Ymateb: Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu taliadau costau byw
Mae Hayley MacNamara, ein rheolwr polisi a materion allweddol, wedi rhybuddio y bydd y gaeaf hwn yn waeth i bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol oherwydd yr argyfwng parhaus mewn costau byw a diffyg cymorth ariannol i helpu gyda’r cynnydd mewn costau ynni.
Daw hyn ar ôl i Sefydliad Bevan ddweud nad yn aml nad yw’r hanfodion gan un mewn saith o bobl, mewn i’r ymateb i’r cyhoeddiad y bydd 422,000 o gartrefi ledled Cymru yn derbyn y taliad costau byw diweddaraf.
Mae Hayley yn awr wedi galw am i fwy gael ei wneud i gefnogi pobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai ar yr amser heriol iawn hwn.
Dywedodd Hayley MacNamara, rheolwr polisi a materion allanol ac sy’n goruchwylio costau byw ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru: “Bydd y gaeaf hwn yn waeth i lawer o bobl – ond yn arbennig felly i’r rhai sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai sy’n parhau i fod ymysg y rhai y mae’r argyfwng costau byw yn taro waethaf arnynt.
“Mae pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd, gyda llawer yn methu prynu hanfodion a gwresogi eu cartrefi wrth i’r tywydd oeri.
“Er y croesewir y taliadau hyn, ni fyddant yn pontio’r diffyg ariannol sy’n wynebu tenantiaid ar hyn o bryd. Mae’n rhaid gwneud mwy i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol brys maent ei angen, ac nad ydynt yn gorfod gwneud mwy o ddewisiadau torcalonnus y gaeaf hwn.”