Pam fod gweithio gofal a phartneriaeth seiliedig ar le yn hanfodol i gefnogi pobl sydd eisiau marw adre
I lawer ohonom, mae bod adre yn gysylltiedig â’n hymdeimlad o les a pherthyn, mae’n lle y teimlwn gariad ac yn ddiogel a bodlon.
Mae gan ein cartrefi le canolog yn ein bywydau, gan ein galluogi i greu atgofion, canfod boddhad a chefnogi ein iechyd a hapusrwydd.
Gyda’r cartref â rhan mor bwysig yn ansawdd ein bywydau, nid yw’n ddim syndod fod llawer o bobl yn awr yn dewis treulio eu dyddiau olaf yn derbyn gofal yn eu hamgylchedd cyfarwydd gyda’r bobl a garant.
Dywedodd tua 27% o bobl fod bod adre yn un o’r blaenoriaethau pwysicaf iddynt yn eu dyddiau olaf, yn ôl Adroddiad Agweddau Cyhoeddus at Farwolaeth a Marw yng Nghymu a gyhoeddwyd gan Marie Curie Cymru, prif elusen diwedd bywyd y Deyrnas Unedig.
Gyda hyn dan sylw, mae cymdeithasau tai yn cydnabod rôl hollbwysig tai diogel, saff a fforddiadwy nid yn unig drwy gydol bywydau pobl ond hefyd wrth eu cefnogi i farw gydag urddas.
Mae gan rai dimau ymroddedig yn gweithio ar draws cymunedau, wrth ochr nyrsys arbenigol, i sicrhau y caiff llais pobl ei glywed, ei barchu a’i gefnogi wrth iddynt wneud penderfyniadau hollbwysig am eu gofal diwedd bywyd adre.
Mae Hafod yn un gymdeithas tai sy’n sylweddoli pwysigrwydd cefnogi pobl i fyw gydag urddas adre.
Mae eu tîm gofal cartref ymroddedig yn aml yn gweithio gyda phobl sy’n byw gyda salwch terfynol fel rhan o wasanaeth Gofal Cartref. Mae’r gwasanaeth hwn, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn galluogi pobl i dderbyn y lefel gywir o gefnogaeth gorfforol, emosiynol a meddyliol maent ei angen yng nghysur eu cartrefi eu hunain.
Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, mae gofalwr yn ymweld â’r person sydd angen cymorth i roi gofal un-i-un, sy’n eu galluogi i i fyw a derbyn triniaeth ar eu telerau eu hunain. Mae Hafod yn darparu’r gwasanaeth hwn yn y gymuned, yn ei gartrefi preswyl a nyrsio, ac yn ei gynlluniau gofal ychwanegol.
Gan gefnogi’r rhai sydd mewn angen, mae gofalwyr Hafod yn aml yn gweithio wrth ochr darparwyr gofal iechyd a nyrsys arbenigol, yn cynnwys Marie Curie, i sicrhau fod pawb sy’n cefnogi’r unigolyn yn diwallu eu hanghenion ac yn parchu eu dymuniadau.
Dywedodd Helen Lewis, rheolwr rhanbarthol gofal cartref gyda Hafod: “Yn Hafod, gwnawn bopeth a fedrwn i sicrhau fod pobl yn derbyn y lefel gofal a chymorth maent ei angen yn eu cartrefi eu hunain.
“I ni, aiff bod yn gymdeithas tai lawer tu hwnt i dai. Cartref unigolyn yw lle maent yn teimlo cariad ac yn ddiogel, a rydym eisiau sicrhau y gallant fod yno yn eu dyddiau olaf os dymunant fod.
“Mae’n wirioneddol bwysig i ni tra darparwn y gofal hwn mewn cartref, fod pawb sy’n gysylltiedig yn deall y sefyllfa yn llawn a beth sy’n dod nesaf, fel y gallwn i gyd gydweithio i gynnig y gofal gorau posibl.
“Mae’n amser emosiynol iawn i gydweithwyr fydd wedi treulio llawer o amser gyda’r unigolyn ac yn wirioneddol eisiau’r gorau iddynt.
“Tuag at y diwedd, gellir gofyn i’n timau gynyddu eu cymorth i sicrhau y gall y person dderbyn y lefel gofal maent ei angen adre – ac nid yw fy nhîm erioed wedi dweud na i hyn.”
Darllenwch ragor o flogiau gan CHC yma:
Mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i gefnogi iechyd a lles eu tenantiaid drwy wasanaethau wedi eu targedu a gweithio gyda phartneriaid mewn cymunedau.
Caiff y math hwn o ddull partneriaeth o ddarparu gofal diwedd bywyd yn aml ei alw yn ofal seiliedig ar le.
Mae gofal seiliedig ar le yn annog partneriaethau rhwng sefydliadau sy’n gyfrifol am drefnu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal, tebyg i ddarparwyr gofal iechyd ac eraill sydd â rôl mewn gwella iechyd a llesiant, tebyg i gymdeithasau tai.
Drwy gydweithio, gallant helpu mwy o bobl i dderbyn gofal diwedd bywyd ansawdd uchel yng nghysur a sicrwydd eu cartref eu hunain.
Dywedodd Rhian Evans, Arweinydd Clinigol Gwasanaethau Cymunedol Cymru Marie Curie fod angen i’r dull partneriaeth, seiliedig ar le yma gael ei gefnogi’n iawn i sicrhau y gall gynnig y gofal gorau i’r person yn eu dyddiau olaf.
Dywedodd, “Bydd gan rai ardaloedd ledled Cymru sy’n cynnig gofal seiliedig ar le gymorth arbenigol wedi ei lapio o’u hamgylch – ond ni fydd hynny gan lawer o leoedd, gan adael system anghydlynus i bobl ganfod ei ffordd drwyddi ar amser pan maent eisoes yn fregus.
“Os na chaiff fawr neu ddim buddsoddiad ei roi’n gynaliadwy i wasanaethau lleol seiliedig ar le, yna mae’n anochel y bydd y galw yn syrthio ar wasanaethau arbenigol a dwys, nad oes ganddynt y capasiti bob amser i gefnogi pawb ac nad ydynt y gwasanaethau gorau i gefnogi’r bobl hynny.
“Mae gwell gofal cymunedol seiliedig ar le yn allweddol i gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain a gostwng yr angen am ofal ysbyty anaddas. Canfu ymchwil Marie Curie, a gyhoeddwyd yn yr adroddiad Gwell Diwedd Bywyd yr hydref diwethaf fod 30,000 o ymweliadau argyfwng ‘tu allan i oriau’ i adrannau Damweiniau ac Argyfwng yng Nghymru gan bobl ym mlwyddyn olaf eu bywyd.
“Nid oes bob amser angen yr ymweliadau hynny ac mae’n arwain at fynd i ysbyty pan nad oes angen hynny, oherwydd diffyg darpariaeth cyngor ffôn, mynediad gwael i feddyginiaethau lliniarol neu reolaeth argyfwng tu allan i oriau, ymysg materion eraill.
“Mae’r pwyslais y mae gofal seiliedig ar le yn ei roi ar gefnogaeth lyfn yn y gymuned yn her i ofal lliniarol a diwedd bywyd. Mae’n tanlinellu cyfeiriad teithio y mae llawer o bobl yn y sector yn frwdfrydig amdano – i roi’r adnoddau i gymunedau lleol i gefnogi pob unigolyn sydd angen gofal adre ac yn eu ‘lle’ eu hunain.
“Gallai cefnogi a datblygu ymarfer gofal lliniarol a diwedd bywyd fel rhan o gynnig lleol ehangach helpu i gyflawni hyn – gydag arbenigwyr yn y maes yn medru rhannu eu gwybodaeth gyda darparwyr eraill, yn cynnwys timau cymdeithasau tai.”
Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn gwybod y gall hyn wneud byd o wahaniaeth i’r unigolyn a’u teulu ar ddiwedd eu bywyd.
Dywedodd Rhian: “Gwyddom y gall gofal diwedd bywyd da, sy’n cydnabod anghenion a dymuniadau y person sy’n marw, leihau’r risg o alar cymhleth neu orfaith. Ar gyfer aelodau o’r teulu, gofalwyr neu gyfeillion, gall medru treulio amser gyda rhywun yn eu munudau olaf eu helpu yn eu profedigaeth.
“Mae pawb yn haeddu’r gefnogaeth gywir ar ddiwedd eu bywyd, gan adlewyrchu yr hyn sy’n bwysig iddynt, yn y lle y dymunant fod.”
Mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i weithio gyda gwasanaethau arbenigol i sicrhau y gall y bobl sy’n byw yn eu cartrefi wneud penderfyniadau am eu llesiant a’u gofal ar hyd eu bywydau.
Mae mwy o wybodaeth ar y gwaith iechyd, gofal a chymorth a wnawn ar ran cymdeithasau tai ar gael yma.
Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau Marie Curie ar gael yma www.mariecurie.org.uk