Rhent a Fforddiadwyedd
Yn gryno
Gosod rhenti fforddiadwy yw un o’r penderfyniadau pwysicaf y mae cymdeithasau tai yn eu gwneud bob blwyddyn. Mae’n ganolog i’w cenhadaeth fel sefydliadau nid er elw i ddarparu cartrefi a lliniaru tlodi. Mae’n benderfyniad sy’n cadw cydbwysedd gofalus rhwng fforddiadwyedd i denantiaid unigol a buddsoddi yn y cartrefi o safon uchel a’r gwasanaethau craidd y maent yn dibynnu arnynt.
Crynodeb llawn
Mae cymdeithasau tai wedi ymrwymo i osod rhenti a thaliadau gwasanaeth sy’n fforddiadwy i denantiaid. Maent yn gwneud gwaith manwl yn flynyddol i ddeall fforddiadwyedd i’w tenantiaid, gan gynnwys casglu data a siarad yn uniongyrchol â thenantiaid. Mae arnynt hefyd angen deall y costau a nodir yn eu cynlluniau busnes, sy’n cynnwys rheoli, cynnal a chadw a gwella’r cartrefi sy’n bodoli a gwasanaethau, yn ogystal â datblygu tai newydd y mae angen mawr amdanynt. Mae byrddau cymdeithasau tai yn gweithio gyda’r staff uwch i archwilio’r dystiolaeth sydd ar gael a phennu sut y bydd y rhenti yn gostwng, rhewi neu godi ar draws yr holl gartrefi sydd yn eu meddiant am y flwyddyn ariannol sydd o’u blaenau.
Mae cymdeithasau tai yn gosod lefel eu rhenti yn flynyddol yng nghyd-destun polisi rhenti tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae’r polisi hwn yn nodi bod yn rhaid ystyried a phrofi fforddiadwyedd wrth osod rhenti bob blwyddyn, ac mae angen i gymdeithasau tai ddangos i Lywodraeth Cymru a’r rheoleiddiwr tai cymdeithasol sut y maent wedi gwneud hyn.
Gan weithio gyda’n haelodau, rydym wedi cynhyrchu nifer o adnoddau i gefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru i ddeall fforddiadwyedd i denantiaid a gwneud penderfyniadau am lefelau rhent a thaliadau gwasanaeth, gan gynnwys:
Gallwch ddarllen rhagor am sut y mae Cymdeithasau Tai yn gosod rhenti fforddiadwy yma.
Ein blaenoriaethau:
- Cefnogi cymdeithasau tai gydag offer ac adnoddau i helpu i sicrhau bod eu rhenti a’u taliadau gwasanaeth yn fforddiadwy i denantiaid.
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan y sector setliad rhent tymor hir a chynaliadwy.
Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith:
Mae ein cymunedau aelodau Prif Weithredwyr, Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion a Cyllid yn chwarae rôl allweddol wrth fod yn sail i’n gwaith yn y maes hwn.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a TPAS Cymru.
Am ragor o wybodaeth am y ffordd yr ydym yn datblygu polisi, cliciwch yma.
Gyda phwy i siarad...
Rhea Stevens
Hidlo yn ôl Maes Polisi
- Y cyfan
- Offeryn Fforddiadwyedd
- Egwyddorion fforddiadwyedd
Hidlo yn ôl Maes Polisi
- Y cyfan
- Offeryn Fforddiadwyedd
- Egwyddorion fforddiadwyedd