd Miss G i roi’r gorau i gamblo a thalodd ei holl ddyledion dros ychydig fisoedd.

Cyfanswm enillion: £6,983.33

Cafodd Miss K ei hatgyfeirio oherwydd dyled, ac i gael helpu i gynyddu ei hincwm. Roedd yn methu gweithio oherwydd salwch. Roedd hyn yn creu anawsterau ariannol gan fod biliau wedi mynd allan o reolaeth a’i bod yn methu canfod ffordd allan. Llwyddodd y tîm i gael grantiau i ddileu dyled o £1,900 a roddodd lechen lân iddi gyda’i biliau. Fe wnaeth hefyd lwyddo i gynyddu ei hincwm drwy edrych ar ei Chredyd Cynhwysol a sicrhau ei bod yn gwneud y cais cywir, a chynorthwyo gyda Taliad Annibyniaeth Personol – mae’n awr ar y radd uchaf ar gyfer y ddwy elfen.

Dyled a gliriwyd: £1,900; cynnydd mewn budd-daliadau: £12,027.80; Cyfanswm enillion: £13,927.80

Cefnogi cwsmeriaid gyda’r cynnydd mewn costau byw - Tai Calon


Mae Tîm Incwm Tai Calon wedi bod yn brysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cefnogi unigolion a theuluoedd sy’n ei chael yn anodd ymdopi gyda’r cynnydd mewn costau byw.

Gyda thîm o 12 Cynghorydd Rhent ac Incwm drasig, mae’r Tîm Incwm yn cadw cysylltiad ac yn rhoi cymorth cynyddu incwm i helpu cwsmeriaid i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, yn cynnwys Budd-daliadau Tai, Credyd Cynhwysol, Taliadau Annibyniaeth Personol a phob budd-dal gwaddol arall.

Yn ogystal â chyngor ar fudd-daliadau a chynyddu incwm, mae’r Tîm Incwm yn cynnig gwahanol opsiynau cymorth, yn cynnwys mynediad i Daliadau Disgresiwn at Gostau Tai, Cronfeydd Tai a Chyllid a chyllid y Tîm Digartrefedd. Mae’r tîm hefyd yn gweithio gyda chwmnïau cyfleustod fel Dŵr Cymru i helpu unigolion mewn aelwydydd incwm isel.

Fe wnaeth y Tîm Incwm helpu bron 3,000 o unigolion i ganfod cymorth y llynedd yn unig. Drwy atgyfeirio at bartneriaid fel Cyngor Ar Bopeth, Banciau Bwyd, Banciau Tanwydd, Cyflogaeth neu Weithwyr Cymorth, roedd y tîm yno bob cam o’r ffordd i helpu’r rhai mewn angen.

Mae’r Tîm Incwm yn ymroddedig i roi blaenoriaeth i lesiant unigolion drwy gamau ataliol, gan ddefnyddio pedair egwyddor a fabwysiadwyd gan y sector tai ar draws Cymru. Gyda chyfradd o 99.88% o denantiaethau’n cael eu cynnal, mae ymdrechion Tîm Incwm yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cwsmeriaid.

"Rydym yma i roi help a chefnogaeth i’r rhai sy’n ei chael yn anodd dod â deupen llinyn ynghyd,” meddai Ceri Owen – Pennaeth Incwm a Chymorth. “Mae 12 o Gynghorwyr Rhent ac Incwm yn ein tîm a maent yn gweithio’n agos gyda’n cwsmeriaid a phartneriaid i gadw mewn cysylltiad agos a chynyddu incwm. Rydym hefyd yma i helpu gyda chymorth cyn-tenantiaeth a chynlluniau talu a brysbennu Credyd Cynhwysol yn ystod cyfnodau risg uchel.”

Nid aeth gwaith y tîm yn ddisylw, ac mae cwsmeriaid wedi canmol y Tîm Incwm am fod yn barod i helpu, eu cydymdeimlad a’u cefnogaeth yn ystod cyfnodau anodd. Mae ymroddiad y Tîm Incwm i gefnogi’r rhai sydd mewn angen ym Mlaenau Gwent yn gymeradwy iawn ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned.

I gael mwy o wybodaeth ar y Tîm Incwm a’r cymorth a ddarparant, ewch i’n gwefan neu gysylltu â nhw yn uniongyrchol.


Cymorth yn newid bywyd - Tai Calon

Rhoddodd Tai Calon gymorth a newidiodd ei fywyd i Mr W yn ystod ei amser o angen.

Ar ôl i’w ferch a dau o’i wyrion gael eu lladd mewn damwain car drasig, roedd Mr W yn byw gyda chyfaill. Bu’n rhaid iddo ganfod rhywle arall i fyw gyda dim ond dwy wythnos o rybudd ac nid oedd ganddo gyfri banc na dulliau adnabod ar gyfer agor un. Dim ond y dillad yr oedd yn eu gwisgo ar y dydd oedd ganddo.

Diolch byth, camodd Joanne Jones a Janice Elliott, Gweithwyr Cymorth Tai Calon, i’r adwy i helpu Mr W. Fe wnaethant gais am dystysgrif geni a sicrhau fflat yn un o gynlluniau gwarchod Tai Calon iddo. Fe wnaethant hefyd gofrestru Mr W gyda banc a meddygfa a defnyddio Cronfa Caledi Tai Calon i gael dillad gwely, llestri, sosbenni a chelfi cegin, a bwyd. Gwnaethant gais llwyddiannus am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor a Thaliad Annibyniaeth Personol.

Fel canlyniad, roedd gan Mr W £1,252 ychwanegol y mis (£15,024 y flwyddyn) a thaliad un-tro o £2,742. Roedd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gafodd, a dywedodd:

“Nid oes neb wedi fy helpu o’r blaen na gwneud unrhyw beth tebyg i hyn i fi. Diolch o waelod calon i chi. Rwyf wrth fy modd gyda fy nghartref, fedra’i ddim credu mai fy lle i yw e”.

Roedd y symudiad llwyddiannus ar gyfer Mr W yn bosibl oherwydd gwaith tîm Tai Calon. Maent i gyd yn ymroddedig i helpu’r rhai sydd mewn angen a rhoi cefnogaeth i denantiaid. Dim ond un enghraifft yw hyn o sut mae’r tîm yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

I gael mwy o wybodaeth am Dîm Lifft, ewch i’n gwefan: https://www.taicalon.org/lifft.... Gallwch eu ffonio ar 0300 303 1717 neu anfon e-bost atynt yn talktous@taicalon.org

Newyddion a blogiau cysylltiedig

Papurau gwybodaeth polisi