Tair ffaith FAWR am siaradwyr Un Gynhadledd Fawr: Tori James
Gyda’n Un Cynhadledd Fawr ond wythnosau i ffwrdd, roeddem eisiau eich cyflwyno i Tori James, ein hail brif siaradwraig.
Mae Tori ar ben y byd gydag anturiaethau yn cynnwys rhai o heriau anoddaf ein planed.
Dyma’r tri pheth MAWR i wybod am Tori cyn i ni ei chroesawu i’r gynhadledd.
Mae wedi dringo Mount Everest
Tori oedd y Gymraes gyntaf i ddringo Mount Everest – a gwnaeth hynny pan oedd ond 25 oed! Omar Samra, oedd yn y tîm gyda hi, oedd yr Eifftiwr cyntaf i wneud hynny.
Mae hefyd yn seren rhaglen ddogfen On Top of the World ar y BBC sy’n dilyn ei halldaith, ac yn awdur Peak Performance, sy’n disgrifio dringo’r copa.
Mae wedi sgïo i Begwn Magnetig y Gogledd
Roedd Toni yn aelod o’r tîm menywod cyntaf i sgïo i Begwn Magnetig y Gogledd mewn her begynol 360 milltir.
Ac nid y cyfan ...
Mae Toni hefyd wedi seiclo ar hyd Seland Newydd, cyfanswm o 2400km, ac mae’n dal y record am y croesiad kayak môr agored hiraf yn nyfroedd y Deyrnas Unedig. Cyflawnodd hyn pan ddaeth tîm Beeline Britain y cyntaf i deithio mewn llinell syth o Land’s End to John O’Groats.
I gael mwy o wybodaeth ar ein Un Cynhadledd Fawr ac i archebu tocynnau ewch i dudalen archebu a gwybodaeth Un Gynhadledd Fawr.