Ynni a thanwydd
Cyflwyniad ymchwil
Dangosodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i sicrhau y gall pawb yng Nghymru fyw mewn cartref diogel, cynnes a staff drwy ei ymchwiliad diweddar i Gartrefi Cynnes a Thlodi Tanwydd. Fodd bynnag, mae’r Senedd wedi rhagweld y gallai 614,000 o aelwydydd fod yn byw mewn tlodi tanwydd (45%) yng ngaeaf 2022. Mae hyn yn gynnydd enfawr o’r 200,000 o aelwydydd oedd yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2021 (15%).
Ar y dudalen hon gwelwch wybodaeth am sut mae cymdeithasau tai yn gweithredu i ddelio gyda thlodi tanwydd yn y dyfodol agos, tra’u bod yn parhau i gyflwyno mesurau i sicrhau fod eu stoc tai yn rhwyddach i’w wresogi ac yn niwtral o ran carbon yn yr hirdymor.
I gyfrannu astudiaeth achos neu adnodd i’r adran hon, anfonwch e-bost at bethany-howells@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda.
Cyflwyniad ymchwil
Wardeiniaid ynni - Adra, Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ynys Môn
Yng Ngogledd Cymru, mae Adra, Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ynys Môn ar y cyd wedi cyllido ‘wardeiniaid ynni’ sy’n rhoi cyngor i denantiaid ar sut i newid cyflenwyr ynni a thariffau.
Derbyniwyd 377 o ymholiadau gan denantiaid yn 2021/22; cafodd cyfanswm o £134,260 ei hawlio mewn Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Yn ychwanegol, cafwyd £1,480 o geisiadau llwyddiannus i Dŵr Cymru; a newidiodd 15 unigolyn ddarparwyr ynni gan arbed cyfanswm o £3,400.
Mae’r canlyniadau ariannol hyn yn dangos gwerth cronni adnoddau i gael yr effaith fwyaf.
Paneli rheiddiadur am ddim ar gyfer preswylwyr – Cartrefi Cymunedol Bron Afon
Mae Cartrefi Cymunedol Bron Afon wedi cynnal sesiynau ar draws Torfaen ar gyfer preswylwyr i ddod a chasglu un panel cadw gwres ar gyfer pob rheiddiadur yn eu cartrefi a’i osod yn erbyn wal allanol. Mae’r paneli yn helpu i atal colli gwres drwy ei adlewyrchu yn ôl i’r ystafell.
Cafodd y sesiynau eu rhedeg gan wirfoddolwyr gyda phrosiect Helpu Teuluoedd mewn Gwaith Bron Afon i dargedu aelwydydd sydd ag o leiaf un person mewn gwaith ac sydd â phlant dan 18 oed.
Cafodd y paneli yn ogystal â’r tâp, dalen gyfarwyddiadau a ’10 cyngor da’ i arbed ynni y gaeaf hwn eu sicrhau drwy gyllid gan y Loteri Fawr.
Mae mwy o wybodaeth am y paneli cadw gwres ar gael ar YouTube a gwefan Heatkeeper.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu hoffech chi gael mwy o wybodaeth am sut y trefnwyd y cynllun? Anfonwch e-bost at suzy.sorby@bronafon.org.uk
Prosiect arbed ynni ar waith - Hafod
Bu Hafod yn gweithio mewn partneriaeth gydag elusen amgylcheddol flaenllaw Hubbub a rhai o’u cwsmeriaid yn Llaneirwg, Caerdydd ar brosiect ‘arbed ynni ar waith’.
Maent yn ymchwilio defnydd ynni yn holl wahanol ystafelloedd y cartref, gyda chwsmeriaid yn rhannu, cydweithio ac yn trafod y dulliau arbed ynni sydd wirioneddol yn gweithio iddyn nhw.
Cafodd pecynnau arbed ynni ar waith eu creu ar gyfer cwsmeriaid fel rhan o’r prosiect, yn dilyn cyfres o ymweliadau manwl a threialon gyda chartrefi yn Llaneirwg – cawsant eu cynllunio’n benodol i roi sylw i’r cynnydd mewn costau rhedeg cartref.
Cynhwyswyd awgrymiadau gorau Hafod ar gyfer arbed ynni hefyd mewn ffeithluniau, cynghorion cartref a chanllawiau ystafell-wrth-ystafell a gaiff eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, eu dangos mewn hybiau cymunedol ac maent ar gael ar y dudalen gwe yma.
Newyddion a blogiau cysylltiedig
Papurau gwybodaeth polisi
Lawrlwytho