Jump to content

Un Gynhadledd Tai Fawr

Yn ôl ar gyfer 2023!

Cynhadledd Flynyddol CHC 2023

Mae Un Gynhadledd Tai Fawr boblogaidd Cartrefi Cymunedol Cymru yn dychwelyd i Gaerdydd eleni gyda rhaglen gyffrous a diddorol o sesiynau i ysbrydoli.

Gwahoddwn weithwyr proffesiynol yn y maes tai cymdeithasol o bob rhan o’r sector i ymuno â ni wrth i ni drafod datblygiadau polisi tai diweddar, rhoi sylw i arfer gorau a gweithio allan sut y gallwn gyflawni ei nodau cyffredin gyda’n gilydd.

Llun o’r Gynhadledd gyda siaradwyr ar y llwyfan

Am beth mae hyn?

Mae cymdeithasau ai yng Nghymru dan fwy o bwysau nag erioed, gan ddelio gyda phroblemau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd tebyg i oedi gyda datblygu, yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng costau byw. Eto, maent yn parhau yn ganolog i fywyd Cymru, gan ddarparu cartrefi hanfodol i 10% o’r boblogaeth, adeiladu cymunedau sy’n ffynnu a chefnogi pobl i fyw’n dda.

Ymunwch â ni ar 4 a 5 Gorffennaf 2023 wrth i ni weithio drwy’r heriau hyn gyda’n gilydd a’ch helpu i ddatblygu’r dulliau a chael y ddirnadaeth sydd ei hangen i gefnogi gweledigaeth ein sector o wneud Cymru yn wlad lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.

I gael mwy o wybodaeth ac i ganfod pa siaradwyr fydd yn cymryd rhan, cliciwch yma.

Pwy ddylai fynychu?

Mae Un Gynhadledd Tai Fawr wedi’i hanelu at staff sector tai o bob lefel o fewn cyllid, rheolaeth tai, datblygu, diogelwch a rheoli asedau – ac aelodau bwrdd hefyd.

Siaradwyr Cynhadledd Flynyddol CHC ar y llwyfan 2022