Datganiad Cartrefi Cymunedol Cymru: Canlyniadau arolwg Iechyd Cyhoeddus Amser i Siarad
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gyhoeddi ei arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus diweddaraf sy’n dangos fod 52% o’r ymatebwyr yn gwybod am y cysylltiad rhwng tai da ac iechyd.
Mae hefyd yn dangos fod 71% yn credu fod eu cartref o ansawdd da, gyda 81% yn teimlo fod eu cartref yn ddiogel. Serch hyn, dim ond 40% sy’n teimlo fod eu cartref yn fforddiadwy a 52% yn teimlo ei fod yn gynaliadwy.
Mae Sarah Scotcher, ein rheolwr polisi a materion allanol, yn rhoi ei barn ar ganlyniadau’r arolwg diweddaraf:
"Dengys ymchwil dro ar ôl tro bod cartrefi diogel, twym a fforddiadwy yn hanfodol i gefnogi iechyd a lles – a dyna pam fod ffocws cymdeithasau tai yng Nghymru ar gefnogi’r bobl sy’n byw yn eu cartrefi i fyw yn dda.
“Rydym yn falch i weld y teimlai’r rhai a ymatebodd i arolwg Iechyd Cyhoeddus Amser Siarad fod ansawdd, ymarferoldeb a diogelwch eu tai preifat, rhent a chymdeithasol o safon da.
"Fodd bynnag mae’n amlwg y gellir gwneud mwy i gefnogi cynaliadwyedd, gwella fforddiadwyedd a hybu cysylltiadau a gwasanaethau cludiant lleol.”