Cefnogwch ein cymdeithasau tai sy’n aelodau wrth iddyn nhw Gerdded dros Gartrefi'r mis Mehefin a Gorffennaf hwn
Y Dirprwy Brif Weithredwr Clarissa Corbisiero yn rhannu ei chefnogaeth i gymdeithasau tai sy’n aelodau wrth iddynt wynebu teithiau cerdded noddedig ar draws y wlad i elusennau i’r digartref.
Rydym wrth ein bodd yn gweld ein haelodau sy’n gymdeithasau tai yn camu ymlaen ar gyfer yr her Cerdded dros Gartrefi'r mis hwn.
Dros y misoedd diwethaf mae’r staff rhyfeddol yn Tai Calon, Stori, CCHA, ClwydAlyn, Newydd, Bron Afon, Cymdeithas Tai Merthyr, Melin, Cartrefi Conwy, Cymoedd i’r Arfordir, a Caredig wedi bod yn camu ymlaen, i baratoi ar gyfer eu digwyddiadau cerdded a rhedeg trwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf.
Yn ystod y mis a hanner nesaf, mae’r 11 cymdeithas dai yma wedi gosod yr her iddyn nhw eu hunain o gerdded, rhedeg, neu feicio hyd at 20 milltir yr un, sy’n her sylweddol a thrawiadol i’r rhan fwyaf!
Ysgogwyd hyn diolch i Cartrefi Conwy, sydd wedi ymgymryd â’i heriau cerdded ei hun yn y gorffennol ar hyd arfordir Gogledd Cymru ac ardaloedd eraill ac roeddent wedi mwynhau pob cam (wel bron iawn).
Diolch i hyn, penderfynwyd gwahodd cymdeithasau tai’r genedl i gynllunio eu digwyddiadau eu hunain a’u hannog i wynebu’r her fel timau.
Er bod hyn yn drawiadol ac mae wedi bod yn wych gweld eu holl waith caled a pharatoi, yn ddiamau y rhan i’w hedmygu fwyaf yw y byddant yn codi arian at achosion elusennol.
Mae pob cymdeithas dai wedi dewis elusen leol i gael budd o’u hymdrechion, gydag elusennau’n cynnwys The Wallich, yn mynd i gael budd.
Rydym yn falch iawn o weld cymaint o elusennau digartrefedd ac elusennau i’w atal gwerth chweil yn cael arian hanfodol ar gyfer eu gwasanaethau o ganlyniad i’r digwyddiadau gwych yma.
Mae elusennau digartrefedd, fel llawer o sefydliadau eraill, wedi cael trafferth cynyddol i ariannu eu gwasanaethau amhrisiadwy o ganlyniad i’r argyfwng costau byw, ynghyd â llu o gostau eraill sy’n cynyddu.
Mae’r elusennau hyn yn hanfodol wrth sicrhau bod pobl fregus sy’n wynebu digartrefedd, neu sydd eisoes yn byw ar y strydoedd, yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen i fyw’n ddiogel, a chael mynediad at gefnogaeth, ac yn y pen draw yn dychwelyd i fyw mewn llety.
Er mwyn cefnogi’r elusennau hyn, ac ymdrechion gwych y cymdeithasau tai sy’n aelodau, byddaf i a’r staff yn Cartrefi Cymunedol Cymru hefyd yn cefnogi digwyddiadau unigol, trwy gymryd rhan mewn teithiau cerdded sy’n lleol i ni.
Hoffwn ddiolch i’r tîm gwych yn Cartrefi Cymunedol Cymru am gefnogi’r digwyddiadau hyn ac am ddangos eu hymrwymiad i’r cymdeithasau tai sy’n aelodau.
Hoffwn hefyd ddiolch i gwmni Hugh James a’r cwmni llunio timau Call of the Wild am gefnogi a chynghori cymdeithasau tai wrth iddyn nhw baratoi at wynebu’r heriau yma.
Os hoffech chi noddi taith cymdeithas dai ewch i’w tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y dolenni at elusennau, a rhowch beth allwch chi os gwelwch yn dda.
Ar gyfer ymholiadau’r wasg a’r cyfryngau cysylltwch â media@chcymru.org.uk