Sut mae cymdeithasau tai yn mynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghymru?
Yn 2022, mae 23% o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae’r cynnydd mewn prisiau a lefelau uchel chwyddiant yn hybu argyfwng costau byw sy’n rhoi pobl ar incwm isel dan bwysau ariannol difrifol. Mae pobl sy’n ddigartref ac sy’n ffoi rhag gwrthdaro o Wcràin ac Afghanistan angen lleoedd i fyw ar frys hefyd.
Yn fwy nag erioed, mae pobl yng Nghymru angen cartrefi ansawdd uchel, diogel a fforddiadwy.
Nid yw ateb y galw am dai newydd yn rhwydd. Rhwng 2016 a 2021, adeiladodd cymdeithasau tai tua 1,200 o gartrefi bob blwyddyn. Nawr, mae prosiectau ymchwil StatsCymru yn dangos y bydd Cymru angen tua 7,400 o dai ychwanegol bob blwyddyn hyd 2024 i ateb yr angen cynyddol – yn cynnwys 3,500 o unedau tai fforddiadwy.
Sut y bydd cymdeithasau tai yn ateb y galw?
Mae cymdeithasau tai yn bodoli i ddarparu cartrefi ansawdd uchel, diogel a fforddiadwy. Mae nifer fawr o bobl ar restri aros am dai fforddiadwy yng Nghymru ar hyn o bryd, gan nad oes gennym eto ddigon ar gyfer pawb sydd eu hangen – ond mae cynlluniau ar waith i ddatblygu mwy o leoedd i bobl fyw ynddynt.
Mae’r rhan fwyaf o gymdeithasau tai yn gweithio wrth ochr awdurdodau lleol i rentu cartrefi i bobl na all fforddio prynu eu cartrefi eu hunain, sy’n methu fforddio rhentu gan landlord preifat, neu angen cartref gyda nodweddion arbennig. Mae llawer sy’n gweithio yn yr un ardal yn defnyddio un gofrestr tai gyffredin ynghyd ag awdurdodau lleol, i ddyrannu tai mewn rhannau penodol o Gymru. Mae hyn yn golygu mai dim ond un cais y mae pobl yn gorfod ei wneud am gartref cymdeithasol yn y man y maent eisiau byw ynddo. Mae dau – Tai Tarian a Cartrefi Conwy – hefyd yn rhedeg y cofrestri tai (a gaiff hefyd eu galw yn rhestri aros) ar ran eu hawdurdodau lleol.
Ledled Cymru, mae cymdeithasau tai ar hyn o bryd yn darparu bron 165,000 o gartrefi i 10% o’r boblogaeth. Ond gyda mwy a mwy o bobl angen taii fforddiadwy, ni all – ac nid yw – cymdeithasau tai yn canolbwyntio ar eu tenantiaid presennol yn unig. Mae ganddynt hefyd ddyletswydd i adeiladu cartrefi newydd i bobl fyw ynddynt.
Mae Llywodraeth Cymru a’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn ymroddedig i gyflawni 20,000 o gartrefi dros dymor presennol y Senedd (2021 i 2026) i ateb yr angen a ragwelir. Mae angen llawer o fuddsoddiad i adeiladu miloedd o gartrefi newydd bob blwyddyn, fodd bynnag, a dyna pam eich bod weithiau’n gweld adroddiadau newyddion am gymdeithasau tai yn derbyn cyllid newydd gan y llywodraeth.
Mae cymdeithasau tai yn sefydliadau dim er elw a gaiff eu hariannu gan rent, grantiau a benthyca preifat. I gyrraedd targed Llywodraeth Cymru, ni fedrai cymdeithasau tai ddim ond cynyddu rhent eu tenantiaid, neu fenthyca miliynnau o bunnau dros nos – maent angen cymorth gan y llywodraeth.
Mae cymdeithasau tai wedi ymgyrchu dros amser maith am fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu gweledigaeth o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wario mwy na £1bn ar adeiladu tai cymdeithasol newydd dros dair blynedd (2022-2025) i ateb yr angen tai a ragwelir. Mae hyn yn golygu fod y cyllid gan gymdeithasau tai yn awr i ymrwymo i ddatblygu’r holl gartrefi cymdeithasol y mae gan Gymru gymaint o’u hangen.
Os nad yw cyllid yn gymaint o broblem, pam na fedrir codi tai cymdeithasol yn gyflymach i ateb y galw?
Mae adeiladu cartref yn broses hir, gofalus a chymhleth. Hyd yn oed pan mae gan gymdeithas tai gynllun eisoes – ac wedi medru caffael tir ar adeg heriol a chystadleuol – ar gyfer datblygiad sy’n rhoi ystyriaeth i’r amgylchedd a’r effaith ar y gymuned leol, mae’r system cynllunio y mae’n rhaid i bob datblygydd tai ymwneud â hi yn gymhleth, ac mae gan gymdeithasau tai gyfrifoldeb ychwanegol i sicrhau fod pob cartref newydd o ansawdd uchel, yn rhai carbon isel ac yn dangos rheolaeth amgylcheddol ragorol yn unol gyda safonau Llywodraeth Cymru.
Mae cymdeithasau hefyd yn wynebu cynnydd enfawr yng nghost deunyddiau, tarfu ar y gadwyn gyflenwi a heriau mewn hyfforddi a recriwtio staff arbenigol mor gyflym ag sydd angen.
Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu nad yw cymdeithasau tai yn adeiladu cartrefi. Mae eu timau yn parhau i fuddsoddi eu hamser ac arbenigedd i adeiladu lleoedd gwych i fyw ynddynt – ond gall gymryd mwy o amser nag arfer yn yr hinsawdd presennol.
Mae gan gymdeithasau tai hefyd ffactorau ychwanegol sy’n rhaid eu hystyried ar gyfer datblygiadau tai cymdeithasol nad ydynt efallai yn wynebu datblygwyr eraill. Yn syml, mae cymdeithasau tai yn adeiladu mwy na dim ond cartrefi – maent yn adeiladu cymunedau. Mae pob sefydliad yn ymroddedig i ddatblygu perthynas gyda thenantiaid ac aelodau o’r gymuned, gan weithio’n agos gyda busnesau lleol, a gweitho gydag arbenigwyr amgylcheddol i baratoi’r ffordd am fyw niwtral o ran carbon.
Yn 2018/19 gwariodd cymdeithasau tai tua £27.4m ar brosiectau adfywio cymunedol, gan wario £2.8m o hyn ar helpu cymunedau i gael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth a dysgu.
Yn yr un cyfnod, gwariodd cymdeithasau tai £17.9m ar ostwng allyriadau carbon yn eu cartrefi prsennol a gwaith pellach tuag at gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae datblygu tai carbon isel yn flaenoriaeth allweddol i gymdeithasau tai – yn ogystal â bod yn well ar gyfer yr amgylchedd, gall hefyd atal gwaethygu mewn tlodi tanwydd ac amodau tai yn gysylltiedig gyda thai gwael.
A fedrai cymdeithasau tai ddim ond adeiladu cartrefi sylfaenol sy’n rhoi to i bobl dros eu pennau am nawr?
Na – mae cymdeithasau tai yn bodoli i ddarparu tai ansawdd uchel a fforddiadwy, ac adeiladu cymunedau cryf a chadarn lle gall pobl ffynnu. Mae’n groes i egwyddorion cymdeithasau tai – a gwerthoedd llawer o’r bobl sy’n gweithio i gymdeithasau tai – i gyflenwi dim byd llai.
Ynghyd â hyn, mae’n rhaid i bob datblygiad gyflawni Safonau Ansawdd Tai Cymru a osodir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gartrefi fod yn:
- ansawdd uchel, arloesol a chynaliadwy;
- hyblyg ac yn ymateb i anghenion y defnyddwyr; a
- diogel a saff.
Mae’r argyfwng tai yn fwy na dim ond diffyg anheddau i bobl fyw ynddynt – mae ein sector yn bodoli i sicrhau fod gan bobl gartrefi da a sefydlog cyhyd ag y maent eu hangen.