Jump to content

‘Gyda Chi’

Lansiwyd yr ymgyrch hon yn ystod ton gyntaf pandemig Covid 19 yn haf 2020, gan anelu i roi sylw i’r amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid tai cymdeithasol.

Am beth mae’r ymgyrch ‘Gyda Chi’?

Lansiwyd yr ymgyrch yn ystod ton gyntaf pandemig Covid 19 yn haf 2020. Anelai roi sylw i’r amrywiaeth o gefnogaeth oedd ar gael i denantiaid tai cymdeithasol. Mae’r ymgyrch wedi parhau drwy gydol y pandemig.

Pa wahaniaeth wnaeth yr ymgyrch?

Un o rannau pwysig yr ymgyrch oedd rhoi sylw i brotocol cymorth ariannol a ddatblygwyd gyda llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Mae’r protocol yn gwneud cyfres o ymrwymiadau i denantiaid yn ystod y pandemig:

Cymdeithasau tai wedi cadw tenantiaid yn ddiogel yn eu cartref

Fe amlinellodd yr ymgyrch sut na fyddai neb yn cael eu troi allan o’n cartrefi fel canlyniad i galedi ariannol a achoswyd gan COVID-19, a byddai cymdeithasau tai yn parhau i weithio i atal unrhyw achos troi allan rhag troi’n ddigartref.

Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?

Gallwch lawrlwytho’r protocol cymorth ariannol yma.

Sut y gallaf gymryd rhan?

Cymdeithasau tai:

  • rhannu’r protocol cymorth ariannol gyda’ch tenantiaid a nodi’n glir sut y byddwch yn ei weithredu’n lleol a pha gefnogaeth sydd ar gael.
  • rhannu eich straeon cymorth a’r effaith a gafodd hynny yn defnyddio hashnod #gydachi.

Partneriaid:

  • rhannu’r protocol cymorth ariannol gyda’ch defnyddwyr gwasanaethau sydd hefyd yn denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru a’u hannog i siarad gyda’u landlord os byddant angen unrhyw gymorth.
  • siarad gyda’ch cymdeithas tai leol am y gwasanaethau a gynigiwch fel y gallant ystyried sut i’w rhannu gyda thenantiaid yn lleol.