Jump to content

Andrew Vye

Aelod bwrdd

Mae Andrew wedi gweithio ar draws y sectorau tai cyhoeddus a thrydydd sector yng Nghymru am yr 20 mlynedd ddiwethaf mewn amrywiaeth o swyddi. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddydd Cymunedau a Datblygu Busnes Pobl ac mae wedi gweithio yn y Grŵp ers ei greu yn 2016. Cyn hynny, bu Andrew yn Gyfarwyddydd Tai Cymdeithas Tai Gwalia.

Fel rhan o'i swydd bresennol gyda Pobl, mae Andrew yn gyfrifol am drawsnewid busnes sy'n cynnwys ailgynllunio ac alinio'r profiad cwsmeriaid ar draws y 3 cymdeithas tai sy'n rhan o Grŵp Pobl. Mae Andrew hefyd yn gyfrifol am arwain a datblygu cynnig 'Heneiddio Egnïol' pobl mewn cymunedau ar draws Dde Cymru ac adfywio a buddsoddi i nifer o gymunedau mawr lle mae grŵp o Pobl yn rheoli cartrefi.

Mae Andrew hefyd wedi gweithio ar gyfer y sector Tai â Chymorth a bu'n Gyfarwyddydd Cymorth Gofal a Chymorth Gwalia am 2 flynedd rhwng 2013 a 2015. Cyn symud i'r sector cymdeithaau tai yn 2014, bu Andrew yn gweithio mewn llywodraeth leol ar draws amrywiaeth o swyddi, yn cynnwys Digartrefedd a Chyngor Tai, meysydd Adfywio Tai, Strategaeth a Gwasanaethau Landlord.