CHC yn cefnogi Cronfa Caledi Ynni
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn cefnogi ymgyrch elusennol sy’n anelu i helpu miloedd o bobl i fforddio eu biliau ynni y gaeaf hwn.
Wedi ei lansio gan HACT, mae’r Gronfa Caledi Ynni yn gofyn am gyfraniad o £1 miliwn gan sefydliadau tai cymdeithasol, sefydliadau cadwyni cyflenwi a chaffael, yn ogystal ag ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol. Mae’r ffigur o £1 miliwn yn cyfateb i’r swm a godwyd y llynedd.

Mae’r sefydliadau eraill a gefnogodd y Gronfa eleni yn cynnwys: y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban a’r Sefydliad Tai Siartredig.