Blog gwadd: pam fod Nesta yn ystyried mai pympiau gwres yw’r “dewis gorau” i gymryd lle boeleri nwy traddodiadol
Gyda fersiwn diweddaraf Safonau Ansawdd Tai Cymru i gael ei lansio yn ddiweddarach eleni, mae Nesta - asiantaeth arloesi y Deyrnas Unedig er budd cymdeithasol - yn rhannu sut mae’n credu y gall cymdeithasau tai gyrraedd sero net.
Yma mae Andy Regan, rheolwr cenhadaeth tîm dyfodol cynaliadwy Estyn, yn rhoi ei farn ar ddatgarboneiddio ac os mai pympiau gwres yw’r dewis gorau i gymryd lle boeleri nwy.
Sut mae Nesta yn gweithio gyda chymdeithasau tai yng Nghymru?
Dim ond dechrau arni mae ein cydweithio gyda chymdeithasau tai yng Nghymru.
Rydym ar fin dechrau prosiect yn gweithio gyda thenantiaid cymdeithasol i ddeall eu safbwynt ar newidiadau a wnaed i’w cartrefi dan y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, yn arbennig bobl a gafodd bwmp gwres.
Rydym eisiau deall beth allai’r anghenion cymorth fod, ac yna eisiau parhau i weithio gyda thenantiaid i geisio dylunio a phrofi pethau a allai ateb yr anghenion cymorth hynny. Yn hanfodol, rydym eisiau i’r pethau hynny fedru cael eu hatgynhyrchu a bod â’r gallu i dyfu yn ôl yr anghenion, rhywbeth a allai gymryd lle y math o gefnogaeth drylwyr y dywedodd cymdeithasau tai wrthym fod rhai tenantiaid ei angen.
Os gwelwn rywbeth sy’n gweithio, gellid ei fabwysiadu ar draws cymdeithasau tai yng Nghymru a thu hwnt, a gall hyd yn oed fod yn ddefnyddiol wrth gefnogi perchen-feddianwyr a thenantiaid preifat yn y tymor llawer hirach.
Rydym yn awyddus iawn i glywed gan gymdeithasau tai yng Nghymru a allai fod â diddordeb mewn cydweithio ar y prosiect hwn.
Beth ydych chi’n feddwl yw’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithasau tai o ran datgarboneiddio eu cartrefi?
Yn ddi-os, yr her fwyaf yw cyllid a sut i wneud yn siŵr y caiff sero net flaenoriaeth wrth ochr pethau eraill, sydd efallai o gonsyrn mwy uniongyrchol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid fel ei gilydd.
Ar y lefel nesaf i lawr, byddwn yn tybio fod landlordiaid cymdeithasol yn ymaflyd gyda’r un cwestiwn â landlordiaid preifat a pherchen-feddianwyr: beth yw’r pecyn ‘iawn’ o fesurau? Yn Nesta buom yn un o’r llawer o leisiau fu’n dadlau mai pympiau gwres yw’r dewis gorau i gymryd lle boeleri nwy. Mae hyn yn bennaf oherwydd oherwydd faint mwy effeithiol ydynt na ffynonellau eraill o wres trydan, gyda thair neu fwy o unedau o wres am bob uned o drydan a aiff i mewn. Yn sylfaenol, mae hyn oherwydd eu bod yn cywasgu ac yn symud gwres sydd eisoes yno, yn hytrach na’i gynhyrchu. Mae hyn yn golygu – gyda diwygio prisiau ynni – y gallant gystadlu gyda boeleri nwy o ran costau rhedeg hirdymor.
Mae’r galw is hefyd yn golygu y gall costau system ynni, y mae pob defnyddiwr yn eu talu, fod yn is. Yn bwysicaf oll, maent yn dechnoleg hyfyw ac aeddfed heddiw, a ddefnyddir yn helaeth mewn llawer o wledydd eraill yn Ewrop, yn cynnwys yr Almaen, sydd â hinsawdd tebyg neu oerach na Chymru.
Yr amod wirioneddol bwysig yma yw ‘cyhyd ag y cânt eu gosod yn gywir’. Nid yw’n rhaid i hynny olygu uwchraddio ffabrig helaeth ym mhob un cartref, ond mae yn golygu dylunio system iawn, meddwl am faint rheiddiaduron a dyfeisiau gollwng gwres eraill, a mesurau rheoli iawn y mae’r pobl sy’n byw yn y cartrefi yn hyderus yn eu defnyddio. Gall fod yn anodd cael y pethau hyn yn iawn, ond y fantais mewn effeithiolrwydd ynni, arbed costau a gostyngiadau carbon yw’r hyn sy’n gwneud pympiau gwres y dewis gorau ym marn Nesta.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dod yn llawer nes at yr un safbwynt yma yn ei drafft strategaeth ar wres a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Sut ydych chi’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ostwng prisiau trydan i annog y galw am bympiau gwres?
Mae ein papur polisi diweddar yn dadlau y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ostwng prisiau trydan drwy ddileu ardollau yn barhaol ar ffynonellau adnewyddadwy o filiau trydan, a gosod cap ar y gymhareb o brisiau nwy i drydan, yna ei ostwng dros gyfnod.
Darllenwch ragor o flogiau gan CHC yma:
Mae Comisiwn Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig yn rhagweld mai dim ond 5% o wres domestig fydd yn dod o hydrogen ac y bydd hynny’n bennaf fel cyflenwad eilaidd ar gyfer pympiau gwres hybrid – pa rôl mae Nesta yn gredu fydd gan wres hydrogen yn y sector tai cymdeithasol, os bydd ganddo rôl o gwbl, yn y dyfodol?
Nid ydym yn credu mai hydrogen yw’r dechnoleg orau ar gyfer cartrefi, am nifer o resymau. Mae’n aneffeithiol ac yn ddrud, ac efallai nad yw mor wyrdd â hynny yn dibynnu ar sut y caiff ei wneud.
Credwn fod pobl efallai yn gael argraff rhy optimistig am ba mor rhwydd a chyflym y gallai’r pontio i hydrogen ddigwydd. Byddai boeleri a gaiff eu marchnata fel ‘parod i hydrogen’ mewn gwirionedd fod angen i beiriannydd eu huwchraddio i losgi hydrogen yn ddiogel, ac o gofio y byddai 100% hydrogen yn y grid ymhell dros ddegawd i ffwrdd fan orau, byddai angen gosod boeleri newydd yn lle’r rhai hynny ymhell cyn i hynny ddigwydd – ac nid oes sicrwydd y bydd yn digwydd o gwbl.
Bydd gan hydrogen rôl wirioneddol bwysig mewn datgarboneiddio sectorau eraill o’r economi na ellir eu trydanu – gweithgynhyrchu tymheredd uchel a chludo nwyddau am bellter maith, er enghraifft. Gall cartrefi gael eu gwresogi’n fwy effeithiol ac yn rhatach drwy ddefnyddio pympiau gwres trydan, heb dynnu i ffwrdd o’r sectorau hynny lle nad oes amgen i hydrogen.
Beth arall mae Nesta yn ei wneud i gefnogi’r sector tai cymdeithasol i ddatgarboneiddio?
Mae Nesta yn gweithio ar nifer o brosiectau a fedru gefnogi’r sector tai cymdeithasol ar ei daith carbon isel – o edrych ar ffyrdd i gyflymu pympiau gwres drwy gynllunio, i lansio gwasanaeth i alluogi pobl i ymweld â phwmp gwres yn agos atynt a gweld un drostynt eu hunain.
Mae’n amlwg y bydd gwneud gwresogi carbon isel yn beth cyffredin yn helpu i ennyn pobl i addasu a byw gyda’r dechnoleg. Yn ein barn ni, mae llawer o’r sylw yn y cyfryngau hyd yma wedi canolbwyntio ar gamddealltwriaeth am bympiau gwres, ac mae adroddiadau wedi bod â gormod o ffocws ar ddeiliaid tai sy’n feirniadol o’r dechnoleg. Dyna pam y comisiynodd Nesta yr arolwg mawr cyntaf o ddefnyddwyr pympiau gwres – mwy na 2,500 o berchnogion pympiau gwres domestig a mwy na 1,000 o berchnogion boeleri nwy domestig yn Lloegr, yr Alban a Chymru, a chyhoeddwyd y canlyniadau yn gynharach eleni.
O’r mwy na 2,500 o bobl a arolygwyd, roedd 81% o’r rhai oedd wedi gosod pwmp gwres yn fodlon neu’n fwy bodlon gyda phympiau gwres na gyda’u system wresogi flaenorol, gyda 8 allan o 10 yn dweud y byddent yn ei argymell i ffrindiau a theulu.
Yn ddiddorol, roedd lefelau bodlonrwydd pobl fwy neu lai yr un peth hyd yn oed mewn cartrefi gydag insiwleiddiad gwael a graddiad EPC isel. Mewn gwirionedd, gwelsom fod bron 1 ym mhob 6 o berchnogion pympiau gwres yn byw mewn cartrefi a godwyd cyn 1900. Roedd y rhan fwyaf o’r rhai yn yr arolwg wedi gosod eu pwmp gwres fel rhan o ôl-osod eu system bresennol. Mae’r canfyddiadau hyn yn chwalu’r cysyniad mai dim ond mewn cartrefi newydd tra effeithiol y mae pympiau gwres yn gweithio.
Roedd bodlonrwydd uchel yn arbennig gyda diogelwch (93%), dibynadwyedd (86%) a thwymo dŵr poeth (93%). Teimlai mwyafrif y defnyddwyr nad oedd pympiau gwres yn oramlwg, gyda 85% yn fodlon gyda lefelau sŵn .
Mae mwy o wybodaeth am Nesta ar gael yma, a thrwy gysylltu ag Andy Regan.
Hoffech chi siarad gyda tîm cyfathrebu Cartrefi Cymunedol Cymru am gydweithio ar flog?
Os felly, anfonwch e-bost at media@chcymru.org.uk