Cynnal Cynhadledd Flynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru yn Techniquest ym mis Tachwedd
Mae Cynhadledd Flynyddol Cartrefi Cymunedol Cymru yn argoeli bod yn ddeuddydd “hanfodol” unwaith eto wrth iddi fynd i ganolfan wyddoniaeth Techniquest ym mis Tachwedd.
Cynhelir y digwyddiad poblogaidd yn y ganolfan gwyddoniaeth ac addysg ym Mae Caerdydd ar 28 a 29 Tachwedd, gyda chinio i ddilyn yn voco Gwesty a Sba St David’s.
Yn ddyddiad allweddol yn y calendr ar gyfer pawb yn y sector tai cymdeithasol, mae’n gyfle i arweinwyr cymdeithasau tai, partneriaid ac arbenigwyr y diwydiant o bob rhan o Gymru i ddod ynghyd a thrafod y materion diweddaraf, symudiadau a heriau eang.
Bydd cynrychiolwyr yn clywed gan siaradwyr blaenllaw, amrywiaeth o banelwyr a chymryd rhan mewn llu o grwpiau trafod yn ymchwilio materion gwleidyddol ac economaidd, yr amgylchedd gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig ac anghydraddoldeb a thlodi yng Nghymru.
Byddant hefyd yn cael cyfle i rannu arfer gorau ar sut maent yn cefnogi pobl sy’n byw yn eu cartrefi, a ffurfio partneriaethau hollbwysig ar draws y sector.
Darllenwch ragor o flogiau gan CHC yma:
Wrth siarad am y gynhadledd, dywedodd Stuart Ropke prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru ei fod yn argoeli bod yn ddigwyddiad cofiadwy arall a byddai’n amlygu cydnerthedd parhaus y sector.
Dywedodd: “Rydym yn edrych ymlaen at fynd â’n Cynhadledd Flynyddol i Techniquest, fydd yn rhoi gofod diddorol a difyr i’n galluogi i drafod yr holl faterion sector-gyfan diweddaraf sy’n wynebu tai cymdeithasol.
“Bydd y digwyddiad hanfodol hwn hefyd yn ein galluogi i roi sylw i gydnerthedd parhaus cymdeithasau tai ar draws Cymru, sydd wedi parhau i wynebu heriau digynsail dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Nid yn unig maent wedi dod ynghyd i rannu arfer gorau, maent hefyd wedi defnyddio gwybodaeth partneriaid y sector a’r rhai sy’n byw yn eu cartrefi i gyfoethogi eu gwasanaethau a darparu tai sy’n diwallu anghenion esblygol eu tenantiaid a chymunedau.
“Edrychwn ymlaen at groesawu arweinwyr o bob rhan o’n sector i’n cynhadledd pan fydd yn dychwelyd ym mis Tachwedd.”
Bydd archebion ar gyfer tri neu fwy o gynrychiolwyr yn derbyn tocyn am ddim, a gallant hefyd gael mynediad i’n detholiad o ystafelloedd a neilltuwyd am £149 Gwely a Brecwast yn voco Gwesty a Sba St David’s, lle cynhelir cinio y Gynhadledd Flynyddol. Dim ond tan 16 Medi y bydd y cynigion hyn ar gael.
Mae mwy o wybodaeth am y gynhadledd a sut i archebu tocynnau ar gael ar dudalen y Gynhadledd Flynyddolar wefan CHC.
Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau cysylltwch â media@chcymru.org.uk