Ein Gofynion o Llywodraeth Cymru a'r DU 2022
Fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ym mis Hydref 2022 yn edrych ar effaith yr argyfwng mewn costau byw ar denantiaid cymdeithasau tai yng Nghymru. Anfonwyd adroddiad Amser Gweithredu at Lywodraeth Cymru ac Aelodau Seneddol Cymru ynghyd â llythyr yn cynnig syniadau a fyddai’n helpu i gefnogi tenantiaid tai cymdeithasol ar yr amser anodd hwn.
Fel canlyniad, trefnwyd cyfarfodydd gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Swyddfa Ysgrifennydd Cysgodol Cymru y Blaid Lafur. Yn ychwanegol, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Tachwedd 2022 y byddai’n symud ymlaen gydag un o argymhellion yr adroddiad – cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant ym mis Ebrill 2023.
Darllenwch y datganiad llawn ac adroddiad Amser Gweithredu isod.
Ar y dudalen yma
Datganiad
Adroddiad newydd gan CHC yn edrych ar effaith yr argyfwng costau byw ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru
Mae cymdeithasau tai a Cartrefi Cymunedol Cymru yn galw ar frys am fwy o gefnogaeth i ddiogelu’r rhai sy’n byw mewn tai cymdeithasol o’r argyfwng costau byw.
Mae tenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru ymhlith y rhai a gafodd eu taro galetaf gan argyfwng costau byw y Deyrnas Unedig. Gyda phrisiau bwyd ac ynni wedi codi drwy’r flwyddyn, mae misoedd y gaeaf sydd ar ein gwarthaf yn achosi risg enfawr i’w hiechyd, llesiant a sefydlogrwydd ariannol.
Hyd yn oed cyn cynnydd prisiau eleni, roedd tenantiaid yn dweud nad oedd y Credyd Cynhwysol yn ddigon, a’u bod yn ei chael trafferth i dalu am hanfodion yn cynnwys bwyd, teithio a biliau ynni.
Drwy gydol 2022 mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo adnoddau ychwanegol i’w gwasanaethau tenantiaid – tebyg i gymorth a chyngor ariannol – sy’n eu helpu i fyw mewn cartrefi diogel, saff a fforddiadwy o’r diwrnod cyntaf. Fodd bynnag, mae’r galw am y gwasanaethau hyn yn uchel iawn ar draws pob cymdeithas tai yng Nghymru, wrth i denantiaid geisio mwy o help nag arfer, ac yn aml am broblemau cymhleth.
Cynyddodd nifer yr atgyfeiriadau am gymorth ar draws y sector, gyda 81% o’r cymdeithasau tai a arolygwyd gan CHC yn awr yn cynnig cronfa caledi ar gyfer tenantiaid, i fyny o 69% yn 2021/22.
Mae’n achos pryder fod llawer o gymdeithasau tai yn awr yn dweud eu bod yn cyrraedd terfyn yr hyn y gallant ei wneud i helpu gyda chostau dydd i ddydd tebyg i fwyd ac ynni.
Ymchwiliwyd pob opsiwn ar gyfer tenantiaid ac ni fedrir dynodi unrhyw arbedion pellach na chynnig cefnogaeth.
Mae cymdeithasau tai yn gwybod na fedrant ddatrys yr argyfwng costau byw ar eu pen eu hunain, ac felly maent yn gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau tai, gwirfoddol a chyhoeddus i atal yr argyfwng rhag dod yn drychineb – ond mae ymyriad gan llywodraeth yn awr wedi dod yn hollbwysig i helpu’r cymunedau yng Nghymru y mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio mwyaf arnynt.
Ar ran ei aelodau, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel mater o frys i:
- weithredu i sicrhau fod y system llesiant yn rhoi rhwyd ddiogelwch ddigonol fel y gall tenantiaid tai cymdeithasol Cymru fforddio talu am fwyd a hanfodion sylfaenol eraill;
- gostwng pwysau costau ynni ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol Cymru;
- ymestyn y warant pris ynni ar gyfer darparwyr gofal a chymorth am ddwy flynedd.
Wrth ochr hyn, galwn ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chymdeithasau tai i dargedu cymorth i tenantiaid mewn angen a datblygu cynigion ar gyfer tariff cymdeithasol ar filiau ynni wrth ochr Ofgem.
Mae ein blaenoriaethau fel sector yn glir: cefnogi tenantiaid wrth i ni wynebu’r argyfwng presennol mewn costau byw a’r cynnydd yng nghostau ynni, a sicrhau fod rhenti yn fforddiadwy iddynt; rhoi sefydlogrwydd i gymdeithasau tai barhau i gynnig cymorth hanfodol i denantiaid; a buddsoddi mewn adeiladu cartrefi ansawdd da i sicrhau dyfodol tai cymdeithasol yng Nghymru.
Heb gymorth y llywodraeth, fodd bynnag, bydd tenantiaid tai cymdeithasol mewn sefyllfaoedd anodd iawn yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf.
Ewch i’r dudalen hon i ddarllen yr ymchwil allanol lawn tu ôl i’r galwad hwn i’r llywodraethi.
Papurau gwybodaeth polisi
Cefndir
Mae pob cymdeithas tai yng Nghymru yn darparu cartrefi a gwasanaethau gyda diben cymdeithasol clir.
Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, daeth cymdeithasau tai yn gynyddol bryderus am yr effaith y gallai cynnydd mewn costau byw ei gael ar eu cymunedau, yn arbennig aelwydydd ar incwm isel.
Cafodd Cartrefi Cymunedol Cymru eu comisiynu gan brif weithredwyr holl gymdeithasau tai Cymru i sefydlu grŵp neilltuol a fyddai’n dod â staff allweddol ynghyd o bob rhan o Gymru i ganolbwyntio ar yr hyn y gallai’r sefydliadau hyn ei wneud i gefnogi eu cymunedau.
Gan fod cymdeithasau tai yn brofiadol iawn wrth roi cefnogaeth i unigolion a’r gymuned yn ehangach, defnyddiodd y grŵp ei wybodaeth weithredol a dealltwriaeth helaeth o’r cyd-destun polisi i ddynodi gweithgareddau y gallai cymdeithasau tai eu datblygu a rhoi argymhellion clir i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i alluogi cefnogi pobl yn y cyfnod heriol hwn.
Dros nifer o fisoedd rydym wedi bod mewn cysylltiad gyda phartneriaid o’r sector gwirfoddol, y sector busnes a’r sector cyhoeddus ar draws Cymru, ynghyd â Llywodraeth Cymru ac adrannau allweddol yn Llywodraeth y DU yn cynnwys yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Byddwn yn parhau i gynnal ymchwil i fonitro effaith costau byw ac effeithlonrwydd ymyriadau llywodraeth, gan amlygu lle gellid ac y dylid gwneud mwy i gefnogi pobl.