Un cwestiwn mawr: beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i sector tai cymdeithasol Cymru yn 2024?
Wrth i ni edrych ymlaen at yr hyn a ddaw 2024 ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru, buom yn siarad gydag arweinwyr a phartneriaid o bob rhan o’r sector i ofyn un cwestiwn mawr iddynt ...
Beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i sector tai cymdeithasol Cymru yn 2024?
Dywedodd Scott Sanders, prif weithredwr Linc Cymru
“Mae llawer y gallem siarad amdano yma, yn cynnwys faint o gartrefi yr ydym wedi dod â nhw yn ôl i ddefnydd i ostwng faint o ddigartrefedd sy’n bodoli yng Nghymru, i wneud yn siŵr fod gan bobl rywle diogel a thwym i fyw a hefyd i ddechrau cyflawni eu huchelgeisiau mewn bywyd.
“Mae hynny yn hanfodol bwysig ac yn eistedd wrth ochr yr hyn rwy’n ei ddewis, sydd yn ymwneud â deall fforddiadwyedd yn ei synnwyr mwyaf gwir ar gyfer y sector tai cymdeithasol a’n cwsmeriaid.
“Rydym yn cyrraedd amser nawr lle gallwn ailfeddwl am y ffordd mae ein rhenti a thaliadau gwasanaeth yn gweithio o fewn y busnes, ac wedyn mae hynny’n dod â chyfle hefyd i ystyried costau byw a chost cyfleustodau yn ein cartrefi.
“Rydym yn buddsoddi mwy mewn cartrefi adeilad newydd, sy’n smart iawn ac yn effeithiol iawn, ac yn buddsoddi’n helaeth yn ein cartrefi presennol i’w codi i safon fydd hefyd yn adlewyrchu’r ffordd honno o fyw. Mae hynny’n golygu y gallwn ailystyried y berthynas rhwng fforddiadwyedd a byw, ac mae hynny’n sgwrs rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei chael gyda chydweithwyr yn y sector, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a llawer mwy tu hwnt.
“Mae’n amser i feddwl eto am y ffordd y gwnawn bethau a gwneud yn siŵr y gallwn barhau i fuddsoddi yn ein cartrefi ar y lefel y dymunwn ei wneud. Mae’r rhent a gawn yn bwysig iawn i’r swm buddsoddiad y gallwn ei greu, ond mae angen i dai fforddiadwy gyflawni ei ddisgrifiad a bod yn wirioneddol fforddiadwy. Dyna beth rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn newid dros gyfnod."
Wrth siarad yng Nghynhadledd Flynyddol CHC ym mis Tachwedd 2023 dywedodd Nerys Evans, cyfarwyddwr asiantaeth materion cyhoeddus Deryn
“Yr hyn fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yw cyllidebau ac yn anffodus, yn dilyn Datganiad yr Hydref, nid ydym yn edrych ar unrhyw gynnydd, ond gobeithio sefyllfa aros yn ei hunfan o ran arian.
“Ond rydym yn disgwyl cyllideb San Steffan yn y flwyddyn newydd [2024] a hefyd gyllideb Llywodraeth Cymru, felly mae am wneud yn siŵr y caiff llais cymdeithasau tai ei glywed o fewn y penderfyniadau cyllideb hynny, ac rwy’n meddwl mai hynny fyddai’n cael yr effaith fwyaf yn nhermau’r gwaith a wnânt bob dydd ar gyfer pobl ar draws ein cymunedau.”
Dywedodd Clarissa Corbisiero, dirprwy brif weithredwr Cartrefi Cymunedol
“Mae gennym uchelgeisiau mawr yng Nghymru ac iawn felly.
“Mae cymdeithasau tai dim-er-elw, sy’n cartrefu un ym mhob deg o boblogaeth Cymru, yn buddsoddi mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru ac mae ganddynt ran bwysig i’w chwarae.
“Fy un dymuniad mawr ar gyfer tai yn 2024 yw ffocws cadarn a phenderfynol i ganolbwyntio ar weithredu a gwneud iddo ddigwydd.
“Byddai dau beth yn ein helpu gyda hyn. Yn gyntaf mewn byd ansicr, ostwng risg lle bynnag y medrwch. Gallwn weld yr effaith a gafodd darparu sicrwydd dros yr ychydig flynyddoedd cyntaf pan dderbyniwyd y symiau uchaf erioed o gyllid cyfalaf ar gyfer codi tai cymdeithasol newydd. Mae wedi galluogi cymdeithasau tai i ddal ati i adeiladu tai mewn amgylchedd anhygoel o anodd, rydym angen yr un sicrwydd am weddill tymor y Senedd.
“Ac yn ail, rydym angen cynllun cyflenwi hirdymor a all fynd wrth ochr ein huchelgeisiau ar y cyd i gynyddu effeithiolrwydd tai cymdeithasol presennol.
“Ynghyd â hyn, mewn amgylchedd lle mae arian yn dyn a bod systemau gwasanaethau dan straen, mae’n rhaid i wasanaethau galluogi fod ar ganol y llwyfan – mae hynny’n golygu blaenoriaeth i gyllid ar gyfer pethau tebyg i’r Grant Cymorth Tai, y gwyddom sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth mewn atal cynifer o bobl rhag cyrraedd pwynt argyfwng.
“Ac yn olaf, mae hefyd yn golygu meddwl yn greadigol am sut y gallwn wneud yn siŵr fod ein timau cynllunio sydd dan gymaint o bwysau yn cael yr adnoddau maent eu hangen.”
Fe wnaethom siarad gyda Steve Richards, colofnydd gwleidyddol The Guardian, darlledwr ac awdur, yn ein Cynhadledd Flynyddol ym mis Tachwedd, i gael ei farn ar beth fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i sector tai cymdeithasol y Deyrnas Unedig eleni.
Dywedodd: “Mae’n edrych fel y bydd newid llywodraeth yn San Steffan am y tro cyntaf mewn 14 mlynedd, ac un fydd yn rhoi ffocws mawr ar dai fel ysgogydd twf economaidd.
“Wyddom ni ddim p’un ai a fydd y llywodraeth Lafur, os oes un yn San Steffan, yn cyflawni’r math yna o syniad. Ond hyd yn oed os yw’n dechrau gwneud hynny, mae’n golygu y bydd tai yn bwnc pwysig yn Lloegr – mae eisoes yn bwnc sylweddol yng Nghymru – ond efallai y daw yn bwnc mwy gan nad oes gan lywodraeth Lafur yn San Steffan unrhyw ddewis heblaw mynd i’r afael â phroblemau cronig yn ymwneud â thai cymdeithasol yn Lloegr.
“Un o rinweddau posibl datganoli yw bod cysylltiad rhwng yr hyn y mae pob rhan wahanol o’r Deyrnas Unedig yn ei wneud, felly efallai y byddai newid llywodraeth yn San Steffan yn cael tonau ehangach o ran y ffordd y caiff tai ei ystyried ar draws y Deyrnas Unedig.”