Am y swydd
Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth mewn tai cymdeithasol!
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn edrych am bennaeth polisi a materion allanol (llanw dros gyfnod mamolaeth) angerddol i arwain ein gwaith ymgyrchu, dylanwadu a pholisi proffil uchel a datblygu a chynnal perthynas allweddol gydag uwch bartneriaid.
Rydym yn edrych am rywun gyda:
- O leiaf bum mlynedd o weithio mewn swydd datblygu polisi neu ddylanwadu gwleidyddol;
- Sgiliau dylanwadu rhagorol;
- Dealltwriaeth gref a/neu brofiad o weithio gyda Llywodraeth Cymru a/neu lywodraeth leol;
- Dealltwriaeth gref a phrofiad o weithio gyda a dylanwadu ar Aelodau o Senedd Cymru a/neu Aelodau Seneddol;
- Profiad a hanes o lwyddiant mewn cysylltu gyda Gweinidogion, uwch weision sifil a rhai gyda dylanwad sylweddol ar lefel genedlaethol;
- Profiad gyfredol o faterion cyfoes.
I wneud cais, cysylltwch ag Abi Renshaw os gwelwch yn dda. I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â Clarissa Corbisiero, cyfarwyddwr materion allanol a dirprwy brif weithredwr.
Edrychwch ar y pecyn swydd isod os gwelwch yn dda.
Sut i wneud cais
Mae’r manylion dilynol ar gael yn y pecyn swydd yma:
- Disgrifiad swydd, manyleb person a gwybodaeth ar delerau ac amodau.
- Ffurflen gais y bydd angen i chi ei llenwi yn amlinellu mewn dim mwy na 800 gair sut ydych yn cyflawni meini prawf profiad a nodir yn rhan ‘yr hyn yr ydyn ni’n edrych amdano’ o’r fanyleb swydd a pham eich bod eisiau y swydd yma.
- Mae’n RHAID i chi hefyd gynnwys CV pwrpasol yn ymwneud â’ch cais am y swydd hon (dim mwy na 3 tudalen).
- Ffurflen cyfle cyfartal Ni chaiff y ffurflen hon ei defnyddio ar unrhyw gam o’r broses recriwtio a chaiff ei gwahanu oddi wrth eich ffurflen gais yn syth pan gaiff ei derbyn. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir ar y ffurflen hon yn parhau’n gyfrinachol a dim ond ar gyfer dibenion monitro i asesu effeithlonrwydd ein polisi cyfle cyfartal y caiff ei defnyddio.
Rhaid e-bostio y ffurflen wedi ei llenwi, CV a ffurflen cyfle cyfartal wedi eu marcio yn Preifat a Chyfrinachol at– Pecyn swydd Pennaeth Polisi a Materion Allanol i Abi-Renshaw@chcymru.org.uk erbyn 9am 11 Mawrth 2024.
Caiff pob ffurflen eu cadw am 6 mis yn unol ag arfer gorau i sicrhau y gallwn roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus a chefnogi’r sefydliad pe byddid yn dod â hawliad yn ei erbyn.
Cynhelir cyfweliadau 21 Mawrth 2024.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais maes o law.
Lawrlwytho