Datblygwyd y pecyn adnoddau hwn fel adnodd i gefnogi ystod o gynulleidfaoedd, yn cynnwys
● Tîm CHC yn ei wahanol weithgaredd ymgyrchu a dylanwadu;
● Cymdeithasau tai wrth weithio gyda chydweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol,
yn cynnwys ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol;
● Cydweithwyr mewn llywodraeth lleol ac Aelodau o’r Senedd; a
● Ein partneriaid ar draws y sectorau tai, iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth.
Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos gwerth tai i wasanaethau cyhoeddus, yn arbennig iechyd a gofal cymdeithasol. Dengys ymchwil bwysigrwydd buddsoddi mewn tai ar gyfer y buddion sylweddol y gellir eu sicrhau i iechyd a llesiant, a’r arbedion cost sylweddol y gellir eu gwneud. Mae’r papur gwybodaeth hwn yn crynhoi tystiolaeth, ymchwil ac astudiaethau achos sy’n arddangos rôl tai, ar gyfer yr unigolyn a hefyd y pwrs cyhoeddus.
Caiff y ddogfen hon ei hadolygu a’i diweddaru bob hyn a hyn, a bydd y fersiwn diweddaraf ar gael ar ein gwefan. Gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda os oes unrhyw adroddiadau neu ymchwil nad ydym yn eu cynnwys yma.