Cynhadledd Llywodraethiant CHC 2024
Agenda ddrafft - yn amodol ar newid
Diwrnod 1 – 19 Mawrth 2024
08.45am Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
09.45am Croeso gan y Cadeirydd “Cyflwyniad i Ddiwrnod 1” - Behnaz Akhgar, Cyflwynydd Radio BBC Cymru
09.55am “Gosod y Llwyfan” - Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol, Cartrefi Cymunedol Cymru
10.15am Prif Siaradwr - “Cefnogi lleoedd i ffynnu” - Darren Burns, Cyfarwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant, grwp Timpson
Yn ystod y sesiwn yma bydd ein siaradwyr cyweirnod yn rhannu eu hangerdd am amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal â’u dirnadaeth a phrofiad o rôl sefydliadau angor a sut maent yn buddsoddi a chefnogi cymunedau lleol.
10.45am "Sesiwn panel: Beth mae byw eich diben yn ei olygu yn ymarferol?”
Bydd ein panel arbenigwyr yn ystyried y dadansoddiad a gaiff ei rannu gan ein prif siaradwr ac ystyried beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru.
- Darren Burns, Cyfarwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant, grwp Timpson
- Sophie Camburn, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dinasoedd, Cynllunio & Dylunio Arup ar gyfer y Gorllewin
- Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
11.30am Egwyl lluniaeth a gweld yr arddangosfa
12.00pm Prif Sgwrs – I’w chyhoeddi
12.30pm Gweithdai
“Cyfathrebu effeithlon mewn argyfwng” - John Wilkinson, Scruffydog PR, Cadeirydd, CIPR Cymru
Beth sy’n digwydd pan aiff pethau o chwith? Bydd y sesiwn yma yn rhoi gwybodaeth a chyngor da ar sut i gyfathrebu’n effeithiol gyda staff a phartneriaid yn ystod argyfwng.
“Sut olwg sydd ar sicrwydd da?” - Ceri Victory-Rowe, Cyfarwyddwr, Campbell Tickell
Beth yw sicrwydd? Mae deall sut i gael sicrwydd yn elfen ganolog ar gyfer Byrddau effeithiol. Bydd y gweithdy hwn yn rhannu syniadau ac awgrymiadau ymarferol ar gyfer aelodau Bwrdd.
“Uniondeb Data" – Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Bydd cynrychiolwyr o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnal gweithdy ar sut y gallwn wella diogeliad data ein tenantiaid
1.15pm Cinio
2.15pm Gweithdai
“Hacio eich gwasanaethau, cynnwys tenantiaid mewn adolygu ac ailwampio gwasanaethau landlord a'r cysylltiadau â llywodraethu” - David Lloyd, Cyfarwyddwr Rhaglen, TPAS Cymru
Yn ystod y gweithdy hwn byddwch yn clywed gan arbenigwr mewn ymgysylltu â thenantiaid i gefnogi sefydliadau, er mwyn defnyddio eu profiadau i barhau i wella’r gwasanaethau a ddarparant. Byddwch hefyd yn archwilio sut y gall y dull ymgysylltu hwn gryfhau eich trefniadau llywodraethu
“Y fframwaith rheoleiddiol – Adolygiad Sicrwydd Rheoleiddiol Llawn”
Yn y gweithdy hwn byddwn yn clywed mwy o fanylion gan y tîm Rheoleiddio am gyflwyno’r Adolygiad Sicrwydd Rheoleiddiol Llawn a’r hyn mae’n ei olygu ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru.
“Her cefnogi lles meddwl – eich rôl fel sefydliad ac fel bwrdd” - Duncan Forbes, Prif Weithredwr, Trivallis
Bydd aelod un o’n cymdeithasau tai yn cynnal y gweithdy hwn i rannu’r hyn a ddysgodd a dirnadaeth am rôl a dyletswydd arweinwyr wrth gefnogi llesiant ac iechyd meddwl da.
“Grym Cyfathrebu” – Natalie Tate, arweinydd prosiect Talking About Housing, JRF
“Gwyntoedd Blaen Ariannol – Safbwynt Benthycydd” – Richard Wales, Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol, Principality
3.30pm Egwyl lluniaeth a gweld yr arddangosfa
4.00pm Prif Siaradwr - Helen Barnard, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil ac Effaith, Ymddiriedolaeth Trussell
Fel llais blaenllaw ar ddatrysiadau gwrthdlodi, bydd Helen yn ystyried canfyddiadau ei hymchwil wrth ysgrifennu “Want” ac ymchwil diweddar arall yn Ymddiriedolaeth Trussell. Byddwn yn ystyried rôl pawb ohonom wrth sicrhau llwybr cynaliadwy allan o dlodi ar gyfer yr unigolion, y teuluoedd a’r cymunedau a wasanaethwn.
4.45pm Cloi’r Gynhadledd
5.00 pm Derbyniad diodydd - Rydym yn falch i wahodd pob cynrychiolydd i ymuno â ni am dderbyniad diodydd bywiog a canapés hyfryd ar ddiwedd y diwrnod cyntaf. Bydd hwn yn gyfle gwych i’r sawl sy’n mynychu i ymlacio, cysylltu a thrafod mewn awyrgylch hamddenol.
Diwrnod 2 – 20 Mawrth 2024
08.45 am Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa
09.30 am Croeso gan y Cadeirydd - “Cyflwyniad i Ddiwrnod Dau”
09.40am Prif Siaradwr, “Gwleidyddiaeth ac economeg”– Claer Barrett, Newyddiadurydd a Golygydd Defnyddwyr Financial Times
Gan fwrw golwg yn ôl ar gythrwfl gwleidyddol ac economaidd diweddar, bydd ein prif siaradwr yn ymchwilio’r hyn allai fod o’n blaenau yn y dyfodol
10.25am Sesiwn Panel “Newidiadau Gwleidyddol a’u Goblygiadau”
Bydd ein panel arbenigwyr yn trafod y dadansoddiad a roddwyd gan ein prif siaradwr ac ystyried beth mae hyn yn ei olygu i Gymru.
- Claer Barrett, Newyddiadurydd a Golygydd Defnyddwyr The Financial Times
- Victoria Winckler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan
- Ruth Power, Prif Swyddog Gweithredol, Shelter Cymru
11.15am Egwyl lluniaeth a gweld yr arddangosfa
11.45am Gweithdai
"Rôl yr Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol" - Carol Kay, UGA, Trivallis
“Pŵer Pobl” - James Green, Eastlight Community Homes
“Sut mae datgarboneiddio yn teimlo i’r rhai sy’n byw yn ein cartrefi?” – Solitaire Pritchard, Grŵp Pobl
Bydd Nigel Ireland, Barcud Shared Services yn cyflwyno sesiwn sy’n trafod rôl cynllunio archwilio effeithlon mewn llywodraethiant effeithlon. Yn ddelfrydol bydd y sesiwn yn ymchwilio rôl archwilio mewn cynllunio strategaeth, rheoli risg a sicrwydd effeithlon.
12.30pm Prif Siaradwr (i'w gyhoeddi)
1.15pm Cloi’r Gynhadledd, Cinio