Jump to content

Cynhadleddau - Digwyddiadau'r Gorffennol

Yn gryno

Mae ein cynadleddau yn denu cannoedd o staff o blith cymdeithasau tai Cymru a thu hwnt. Cânt eu datblygu mewn cysylltiad â’r sector i sicrhau eu bod yn berthnasol ac amserol.

  • Cynhadledd Llywodraethiant CHC 2024
    Cynadleddau 2 days voco St David's Hotel & Spa, Cardiff Bay
    Mawrth 19, 2024 @ 9:30yb

    Cynhadledd Llywodraethiant CHC 2024

    Byw ein diben creiddiol

    Mae ein Cynhadledd Llywodraethiant flynyddol bob amser yn rhoi cyfle i arweinwyr yn ein sector gymryd cam yn ôl, myfyrio ac ystyried y newidiadau sydd i ddod.

    Cynhelir cynhadledd llywodraethiant 2024 ar 19 a 20 Mawrth 2024 a bydd ei ffocws ar sut y gall arweinyddiaeth, a seiliwyd ar systemau llywodraethiant a diwylliant effeithiol, fod yn sbardun i’ch sefydliad i wneud y gwahaniaeth mwyaf i denantiaid a’r cymunedau yr ydych yn gweithio ynddynt.

    Gwyddom fod heriau lluosog a chymhleth, sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, yn wynebu eich tenantiaid a’ch sefydliad. Bydd y digwyddiad yn rhoi amser a lle i ddathlu y llu o ddatrysiadau a chyfleoedd o fewn y sector ac ymhellach i ffwrdd ac ystyried sut y gallwch gynyddu eich heffaith i’r eithaf.

    Bydd tocynnau ar gael yn y dyfodol agos.


  • Cynadleddau 2 days Mercure Holland House Hotel, 24 26 Newport Rd, Cardiff CF24 0DD
    Gorffennaf 4, 2023 @ 9:00yb

    Un Gynhadledd Tai Fawr 2023

    Yn ôl am y tro cyntaf ers 2019, bydd Un Gynhadledd Tai Fawr eleni yn canolbwyntio ar dri llinyn: cartrefi presennol, cartrefi newydd a chyllid.

    Ymunwch â ni ddydd Mawrth 4 a dydd Mercher 5 Gorffennaf yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd

  • Cynhadledd Llywodraethiant CCC 2023
    Cynadleddau 1.5 days Radisson Blu, Cardiff
    Mawrth 21, 2023 @ 9:30yb

    Cynhadledd Llywodraethiant CCC 2023

    Gofynnir i chi nodi fod archebion bellach wedi cau. Os oes angen i chi newid eich archeb, cysylltwch os gwelwch yn dda ag enquiries@chcymru.org.uk. Mae telerau ac amodau yn weithredol

    Rydym yn falch iawn i gyhoeddi y bydd Cynhadledd Llywodraethiant Cartrefi Cymunedol Cymru yn ôl ddydd Mawrth 21 a dydd Mercher 22 Mawrth yng Ngwesty’r Raddison Blu yng nghanol Caerdydd.