CCHA yn sefydlu cronfa caledi i helpu tenantiaid sydd mewn trafferthion
Mae Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CCHA) wedi sefydlu cronfa caledi o £10,000 i helpu tenantiaid sydd mewn trafferthion.
Dyma Donna Simms, Arweinydd Tîm Arian CCHA, yn ysgrifennu pam y sefydlwyd y gronfa a sut mae staff rheng flaen yn ei defnyddio i gefnogi teuluoedd sydd angen help llaw.
“Gan ystyried yr argyfwng costau byw a’r cynnydd mewn biliau cyfleustod, daeth CCHA i wybod yn gyflym am nifer y tenantiaid a’u teuluoedd oedd yn cael pethau’n anodd. Fe wnaethom benderfynu sefydlu Grant Caledi Tenantiaid o £10,000 i atal caledi eithafol. Mae’r gronfa yno i gefnogi tenantiaid yr effeithiwyd waethaf arnynt yn ariannol ac sy’n cael trafferth gyda’r gofynion sylfaenol ar gyfer byw’n gysurus. Mae’r grant yn canolbwyntio ar sicrhau fod gan denantiaid a’u teuluoedd fynediad i fwyd mewn argyfwng lle nad yw banciau bwyd yn opsiwn, dillad ac eitemau glanweithdra personol, nwyddau gwyn sylfaenol (na ellir eu sicrhau drwy Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru), gwelyau a dillad gwella ac arian argyfwng i fesuryddion i sicrhau golau, dŵr twym a gwres yn eu cartrefi.
“Mae’r gronfa yn cefnogi tenantiaid a’u teuluoedd sydd mewn caledi ariannol eithafol neu’n symud oherwydd achosion o drais yn y cartref. Mae hefyd yn cefnogi tenantiaid newydd sydd wedi symud oherwydd cyfnod mewn cynlluniau digartref, nad oes ganddynt efallai fawr neu ddim eiddo personol i sefydlu cartref newydd. Hyd yma, mae’r gronfa wedi cefnogi cyflenwi’r eitemau coginio hanfodol (tebyg i ffyrnau a microdonau) ynghyd â darparu talebau argyfwng ar gyfer mesuryddion, argyfwng, parseli bwyd ac eitemau glanweithdra personol (o’n Cwpwrdd Hanfodion Ystafell Ymolchi yn ein swyddfa ganolog).
Gwelyau a dillad gwely ar gyfer teulu
“Cafodd tenant a phlentyn eu symud o gartref CCHA yn dilyn digwyddiad oedd yn ei gwneud yn anniogel iddynt aros yno. Ar ôl symud a natur y digwyddiad, nid oedd gan y tenant a’r plentyn eu gwelyau na’u dillad gwely eu hunain, yn cynnwys eitemau o ddillad ac eitemau glanweithdra personol. Defnyddiodd y Rheolwr Cymdogaeth y Grant Caledi i fedru cyflenwi dau wely, dillad gwely newydd, dillad ac eitemau glanweithdra personol i’r tenant a’r plentyn i gefnogi eu dechrau newydd yn dilyn y digwyddiad. Dywedodd y tenant y cafodd hyn effaith hollbwysig ar eu bywydau a’u bod yn teimlo fod CCHA wedi rhoi cefnogaeth lawn iddynt.
“Mae ein Rheolwyr Cymdogaeth a Swyddogion Datrysiadau Arian ar y rheng flaen, yn gweithio gyda ac yn cefnogi tenantiaid yn eu cartrefi a’u cymunedau. Maent yn ymweld â thenantiaid yn eu cartrefi, yn magu rapport a pherthynas waith broffesiynol sy’n eu galluogi i wybod lle mae angen cymorth ariannol drwy’r Grant Caledi. Eu barn nhw ar y cais yw’r ffordd fwyaf gwybodus o sicrhau ein bod yn cefnogi’r tenantiaid hynny sydd ei angen. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n Tîm Cynnal a Chadw, gan fod eu gweithwyr yn mynychu cartref tenantiaid i gwblhau gwaith atgyweirio bob dydd a gallant hefyd adnabod tenantiaid sydd mewn trafferthion ariannol. Gallant gyfeirio hefyd at y Rheolwr Cymdogaeth a’r Swyddog Datrysiadau Arian i sicrhau fod gennym wasanaeth cymorth 360-gradd ar gyfer eu tenantiaid a’u teuluoedd bob amser.”
Pa wahaniaeth wnaeth hyn i fywydau tenantiaid?
“Mae tenantiaid a’u teuluoedd eu cefnogi drwy’r Grant Caledi wedi rhoi adborth cadarnhaol ar sut maent yn teimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth, yn medru herio eu sefyllfaoedd ariannol, yn teimlo’n ddiogel a chysurus yn eu cartrefi ac wedi aros mewn cysylltiad gyda CCHA ar faterion eraill. Rydym wedi gweld yr ymgysylltu gyda’r tenantiaid a gafodd gymorth yn cynyddu, lle gallai fod wedi bod yn ysbeidiol o’r blaen. Mae tenantiaid yn dod i ymddiried ynom fel landlord caredig a gofalgar sy’n ffurfio rhannau pwysig o werthoedd a nodau strategol CCHA.”