Diogelwch
Yn gryno
Mae diogelwch tenantiaid yn hollbwysig i gymdeithasau tai sy’n gweithio’n ddiflino i gynnal y safonau uchaf posibl. Yn 2020 fe wnaethom gyhoeddi ‘Diogelwch yn Gyntaf mewn Tai’ mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, fframwaith sy’n cefnogi cymdeithasau tai i gyflawni a chynnal yr ymagwedd dryloyw at faterion iechyd a diogelwch.
Fe wnaethom hefyd sefydlu partneriaeth gyntaf y Deyrnas Unedig ar ddiogelwch tân, y ‘Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol’ (PFAS) sy’n rhoi cyngor gyda sicrwydd i gymdeithasau tai, gan eu helpu i gydymffurfio gyda’r gyfraith a chadw tenantiaid yn ddiogel.
Mae cymdeithasau tai yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio’r system diogelwch adeiladau yng Nghymru. Fel sector rydym yn cefnogi’r angen i ddiwygio diogelwch adeiladau i sicrhau bod cartrefi yn cael eu cynllunio, adeiladu a’u rheoli i’r safonau diogelwch uchaf.
Ein blaenoriaethau
- Dylanwadu ar ddeddfwriaeth newydd ar ddiogelwch adeiladau fel y caiff cymdeithasau tai eu cefnogi i gynnal y safonau diogelwch uchaf.
- Cefnogi aelodau wrth ddeall newid deddfwriaethol ar ddiogelwch adeiladau.
- Cefnogi aelodau i ddatblygu strategaethau ymgysylltu â phreswylwyr.
Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o waith
Mae gan ein grwpiau cyflenwi strategol Diogelwch a Rheolaeth Tai rôl allweddol wrth lywio ein gwaith yn y maes hwn.
Rydym hefyd yn gweithio gyda’r gweithgor diogelwch tân a grŵp PFAS i ddynodi meysydd blaenoriaeth. Mae’r ddau grŵp yma yn bwydo mewn i grŵp cyflenwi strategol Diogelwch
I gael mwy o wybodaeth ar sut ydym yn datblygu polisi, cliciwch yma.
Gyda phwy i siarad...
Anna Humphreys
Hidlo yn ôl Maes Polisi
- Y cyfan
- Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol (PFAS)
- Cynnig Tryloywder Diogelwch
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Hidlo yn ôl Maes Polisi
- Y cyfan
- Cynllun Awdurdod Tân Sylfaenol (PFAS)
- Cynnig Tryloywder Diogelwch
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd