Jump to content

Cynhadledd Llywodraethiant CCC 2023

Mawrth 21, 2023 @ 9:30yb
Cynadleddau 1.5 days Radisson Blu, Cardiff

Gofynnir i chi nodi fod archebion bellach wedi cau. Os oes angen i chi newid eich archeb, cysylltwch os gwelwch yn dda ag enquiries@chcymru.org.uk. Mae telerau ac amodau yn weithredol

Cynhelir ein Cynhadledd Llywodraethiant wyneb yn wyneb gyntaf mewn tair blynedd ar adeg pan fo tai cymdeithasol a phreswylwyr yn wynebu newid a her sylweddol.

Yn y digwyddiad byddwn yn ymchwilio yn fanwl sut y gallwn wella llywodraethiant yn sylweddol drwy pa mor effeithlon yr ydym yn gwrando, sicrhau gwybodaeth gan breswylwyr a phartneriaid ac integreiddio hyn yn well i ddarpariaeth a dylunio gwasanaethau yn well. Yn ychwanegol, byddwn yn ystyried sut y gellir gwella arweinyddiaeth, systemau a diwylliant y sector i sicrhau llywodraethiant cadarn sy’n paratoi landlordiaid ar gyfer llwyddiant fel eu bod mewn sefyllfa well byth i wasanaethu eu preswylwyr a’u cymunedau.

RHAGLEN

---

Diwrnod 1 - Dydd Mawrth 21 Mawrth

8.45yb Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

9.30yb Croeso’r Cadeirydd - Jonathan Morgan, Hafod

9.35yb Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol, Cartrefi Cymunedol Cymru yn gosod y llwyfan

9.50yb Prif Araith: Sut mae arwain yn dda mewn amgylchedd o ansicrwydd?
Arglwydd Victor Adebowale CBE: cyn Brif Swyddog Gweithredol Turning Point, a sefydlydd Collaborate.

Mae llywodraethiant effeithlon yn y sector angen arweinwyr mewn sefydliadau a all greu strategaeth effeithlon i helpu cydweithwyr a chymunedau i ganfod eu ffordd drwy newid polisi, masnachol a chymdeithasol. Ond mae’n anodd arwain yn dda a gyda eglurdeb a dylanwad p’un ai’n creu newid cronnus neu drawsnewid. Sut y gall landlordiaid cymdeithasol sicrhau arweinyddiaeth ffurfiol ac anffurfiol wych ar gyfer y cydweithwyr y maent yn gweithio gyda nhw a’r cymunedau y gweithiant ynddynt?

10.50yb Seremoni Raddio Llwybr i’r Bwrdd

Sylweddolodd cynrychiolwyr o gymdeithasau tai CCHA, Taff, Linc Cymru, Cadwyn a Hafod nad oedd eu Byrddau yn ddigon amrywiol, ac roedd diddordeb mawr pan wnaethant gymryd camau cadarnhaol i gyfarch y mater. Gwelsant fod pobl oedd yn cael eu tangynrychioli yn nhermau eu hethnigwydd eisiau bod yn rhan o strwythurau Bwrdd ond nid oedd gan lawer ohonynt fawr neu ddim profiad Bwrdd a byddent angen ychydig o gefnogaeth i fod yn barod i fod ar Fwrdd. Mae’r rhaglen Llwybr i’r Bwrdd yn gyfle datblygu proffesiynol parhaus a gynlluniwyd i ddarparu unigolion o gymunedau lleiafrif ethnig yn well sydd eisiau cyfrannu at arweinyddiaeth sefydliad, yn arbennig yn y sector tai.

Lansiwyd y rhaglen ym mis Mawrth 2022 gan gynrychiolwyr o gymdeithasau tai CCHA, Taf, Linc Cymru, Cadwyn a Hafod. Yn y sesiwn yma, a noddwyd gan Blake Morgan, byddwn yn clywed gan Afshan Iqbal (CCHA) ar sut y gall mwy o sefydliadau gymryd rhan a barn y garfan gyntaf o raddedigion am y rhaglen.

11.10yb Cyfle am baned a sgwrs

11.45yb Sesiwn panel: A ydym yn gwrando mewn gwirionedd? (mewn sgwrs)

Mae angen gwrando go iawn wrth ddarparu gwasanaethau rhagorol ar gyfer preswylwyr er mwyn cael eu mewnbwn ar sut y gallwn gynnal a gwella darpariaeth gwasanaeth.

Ond beth sydd ei angen i wneud hyn yn wirioneddol dda? Sut fedrwn ni wella sut mae’r sector yn gwrando ar breswylwyr a phartneriaid a beth yw rhai o’r datrysiadau ymarferol i wneud hyn?

Mewn sgwrs gyda:


Ian Walters (Cadeirydd)
Pennaeth Rheoleiddio Tai, Llywodraeth Cymru

Catherine Russell
Cyd-gyfarwyddwr, People Powered Results, Nesta
@Cathers33

David Lloyd
Cyfarwyddwr Rhaglen a Dirprwy Brif Weithredwr, TPAS Cymru
@DavidTheLloyd

Derek Walker
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
@futuregencymru

12.30yp Cinio

1.40yp Prif Araith: Sut olwg sydd ar sicrwydd ansawdd da?
Helen Baker, Cadeirydd Adolygiad Tai Cymdeithasol Gwell

Yng nghyd-destun y sylw a roddwyd yn ddiweddar i amodau tai cymdeithasol a’r camau a gymerwyd gan fyrddau a thimau arweinyddiaeth i adolygu a chryfhau eu hymateb, pa wersi y gallwn eu dysgu o’r profiad i gryfhau ein holl ymagwedd at sicrwydd.

Bydd Helen Baker yn defnyddio ei phrofiad helaeth i gynnig sylwadau eraill, yn cynnwys fel Cadeirydd Adolygiad annibynnol Gwell Tai Cymdeithasol, Cadeirydd Shelter ac Is-gadeirydd the What Works Centre for Wellbeing.

2.15yp Sesiynau grŵp:

1. Cartrefi ansawdd da

Mae darparu cartrefi a gwasanaethau ansawdd uchel yn egwyddor craidd mewn rheoleiddio tai cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y gweithdy hwn yn ymchwilio themâu craidd a rhannu dysgu gyda’r sector i gefnogi cyflenwi safonau uchel.

Andrea Street
Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelwch Tai, Rheoleiddio a Safonau, Llywodraeth Cymru

2. Diwylliant Bwrdd

Mae diwylliant yn hollbwysig i fyrddau fedru cyflawni eu rôl yn dda a gweithio er budd gorau preswylwyr yn ogystal â’u sefydliad. Sut y gall byrddau wella’r ffordd y maent yn meddwl, gweithio a gweithredu fel eu bod yn barod ar gyfer llwyddiant yn arbennig wrth i’r sector ganfod ei ffordd drwy newid?

Ceri Victory-Rowe
Cyfarwyddwr, Campbell Tickell
@ceri_vr

3. Gofyn Cwestiynau Craff – Cyllid ar gyfer aelodau Bwrdd

Sesiwn flasu ar gyfer aelodau Bwrdd a rhai heb fod yn gweithio ym maes cyllid i’w helpu i fanteisio i’r eithaf allan o’r adran cyllid mewn cyfarfodydd Bwrdd.

Sarah Prescott
Cyfarwyddwr a Sefydlydd, Redyn Consulting
@SPrescottWales

4. Y seilwaith ar gyfer sicrwydd ansawdd da

Gall prosesau a systemau da i hwyluso llywodraethiant effeithlon mewn byrddau a phwyllgorau wneud gwahaniaeth enfawr i sicrwydd ansawdd cadarn. Beth yw’r dulliau pwysicaf ac enghreifftiau o arfer gorau pan ddaw i gyfarfodydd, rheoli risg a gosod amcanion a all helpu i wneud gwahaniaeth ymarferol a chadarnhaol?

Geoff Higgins
Rheolwr Gyfarwyddwr, Decision Time
@DecisionTime

3.30yp Paned a rhwydweithio

3.30yp Prif Araith - Geoff Lloyd, Reasons to be Cheerful

4.30yp Bwrw golwg yn ôl ar Ddiwrnod 1 - Jonathan Morgan, Hafod

6.30yp Derbyniad diodydd

7.00yp Cinio’r gynhadledd

Diwrnod 2 - Dydd Mercher 22 Mawrth

8.45yb Rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

9.30yb Croeso gan y Cadeirydd - Jonathan Morgan, Hafod

9.35yb Sesiwn panel: Troi gwrando yn weithredu go iawn

Mae tryloywder a llywodraethiant da yn golygu gwrando’n dda a hefyd ddangos sut y caiff dirnadaeth, barn a syniadau preswylwyr eu hadlewyrchu mewn gwasanaethau. Beth fedrwn ni ei wneud yn well i gysylltu gwrando a darpariaeth gwasanaeth yn well fel ein bod yn lleihau rhwystredigaeth preswylwyr, datblygu syniadau newydd ac arloesi’n rhagweithiol lle gallwn?. Beth fedrir ei wneud i wella craffu a her mewnol ac allanol fel bod y sector yn creu canlyniadau sy’n adlewyrchu’r hyn mae preswylwyr ei eisiau a’i angen.

Mewn sgwrs gyda:

Harriet Green
Cyd-brif weithredwyr
@cdps_cymru

Anne-Louise Clark
Cyfarwyddwr Gweithredol, Archwilio Cymru
@WalesAudit

10.35yb Sesiwn panel: Cadw at y trywydd: Canolbwyntio ar eich diben craidd mewn cyfnodau anodd

Mae darparu gwasanaeth da nid yn unig yn dinistrio ymddiriedaeth ac enw da ond mae’n cael canlyniadau negyddol i breswylwyr ac yn aml yn dangos diffygion difrifol mewn llywodraethiant a diwylliant i rwystro hyn.

Beth yw rhai o’r gwersi ymarferol gan sectorau eraill y gall landlordiaid cymdeithasol eu hystyried a herio eu hunain arnynt i sicrhau bod systemau llywodraethiant ar waith i ddynodi problemau, lleihau risg a gweithredu ar yr amser cywir fel na aiff pethau o chwith?

Cllr. Andrea Lewis
Cyngor Abertawe & WLGA
CllrAndreaLewis

Michelle Morris
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
@OmbudsmanWales

Anne Hinchey
Prif Weithredwyr, Tai Wales & West a Cadeirydd, Tai Aelwyd
@WWHA @AelwydHA

11.30yb Paned a rhwydweithio

12.30yb Prif siaradwr: Cemal Ezel
Sefydlydd, Change Please
@CemalEzel

13.30yb Diwedd y Gynhadledd, gyda chinio a rhwydweithio i ddilyn

Telerau ac Amodau

Mae pob archeb yn ddibynol ar ein telerau ac amodau. Codir pris llawn am archebion a gaiff eu canslo o fewn 21 diwrnod i’r digwyddiad.