Ymateb: Ofgem yn codi’r cap ar brisiau ynni
Bydd miliynau o bobl yn awr yn talu £94 y flwyddyn yn fwy am eu biliau ynni ar ôl i Ofgem gyhoeddi y bydd yn codi ei gap prisiau o 1 Ionawr.
Bydd cynnydd 5% y rheoleiddiwr ynni yn gweld y cap pris cyfartalog yn neidio o E1,834 i £1,928 y flwyddyn.
Dywedodd Ofgem fod y cynnydd hwn oherwydd y cynnydd yng nghost cyfanwerthu nwy a thrydan yn fyd-eang.
Dywedodd Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru: “Bydd y newyddion fod Ofgem wedi codi’r cap pris ynni eto yn dorcalonnus ar gyfer llawer o bobl ar incwm isel sydd eisoes yn ei chael yn anodd gwresogi eu cartrefi.
“Bydd y gaeaf hwn yn waeth ar gyfer llawer o bobl – ond yn arbennig felly ar gyfer y rhai sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai sy’n parhau i fod ymysg y rhai y mae’r argyfwng costau byw yn taro waethaf arnynt.
“Gyda biliau ynni nawr bron ddwywaith yr hyn oeddent cyn yr argyfwng costau byw, mae’n hanfodol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio fel mater o frys i gyflwyno tariff ynni cymdeithasol i sicrhau y gall pobl ar incwm is, yn cynnwys llawer o denantiaid cymdeithasau tai, wresogi eu cartrefi heb ofn dyled gynyddol.
“Mae cymdeithasau tai a’u partneriaid yn gwneud popeth a fedrant i helpu pobl ar yr amser heriol hwn. Byddem yn annog unrhyw un sy’n byw mewn cartref cymdeithas tai yng Nghymru i gysylltu â’u landlord os ydynt yn bryderus am anawsterau ariannol.”