Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn galw am bump o uwch arweinwyr ymroddedig i helpu i siapio sector tai cymdeithasol Cymru fel rhan o’i fwrdd cyfarwyddwyr.
Rydym yn gobeithio penodi tri aelod o’r sector LCC yng Nghymru a dau aelod annibynnol i ymuno â’n bwrdd presennol o fis Tachwedd ymlaen.
Mae ein haelodau o’r bwrdd yn sicrhau bod y sefydliad yn gallu parhau i wneud Cymru yn wlad lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.
Fel y corff aelodaeth sy’n cynrychioli cymdeithasau tai, rydym yn dylanwadu ar newidiadau cadarnhaol i bolisi sy’n annog cyllido cynaliadwy a sefydlog, arferion llywodraethu da a gwelliannau i’r sector. Rydym yn gweithredu fel canolfan i ddwyn aelodau at ei gilydd i ddysgu, tyfu, herio ac ymdrin â’r cyfleoedd a’r heriau yn ein sector ar y cyd.
Rydym yn cadw’n unol ag arferion llywodraethu da'r sector, ac felly rydym yn recriwtio nifer o aelodau i’r Bwrdd gan fod cydweithwyr wedi gwasanaethu am eu tymor cyfan.
Dywedodd yr aelod presennol o’r bwrdd a phrif weithredwr Techniquest, Lesley Kirkpatrick: “Rwy’n anhygoel o falch o eistedd ar fwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru yn aelod annibynnol, ac rwy’n defnyddio fy 15 mlynedd yn uwch arweinydd, ar draws amrywiaeth o sectorau, i helpu i yrru cynnydd gwerthfawr ar draws sector tai blaengar Cymru.
“Galluoga’r swyddogaeth hon, sy’n rhoi boddhad anhygoel, i mi dynnu ar fy nghryfderau wrth yrru newid a chael sicrwydd tymor hir i sefydliadau nid er elw ac elusennol gwerthfawr, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
“Rwyf hefyd yn credu bod gwella cyfleoedd addysgol a chyflogaeth i’r genhedlaeth nesaf yn allweddol o ran twf cymunedol a chymdeithasol, ac rwy’n falch o hyrwyddo hyn trwy fy ngwaith yn CHC.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael effaith gwirioneddol ar dai cymdeithasol yng Nghymru i ymgeisio i gael ymuno â’r bwrdd hwn.”
Rydym yn awr yn chwilio am bum aelod newydd o’r bwrdd, gan gynnwys aelodau o’r sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (LCC) ac aelodau o sefydliadau annibynnol yng Nghymru.
Aelodau o’r bwrdd o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
Ar gyfer y tri aelod o’r bwrdd sy’n gysylltiedig â’r sector LCC yng Nghymru, rydym yn chwilio am brofiad ar lefel uwch gydag unrhyw LCC yng Nghymru ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ymgeiswyr o Ogledd Cymru.
Gallech fod yn Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr, Cadeirydd, Aelod o’r Bwrdd neu fod â rhyw swydd uwch ac yn chwilio am gyfle i ddylanwadu ar y sector o safbwynt gwahanol. Er y gallech fod ag arbenigedd mewn maes penodol, byddwch yn weithiwr proffesiynol profiadol sy’n deall hyd a lled yr her, rheoliadau, a’r newidiadau parhaus i’r sector. Rydym hefyd yn chwilio am brofiad blaenorol neu gyfredol fel Cyfarwyddwr Anweithredol/Ymddiriedolwr.
Aelodau annibynnol o’r bwrdd
Ar gyfer y swyddi gwag i aelodau annibynnol o’r bwrdd, rydym yn chwilio am brofiad gweithredol o sectorau eraill. Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o weithio ar ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid. Mae profiad o arferion llywodraethu da, materion cyhoeddus, lobïo ac eiriolaeth oll yn sgiliau gwerthfawr i’n Bwrdd.
Rydym hefyd yn chwilio am brofiad cyfredol neu flaenorol fel Cyfarwyddwr Anweithredol/Ymddiriedolwr ar gyfer y swyddi hyn; ond, rydym yn eiddgar i weld y profiad hwn o unrhyw sector.
Cysylltwch a’n helpu i siapio’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru.
Er mwyn ymgeisio dilynwch y ddolen.