Tair ar ddeg o gymdeithasau tai Cymru wedi eu rhoi ar restr fer yng Ngwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru
Bydd cymdeithasau tai ledled Cymru yn cael eu cydnabod am eu dulliau blaengar ac ymroddedig i wella gwasanaethau tenantiaid yng Ngwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru'r mis hwn.
Enwebwyd tair ar ddeg o gymdeithasau tai yn y gwobrau eleni, sy’n cael eu cynnal ar 5 Gorffennaf yng Nghaerdydd, gan ddathlu’r gwaith y mae cymdeithasau tai a thenantiaid yn eu gwneud yn eu sefydliadau a’u cymunedau.
Mae’r rhai a enwebwyd yn cynnwys ClwydAlyn, Tai Tarian ac Adra sydd oll wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer am y wobr Rhaglen Gefnogi/Cynghori Preswylwyr sy’n edrych ar y ffordd y mae landlordiaid cymdeithasol wedi bod yn buddsoddi mewn tenantiaid a chymunedau a’u cefnogi, a sut y mae wedi helpu preswylwyr i oresgyn heriau a gwella eu bywydau.
Enwebwyd Tai Tarian i gydnabod gwaith caled ei dimau cynhwysiant ariannol a chredyd cynhwysol yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae’r tîm wedi helpu gyda 20 o gyfeiriadau ychwanegol y mis oherwydd y cynnydd mewn costau, gan gynnig awgrymiadau a chyngor cyson ar y cyfryngau cymdeithasol, cefnogi 2,132 o geisiadau budd-dal llwyddiannus, helpu i sicrhau bod 605 o dalebau banciau bwyd yn cael eu rhoi - a mwy.
Dewiswyd Adra, yn y cyfamser, i gydnabod ei chynllun sgiliau a chyflogaeth, Academi Adra, sy’n helpu pobl sy’n byw mewn cymunedau lleol i ddatblygu eu sgiliau a dod o hyd i waith. Mae’r cynllun yn cynnig profiad gwaith, lleoliadau, prentisiaethau, hyfforddiaethau, gwirfoddoli a mwy.
Rhoddwyd Cymoedd i’r Arfordir ar y rhestr fer yn y categori Gwobr Cyfathrebu â Chwsmeriaid a Phreswylwyr diolch i’w fenter Pop Up, sy’n annog ymgysylltu cymunedol a chyfathrebu wyneb yn wyneb â thenantiaid ar draws Pen-y-bont ar Ogwr. Mae wedi cael ei enwebu hefyd yn y Wobr Cymunedau yn Cefnogi Cymunedau diolch i’w bartneriaeth gyda Chlwb Ieuenctid Windmill, sy’n ceisio ymgysylltu â phobl ifanc mewn cymunedau.
Enwebwyd tenant Stori Maria ar gyfer Tenant y Flwyddyn, diolch i’w hymrwymiad i wella gwasanaethau’r gymdeithas, eu cyfleu ac ymgysylltu â thenantiaid.
Rhoddwyd tenant Caredig, Jo Ashford, hefyd ar y rhestr fer am wobr Tenant y Flwyddyn am ei hymwneud, ei hymroddiad a’i chyfraniad at y gymuned am dros 10 mlynedd a chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill.
Rhoddwyd Hafod ar y rhestr fer yn y categori Cynnwys Tenantiaid wrth Ffurfio neu Graffu ar Wasanaethau, am ei dulliau sy’n gadael i denantiaid graffu a dylanwadu ar ei gwasanaethau, a rhoi barn werthfawr.
Enwebwyd Cartrefi Melin yn y categori Cynnwys Tenantiaid wrth Ffurfio Gwasanaethau am ei gynllun Gwrando Gweithredu a Dysgu, sy’n dwyn at ei gilydd y gwaith y mae gwahanol dimau Melin yn ei wneud gyda phreswylwyr, yn dynodi tueddiadau, casglu pryderon preswylwyr, cwynion, canmoliaeth ac yn gweithio i wneud gwelliannau i’w wasanaethau.
Rhoddwyd Tai Calon ar y rhestr fer am y categori Llais Tenantiaid, am ei ymrwymiad i wella bodlonrwydd cwsmeriaid a gwella’r ffordd y mae’n gweithio gyda thenantiaid ac yn gwrando arnyn nhw. Yn ystod y 18 mis diwethaf mae’r gymdeithas dai wedi bod yn ymgysylltu’n weithredol â thenantiaid i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod yn gallu cael mwy o ran yn ei gwasanaethau.
Rhoddwyd Newydd hefyd ar y rhestr fer yn y categori Llais Tenantiaid am ei strategaeth ddylanwadu tenantiaid Pobl yn Ganolog, sy’n rhoi technegau dylanwadu i denantiaid i’w galluogi i gyfrannu yn y gymuned a gwella gwasanaethau Newydd.
Mae cyfleoedd dylanwadu Newydd yn cynnig dewisiadau i denantiaid sy’n gynhwysol, hyblyg, hygyrch, ac yn annog tenantiaid i gymryd rhan.
Rhoddwyd Newport City Homes ar y rhestr fer yn y categori Cyfathrebu gyda Thenantiaid a Phreswylwyr i gydnabod ei ymateb i argyfwng system wresogi Duffryn yn gynharach eleni. Ym mis Chwefror, oherwydd bod rhwydwaith cynhesu ardal gyda biomas yn gollwng yn Duffryn amharwyd yn sylweddol ar bron i 1,000 o gartrefi. Wrth ymateb sefydlodd Newport City Homes dîm ymateb i argyfwng i gefnogi’r preswylwyr; rhoi’r newyddion diweddaraf i’r gymuned dros y ffôn, ar y cyfryngau cymdeithasol, gwefannau a thaflenni; sicrhau bod pawb yn gwybod sut i gael mynediad at gefnogaeth a chyfleusterau ar unwaith; a llunio perthynas gadarnhaol trwy’r gymuned gyfan.
Rhoddwyd Cymdeithas Tai Sir Fynwy ar y rhestr fer ar gyfer y Wobr Cymunedau yn Cefnogi Cymunedau, diolch i’w Grŵp cymunedol Monmouth Motivators. Mae’r preswylwyr yma’n cyfarfod yn fisol ac yn ymroddedig i wneud eu cymuned yn lle gwell i fyw. Er mwyn cefnogi’r gymuned maent wedi trefnu nifer o brosiectau a digwyddiadau yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant, digwyddiadau plant ac adloniant, a hefyd wedi cyfeirio pobl sydd angen help ariannol a lles ar unwaith at dîm cynhwysiant Tai Sir Fynwy.
Enwebwyd Merthyr Valleys Homes hefyd yn y categori Cymunedau’n Helpu Cymunedau am ei grŵp tenantiaid y ‘Greenwood Golden Oldies’; ac mae’r cynrychiolydd ar y corff democrataidd a’r preswyliwr Nigel Phillips Gunter wedi cael ei ddewis yn y categori Tenant y Flwyddyn.