Cysylltedd digidol
Cyflwyniad ymchwil
Mae mynediad i ddata a’r rhyngrwyd yn bwysicach nag erioed, nid yn unig i helpu pobl aros mewn cysylltiad ond fel y gall plant gael mynediad i waith cartref, ac y gall oedolion gael mynediad i gyfrifon banc, cyflogaeth a gwybodaeth am fudd-daliadau, a llawer mwy.
Nid yw 7% o oedolion Cymru ar-lein a gall effaith costau sy’n cystadlu ac yn cynyddu olygu ei bod yn anos i fod ar-lein. Mae biliau digidol wedi codi eleni, gydag adroddiadau fod rhai darparwyr symudol a band eang wedi cynyddu prisiau gan fwy na 9% fel rhan o’r cynnydd blynyddol.
Gyda chynifer o wasanaethau yn awr ar gael ar-lein yn bennaf, bu cymdeithasau tai yn gweithio i sicrhau fod eu tenantiaid yn aros mewn cysylltiad. Nid yw allgau digidol yn broblem newydd a dros y blynyddoedd bu cymdeithasau tai yn cefnogi tenantiaid a chymunedau ehangach i ddatblygu a gwella sgiliau a mynediad er mwyn galluogi pobl i fod yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol.
I gyfrannu astudiaeth achos neu adnodd i’r adran hon, anfonwch e-bost at bethany-howells@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda.
Astudiaethau achos
Cardiau SIM gydag arian arnynt eisoes a benthyciadau offer digidol - Cymdeithas Tai Newydd
Bu Cymdeithas Tai Newydd yn cynnig benthyciadau tymor byr o gardiau SIM gydag arian arnynt eisoes ac offer digidol yn cynnwys llechi, gliniaduron ac offer sain deallus i helpu tenantiaid i fynd ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yn effeithlon ac yn ddiogel.
Gwelodd tîm cynhwysiant ariannol y gymdeithas tai gynnydd amlwg mewn llwythi achos gydag amser arweiniol hirach ar gyfer cymorth oherwydd nifer y tenantiaid sydd angen help gyda chostau byw.
Gan fod eisiau pontio’r ‘bwlch digidol’ sy’n atal llawer o denantiaid rhag gwneud y defnydd gorau o’r rhyngrwyd, mae’r cynlluniau cerdyn SIM a benthyg offer yn golygu fod tenantiaid yn arbed arian ar filiau a phrynu drwy beidio gorfod neidio mewn i unrhyw gontract heb gael amser i gymharu prisiau a dewis y cynigion gorau.
Mae’r gwasanaeth cymorth digidol yn llenwi’r bwlch os nad oes gan denantiaid y sgiliau neu’r wybodaeth sydd ei hangen i hawlio Credyd Cynhwysol hefyd.
Caiff pob tenant y cyfle i gael mynediad i ddyfeisiau o’r amser y maent yn cofrestru. Caiff tenantiaid eu dynodi drwy’r rhaglen cynhwysiant digidol a thîm yr adran tai i sicrhau fod y dyfeisiau a roddir yn cael yr effaith mwyaf.
Cyfrannodd un partner, ComputerWorld, offer a gaiff yn awr ei ddefnyddio gan 16 aelwyd tenant. Roedd Cymdeithas Tai Newydd hefyd yn bartner yng Nghynllun Benthyg Llechen y Fro, sydd wedi galluogi dros 100 o aelwydydd i gael mynediad i ddyfeisiau digidol ers ei lansio.
Mae’r gymdeithas tai hefyd yn rhoi cefnogaeth ar-lein drwy ystafell ddosbarth cymorth digidol Google. Defnyddir hyn i ddatblygu hyder a gallu tenantiaid mewn pynciau yn cynnwys:
- deall eich ffôn Android neu iPhone;
- rhwydweithio cymdeithasol;
- sgiliau digidol yn y gweithlu modern;
- gwasanaethau llywodraeth.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu hoffech chi gael mwy o wybodaeth am sut y cafodd y cynllun ei sefydlu? Anfonwch e-bost at Scott.tandy@newydd.co.uk
iConnect – Cymdeithas Tai Sir Fynwy a Cartrefi Melin
Nod prosiect cynhwysiant digidol iConnect oedd helpu tenantiaid Cymdeithas Tai Sir Fynwy a Cartrefi Melin i gael mynediad i wasanaethau ar-lein. Fe wnaeth y swyddogion prosiect yn benodol dargedu pobl oedd wedi eu hallgau’n ddigidol, yn cynnwys rhai oedd yn economaidd weithgar ac yn ddi-waith hirdymor, yn ogystal â busnesau a theuluoedd mewn gwaith.