Barn Arbenigol: Gwaharddiad parhaol ar fesuryddion blaendalu yn hanfodol ynghyd â thariff ynni cymdeithasol newydd ar gyfer pobl fregus
Mae Hayley Macnamara, rheolwr polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru, yn galw am waharddiad parhaol ar osod mesuryddion blaendalu dan orfodaeth yn dilyn ymchwiliad Pwyllgor Deisebau Senedd Cymru.
Cymerwyd camau sylweddol mewn misoedd diweddar i drin mater arswydus gosod mesuryddion blaendalu dan orfodaeth.
Yr wythnos ddiwethaf cynhaliodd Pwyllgor Deisebau Senedd Cymru ymchwiliad i’r mater gyda’r prif gwmnïau ynni er mwyn amlinellu pryderon sylweddol a gwerthuso sut yr oedd yr arfer yn medru digwydd.
Yn ystod y gwrandawiad dywedodd y cadeirydd Jack Sargeant AS nad oedd yn “ddim llai na sgandal genedlaethol fod cyflenwyr cenedlaethol yn gosod mesuryddion blaendalu dan orfodaeth yng nghartrefi’r bobl fwyaf bregus” – a fedrem ni ddim cytuno mwy.
Croesawyd hefyd y cyhoeddiad diweddar gan Ofgem y byddai’n gweithredu pum maen prawf a awgrymir i sicrhau y caiff yr arfer o orfodi gosod mesuryddion blaendalu ei drin yn decach – tebyg i beidio targedu pobl dros 85 oed a rhai gyda chyflyrau iechyd difrifol.
Fodd bynnag, teimlwn fod angen i fesurau fynd lawer ymhellach.
Er yr ymddengys bod gosod mesuryddion blaendalu dan orfodaeth wedi ei atal i raddau helaeth, mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn galw am waharddiad parhaol ar osod mesuryddion blaendalu dan orfodaeth.
Wrth ochr hynny credwn y dylai Ofgem a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno tariff cymdeithasol ynni newydd ar gyfer pobl fregus, yn cynnwys y rhai sydd mewn risg o dlodi tanwydd a thenantiaid cymdeithasau tai.
Ynghyd â’n chwaer ffederasiynau, ysgrifennodd CHC at y Canghellor yn ddiweddar yn ei annog i ystyried tariff cymdeithasol ar gyfer y farchnad ynni fyddai yn dariff rhatach ac wedi ei dargedu at y rhai yn yr angen mwyaf.
Byddai’r mesurau hyn yn cynnig datrysiad hirdymor i’r rhai sydd fwyaf mewn risg, ac yn eu galluogi i gael mynediad i’r ynni maent ei angen heb fynd i ddyled bellach na fedrant ei fforddio ar adeg pan mae’r argyfwng costau byw wedi taro’n ddifrifol ar denantiaid cymdeithasau tai.
Mae bron hanner tenantiaid tai cymdeithasol Cymru yn defnyddio mesuryddion blaendalu, rhai ohonynt wedi eu gosod drwy orfodaeth. Fel canlyniad, caiff tenantiaid ledled Cymru eu gorfodi i wneud penderfyniadau torcalonnus am p’un ai i brynu bwyd neu dwymo eu cartref, a chredwn fod hyn yn annerbyniol.
Mae llawer o denantiaid tai cymdeithasol yn dibynnu ar fesuryddion blaendalu i’w galluogi i ymdopi’n well gyda chyllidebau eu cartrefi. Fodd bynnag, fel y gwnaethom ddweud yn flaenorol, gallai’r cynnydd mawr mewn cost defnyddio mesuryddion blaendalu fod yn fwy na biliau misol debyd uniongyrchol gan eu gwneud yn llai effeithiol o ran cost i denantiaid bregus yn yr hirdymor.
Dengys ffigurau’r Llywodraeth y cafodd dros 94,000 o fesuryddion blaendalu eu gosod drwy orfodaeth mewn cartrefi dan warant y llynedd heb ganiatâd y cwsmer – 7,500 mesurydd y mis ar gyfartaledd.
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn credu mai gwaharddiad llwyr a pharhaol ar osod mesuryddion blaendalu drwy orfodaeth yw’r unig ffordd i drin y mater hwn sy’n effeithio ar filoedd o fywydau.
Byddwn hefyd yn parhau i alw ar gwmnïau ynni i roi blaenoriaeth i osod mesuryddion deallus yn lle mesuryddion blaendalu pan mae tenant yn symud allan i ddod â’r cylch pryderus hwn i ben am byth.
Mae’n hanfodol y caiff gosod mesuryddion blaendalu drwy orfodaeth ei atal am byth ac edrychwn ymlaen at ganlyniad Pwyllgor Deisebau Senedd Cymru.
Mae mwy o wybodaeth am waith Cartrefi Cymunedol Cymru ar osod mesuryddion blaendalu drwy orfodaeth yn ein hadroddiad Amser i Weithredu.