Pob llygad ar y gorwel
Mae Adnodd Data Gorwelion Tai, a gyhoeddodd Cartrefi Cymunedol Cymru yn ddiweddar, yn rhoi cipolwg pwysig ar y ffyrdd y bydd newid mewn demograffeg yn ogystal â ffactorau cymdeithasol ac economaidd, yn effeithio ar gyflenwad tai a gwasanaethau yng Nghymru erbyn 2036.
Dengys yr adroddiad y bydd cyfran sylweddol o'r twf a welwn yn y boblogaeth dros y ddau ddegawd nesaf yn cynnwys pobl hŷn (rhai dros 65 oed) a bydd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl dros 85 oed.
Mae hyn ynddo'i hun yn cyflwyno her i wneuthurwyr penderfyniadau a pholisi: nid yw pobl hŷn yn grŵp unffurf - mae anghenion rhywun yn eu 60au yn debyg o fod yn wahanol iawn i anghenion rhywun yn eu 80au hwyr. Yn ogystal â buddsoddi mewn tai 'traddodiadol', mae felly’n hanfodol fod buddsoddiad mewn opsiynau eraill megis cynlluniau tai gofal ychwanegol, a all ymateb i'r newid yn anghenion pobl wrth iddynt heneiddio a'u galluogi i gael mynediad i unrhyw help a chefnogaeth y gallant fod ei angen.
Mae hefyd yn hanfodol fod mater stoc tai ansawdd gwael yng Nghymru yn cael ei drin fel mater o frys. Mae llawer o bobl hŷn yn byw mewn cartrefi hen, oer, llaith ac wedi'u cynllunio'n wael, yn aml yn achosi afiechyd neu gynyddu'r risg o ddamweiniau neu godymau. Bydd methiant i drin hyn yn ddrud iawn i'r unigolyn a'r pwrs cyhoeddus pan fo unigolyn angen gofal iechyd neu gymdeithasol oherwydd salwch neu golli symudedd a achosir gan dai gwael. Oherwydd rôl arwyddocaol tai yn iechyd a llesiant pobl, dylid gweld y sector tai fel partner cyfartal i iechyd a gofal cymdeithasol wrth hyrwyddo'r agenda ataliaeth yng Nghymru a dylid ei gefnogi i wneud hynny.
Er bod cynyddu maint stoc tai a gwella ei ansawdd yn bwysig, mae'n rhaid hefyd fod ffocws ar ddiogelu gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol (e.e. trafnidiaeth gyhoeddus, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, toiledau cyhoeddus, seddi ac yn y blaen). Ni chaiff iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl hŷn ei wella os yw eu cartref yn briodol a hygyrch ond eu bod yn methu gadael eu cartrefi neu gysylltu gyda'u cymunedau. Dylai'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus newydd gefnogi'r dull mwy cydlynol hwn ond, wrth ddatblygu cynlluniau llesiant lleol, rhaid peidio diystyru rôl allweddol tai a'r sector tai mewn gwella iechyd a llesiant.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Cartrefi Cymunedol Cymru yn defnyddio Adnodd Data Gorwelion Tai i annog trafodaeth am sut y bydd Cymru yn mynd i'r afael â'r heriau tai yn y dyfodol. Ond yn fwy na hynny, rwy'n croesawu’r ffaith fod yr adroddiad yn cymryd golwg hirdymor o'r heriau i ddod. Mae'n rhaid i sectorau eraill ddefnyddio'r math yma o ymagwedd os ydym i sicrhau y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni anghenion pobl yn awr a hefyd yn y dyfodol.
Sarah Rochira
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
@talkolderpeople