Bethan Proctor
Rheolwr Polisi a Materion Allanol
Ymunodd Bethan â Cartrefi Cymunedol Cymru yn 2019 fel Rheolwr Polisi a Materion Allanol. Mae ganddi gefndir gwleidyddol ar ôl gweithio i Aelod o’r Senedd ac mae hefyd yn gynghorydd lleol yng Nghaerdydd.
Bu Bethan yn gweithio i National Energy Action Cymru lle datblygodd bolisi i gefnogi’r rhai sy’n byw mewn tlodi tanwydd ac mae hefyd wedi gweithio mewn gwasanaethau plant.
Yn Cartrefi Cymunedol Cymru mae Bethan yn arwain ar feysydd datgarboneiddio a pholisi materion cyhoeddus. Gweithiodd gyda Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (SATC) a gydag aelodau ar ymgysylltu â thenantiaid a sgiliau. Bu’n gweithio’n flaenorol ar ddiogelwch adeiladau oedd yn cynnwys arwain Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol a’r Grŵp Cyflenwi Strategol ar Ddiogelwch.