Cynhadledd Llywodraethiant 2024
Caiff ein Cynhadledd Llywodraethiant ei chynnal yng Ngwesty a Sba voco St David’s ym mis Mawrth.
Bydd y digwyddiad yn dod ag aelodau cymdeithasau tai, arbenigwyr y sector a phartneriaid ynghyd am ddeuddydd o drafodaethau, paneli a rhwydweithio ar 19 a 20 Mawrth.
Ym Mae Caerdydd, bydd y gynhadledd yn rhoi gofod lle gall arweinwyr y sector gael cyfle i drafod, rhannu syniadau ac ystyried yr heriau sydd o’n blaenau eleni.
Beth fydd yn cael ei drafod?
Bydd cynhadledd eleni yn annog arweinwyr i drafod sut y gall cymdeithasau tai gyflawni eu diben craidd yn 2024.
Gwahoddir aelodau cymdeithasau tai i ystyried sut y gall arweinyddiaeth, a seiliwyd ar systemau a diwylliant llywodraethiant effeithiol, helpu i sicrhau newid cadarnhaol ar draws eu sefydliadau a gwneud y gwahaniaeth mwyaf i denantiaid a’u cymunedau.
Bydd ein cynhadledd yn rhoi amser a gofod gwerthfawr i bobl sy’n gweithio ar draws y sector yng Nghymru, ynghyd â’u partneriaid, i drafod eu datrysiadau i heriau cyffredin ac ymchwilio cyfleoedd a fedrai fod o fudd i gymdeithasau tai a’r gwasanaethau hanfodol a ddarparant.
A oes ganddo ardystiad CPD?
Mae gan ein Cynhadledd Llywodraethiant nawr ardystiad CPD, a gall cynrychiolwyr sy’n mynychu gofnodi eu presenoldeb fel oriau a phwyntiau CPD.
Mae cael ardystiad CPD yn tanlinellu ein hymrwymiad i greu a darparu cyfleoedd dysgu cyfoethog i gynrychiolwyr, a rhannu arfer gorau o bob rhan o’r sector.
Caiff y rhai sy’n mynychu dystysgrif, fydd yn cyfrannuu at eu datblygiad proffesiynol parhaus.
Pwy ddylai fynychu?
Caiff ein Cynhadledd Llywodraethiant ei mynychu gan gynulleidfa amrywiol o arweinwyr tai yn cynnwys prif weithredwyr, cadeiryddion ac aelodau bwrdd cymdeithasau tai, ynghyd â phartneriaid y sector a sefydliadau cysylltiedig.
Pwy sy’n siarad yn y gynhadledd?
Mae ein prif siaradwyr a gadarnhawyd hyd yma eleni yn cynnwys:
- Darren Burns, cyfarwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant, Timpsons
- Helen Barnard, cyfarwyddwr polisi ymchwil ac effaith, Ymddiriedolaeth Trussell
- Karl west, freelance writer and senior consultant, Institute of Directors
Caiff mwy o siaradwyr eu hychwanegu, edrychwch ar ein agenda i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.