Jump to content

Cynadleddau 24/25

Mae ein cynadleddau yn denu cannoedd o staff o blith cymdeithasau tai Cymru a thu hwnt. Cânt eu datblygu mewn cysylltiad â’r sector i sicrhau eu bod yn berthnasol ac amserol.

Rydym yn falch i ddweud y bydd ein holl gynadleddau yn 2024/25 yn rhai wyneb yn wyneb ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n digwyddiad nesaf.

Y cynadleddau sydd ar y rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod yw:

  • Cynhadledd Llywodraethiant 19 a 20 Mawrth 2024, voco Gwesty a Sba St David’s
  • Un Gynhadledd Tai Fawr 4 a 5 Gorffennaf 2024, Gwesty a Sba Metropole, Llandrindod
  • Cynhadledd Cyllid – 3 a 4 Hydref 2024, Gwesty a Sba Metropole, Llandrindod
  • Cynhadledd Flynyddol – 19 a 20 Tachwedd 2024 (lleoliad i’w gadarnhau)

Caiff ein digwyddiadau eu datblygu i rannu arfer gorau, syniadau newydd, datrysiadau a chyfleoedd rhwydweithio.

Hoffech chi arddangos neu noddi digwyddiad? Mae’r holl opsiynau ar gael yma . Cysylltwch â Terryanne O'Connell, ein Cynhrychydd Digwyddiadau, gydag unrhyw ymholiadau.

Cynhadledd Llywodraethiant CHC 2024
Cynadleddau 2 days voco St David's Hotel & Spa, Cardiff Bay
Mawrth 19, 2024 @ 9:30yb

Cynhadledd Llywodraethiant CHC 2024

Byw ein diben creiddiol

Mae ein Cynhadledd Llywodraethiant flynyddol bob amser yn rhoi cyfle i arweinwyr yn ein sector gymryd cam yn ôl, myfyrio ac ystyried y newidiadau sydd i ddod.

Cynhelir cynhadledd llywodraethiant 2024 ar 19 a 20 Mawrth 2024 a bydd ei ffocws ar sut y gall arweinyddiaeth, a seiliwyd ar systemau llywodraethiant a diwylliant effeithiol, fod yn sbardun i’ch sefydliad i wneud y gwahaniaeth mwyaf i denantiaid a’r cymunedau yr ydych yn gweithio ynddynt.

Gwyddom fod heriau lluosog a chymhleth, sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, yn wynebu eich tenantiaid a’ch sefydliad. Bydd y digwyddiad yn rhoi amser a lle i ddathlu y llu o ddatrysiadau a chyfleoedd o fewn y sector ac ymhellach i ffwrdd ac ystyried sut y gallwch gynyddu eich heffaith i’r eithaf.

Bydd tocynnau ar gael yn y dyfodol agos.