Community Housing Cymru's (CHC's) Code of Governance
Mae llywodraethiant da yn sylfaenol i lwyddiant pob sefydliad.
Cynlluniwyd Cod Llywodraethiant CHC i gefnogi llywodraethiant da a gwelliant parhaus o fewn cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae ei egwyddorion, rhesymeg a chanlyniadau yn gyffredinol ac yr un mor berthnasol i bob sefydliad. Fodd bynnag, gall y ffordd y mae sefydliadau’n rhoi’r arfer da a argymhellir ar waith i ateb yr egwyddorion hyn amrywio yn dibynnu ar faint, incwm, gweithgareddau neu gymhlethdod sefyllfa.
Fe wnaethom gyhoeddi fersiwn ddiweddaredig o’r Cod ym mis Mai 2021 sy’n cynnal ac yn adeiladu ar y ffocws presennol ar ddiwylliant ac ymddygiad sefydliadau.
Cafodd y Cod diweddaredig ei gryfhau i gefnogi ymrwymiad y sector cymdeithasau tai i welliant yng nghyswllt hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac at gymryd ymagwedd ragweithiol i fynd i’r afael â gwahaniaethu. Yn ychwanegol, mae pwyslais o’r newydd ar ddiwylliant, gwerthoedd a’r hawl i deimlo’n ddiogel; ac arweiniad cliriach i Fyrddau ar gyfranogiad tenantiaid a staff mewn gwneud penderfyniadau, cysylltiadau gyda’r gymuned leol a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Lawrlwytho
Cod Llywodraethiant
Lawrlwytho