Cyrff rheoleiddiol eraill
Yn gryno
Yn ychwanegol at fod yn atebol i Weinidogion Cymru, mae Cymdeithasau Tai yng Nghymru hefyd yn rhan o strwythurau ehangach sydd yn eu lle i gynnal safonau neu yn atebol i gyrff rheoleiddiol eraill sy’n gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau penodol eraill.
Arolygiaeth Gofal Cymru
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn gyfrifol am gofrestru ac arolygu cyfleusterau a gwasanaethau gofal yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cartrefi gofal a ddarperir gan gymdeithasau tai, gofal cartref/gwasanaethau byw â chymorth.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gymdeithasau tai yn rhoi gofal a chymorth i bobl yng Nghymru yma.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gyfrifoldebau penodol am ymchwilio i gwynion yn ymwneud â Chymru. Cymdeithasau tai yng Nghymru sy’n gweithio tuag at fod yn rhan o’r Awdurdod Safonau Cwynion, sy’n anelu at roi cysondeb mewn polisïau ac arferion cwynion yn y sector cyhoeddus a gwasanaethau eraill fel materion tai yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno cwyn i’ch cymdeithas tai.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Mae cymdeithasau tai wedi cofrestru gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ei lle i sicrhau bod data a gwybodaeth yn cael eu trin yn briodol yn unol â deddfwriaeth.
Comisiwn Elusennau
Mae’r Comisiwn Elusennau yn cofrestru a rheoleiddio elusennau yng Nghymru. Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn gweithredu ar sail nid er elw.
Tŷ’r Cwmnïau
Tŷ’r Cwmnïau sy’n gyfrifol am gofrestru cwmnïau. Mae rhai cymdeithasau tai yn rhoi gwasanaethau neu yn cynnal gweithgareddau eraill trwy is-gwmnïau sy’n rhan o’r grŵp tai, a gall y rhain gael eu cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) sy’n rheoleiddio’r sector ariannol, gall rhai cymdeithasau tai fod wedi cofrestru gyda’r FCA i’w galluogi i roi gwasanaethau gan gynnwys cyngor ar ddyledion, neu weithgareddau gwerthu tai, er enghraifft.
Y Pwyllgor Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Mae gan y Pwyllgor Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyfrifoldebau yng nghyswllt annog, rheoleiddio a gorfodi iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle.
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd