Offeryn Fforddiadwyedd
Yn gryno
Dyluniwyd ein Hofferyn Fforddiadwyedd Rhent i gynorthwyo cymdeithasau tai Cymru i archwilio data fforddiadwyedd a gwneud penderfyniadau am renti. Datblygwyd yr offeryn gan HouseMark, ar sail fersiwn oedd wedi ei greu yn wreiddiol gan Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban. Mae ar gael am ddim i aelodau CHC. Mae’r offeryn yn cyfrifo mesuriadau fforddiadwyedd ar gyfer rhent arfaethedig y mae’r defnyddiwr yn ei nodi. Mae hefyd yn gadael i’r defnyddiwr weld sut mae’r mesuriadau rhent a fforddiadwyedd yn cymharu â landlordiaid cymdeithasol lleol eraill.
Gellir defnyddio amrywiaeth o fathau o incwm a maint aelwydydd ar gyfer eu profi. Cyfrifir incwm aelwydydd gan ddefnyddio’r dulliau a ddatblygwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree.
Datblygwyd y canllawiau a atodir i’ch cynorthwyo i ddefnyddio’r offeryn.
Sut yr ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith
Bydd yr offeryn hwn yn cael ei ddiweddaru yn flynyddol i adlewyrchu’r data rhent ac incwm diweddaraf sydd ar gael.
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd