Economi Sylfaenol
Yn gryno
Mae gan raglenni datgarboneiddio y potensial i adeiladu ar yr economi sylfaenol mewn ffordd sylweddol yng Nghymru.
Dengys ein ymchwil yn edrych ar effeithiau economaidd-gymdeithasol cymdeithasau tai y byddai’r sector, os ydym yn llwyddiannus mewn cyflawni ein gweledigaeth o adeiladu 75,000 o gartrefi carbon isel hyd at 2036, yn cefnogi:
- £23.2bn o weithgaredd economaidd ar draws Cymru
- Creu 50,000 o swyddi yn yr economi ehangach
- Darparu 19,500 o gyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaethau
- Tyfu i gyflogi cyfanswm o 16,000 o weithwyr
Mae ein ffocws presennol ar argaeledd sgiliau yng Nghymru., Heb y sgiliau sydd eu hangen, ni all cymdeithasau tai ddatgarboneiddio ar raddfa eang. Byddwn yn datblygu adolygiad llenyddiaeth o gyflwr sgiliau ac yn cynnal sesiwn cwmpasu gyda chi i ddeall yr heriau ymhellach.
Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o waith
Bydd y sesiwn cwmpasu sgiliau yn cynnwys cymdeithasau tai a phartneriaid allanol, a bydd yn ein cefnogi i ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn.
Gyda phwy i siarad...
Bryony Haynes
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd