Safonau Adeiladu
Yn gryno
Mae cymdeithasau tai Cymru yn ymroddedig i adeiladu cartrefi ansawdd da sy’n cefnogi pobl ar hyd eu bywydau. Mae rheoliadau adeiladu ar yr holl gartrefi newydd yng Nghymru, sy’n gosod safon gofynnol i sicrhau fod adeiladau yn ddiogel, iach ac yn perfformio’n dda.
Yn ogystal, mae’n rhaid i gartrefi cymdeithasau tai gyrraedd gofynion ansawdd datblygu (DQR) Llywodraeth Cymru. Mae’r safon DQR yn ofyniad ym mhob cartref a gyllidir drwy’r grant tai cymdeithasol ac mae’n gosod safon gofynnol ar gyfer gofod, diogelwch, effeithiolrwydd ynni a llu o nodweddion eraill. Mae’r safonau hyn yn aml yn sylweddol uwch na’r safonau gofynnol, a sefydlwyd gan reoliadau adeiladu.
Yn dilyn argymhellion o’r Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yn 2019, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n diwygio’r safonau hyn, gan gyflwyno safon newydd Cartrefi a Gofodau Hardd.
Ym mis Awst 2020 cynigiodd ymgynghoriad safon symlach yn canolbwyntio ar elfennau allweddol gofod, effeithiolrwydd ynni a diogelwch, a hyrwyddo datblygu cartrefi sy’n hyblyg i newid mewn anghenion. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu’r cynigion terfynol ar gyfer y safon newydd a disgwylir iddynt gyhoeddi hyn yn nes ymlaen yn 2021.
Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o waith
Mae gan ein grŵp cyflenwi strategol Cartrefi’r Dyfodol rôl allweddol wrth lywio ein gwaith wrth lywio ein gwaith ar safonau adeiladu a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill yn y maes hwn.
Yn ogystal â hyn, mae CHC yn cysylltu’n rheolaidd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar ddatblygiadau yn y maes hwn ac yn gweithio’n agos gyda chyrff eraill y sector yn cynnwys Cyngor Dylunio Cymru a RICS ar faterion polisi allweddol.
I gael mwy o wybodaeth ar sut ydym yn datblygu polisi, cliciwch yma.
Gyda phwy i siarad...
Bryony Haynes
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd