“Angen brys” am sgiliau datblygu tai i adeiladu’r tai cymdeithasol mae Cymru eu hangen
Dros y degawd diwethaf mae cymdeithasau tai Cymru wedi darparu mwy na 23,000 o gartrefi fforddiadwy y mae angen dybryd amdanynt ar gyfer pobl ledled Cymru ac mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol i ddarparu llawer mwy.
Mae ein sector yn ymroddedig i ateb yr angen amcanol am dai, a chwarae ei ran wrth weld pobl drwy’r argyfwng tai parhaus, gan ddal ati i fuddsoddi mewn cartrefi presennol a darparu’r gwasanaethau hanfodol mae tenantiaid yn dibynnu arnynt.
Fodd bynnag, er fod datblygu yn parhau, mae pob datblygydd tai yn wynebu heriau parhaus sy’n dal i achosi oedi. Mae hyn yn cynnwys costau uchel deunyddiau, tarfu ar y cadwyni cyflenwi a phrosesau cymeradwyo cynyddol gymhleth.
Rhwystr arall sy’n parhau i gael effaith sylweddol ar alluoedd datblygu’r sector yw diffyg gweithwyr medrus mewn meysydd datblygu.
Mewn blynyddoedd diweddar, mae nifer o gynllunwyr a datblygwyr arbenigol wedi ymddeol neu adael y proffesiwn, sydd wedi arwain at brinder ar draws Cymru.
Arweiniodd hyn at oedi gyda cheisiadau cynllunio, gan arwain at gynlluniau cyflenwi mwy costus i awdurdodau lleol, ac yn y pen draw arwain at atal datblygiad hanfodol cartrefi cymdeithasol.
Llenwi’r bwlch
Mae cymdeithasau tai wedi gweithio ar nifer o gynlluniau i annog staff newydd i’r sector, sicrhau fod ganddynt sgiliau hanfodol mewn adeiladu, cynllunio a datblygu ac amlygu cyfleoedd gyrfa i helpu cicdanio adeiladu tai.
Er enghraifft, mae Wales & West Housing wedi lansio eu rhaglen hyfforddiant Grow Our Own, eu hunain lle caiff graddedigion eu hyfforddi a’u datblygu i ddilyn gwahanol lwybrau gyrfa yn cynnwys datblygu.
Yn y cyfamser, mae Cartrefi Dinas Casnewydd yn cydweithio gyda Y Prentis, sefydliad sy’n helpu i ganfod lleoliadau ar gyfer prentisiaid i helpu cefnogi datblygu cartrefi newydd ar safleoedd adeiladu ar draws de-ddwyrain Cymru.
Fe wnaeth y gymdeithas tai rannu manylion yn ddiweddar am leoliad llwyddiannus ei brentis diweddaraf Brychan Lock, sy’n helpu i drawsnewid hen siop Argos ar Stow Hill yn 36 fflat a thair uned fasnachol.
Ymateb sector gyfan
Tra bod ein haelodau yn ceisio gwella pethau’n lleol, rydym ni yn Cartrefi Cymunedol Cymru wedi bod yn gweithio gyda chymdeithasau tai, Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner ar draws y sector i helpu mynd i’r afael â rhwystrau datblygu gyda’n gilydd, gyda golwg ar ddadflocio datblygiadau ac annog twf pellach.
Rydym hefyd yn cefnogi’r Sefydliad Tai Siartredig (CIH) a PwP Consulting wrth iddynt ystyried creu academi datblygu tai cymdeithasol, fydd yn cyfarch diffyg swyddogion gyda hyfforddiant a sgiliau addas yn y sector.
Mae CIH yn awr wedi lansio arolwg ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector tai a thimau ar draws y sector datblygu yng Nghymru i gasglu eu barn ar os byddai academi sgiliau yn helpu i daclo’r rhwystr cysylltiedig â sgiliau yn y gweithlu.
Gall y rhai sy’n gweithio yn sector tai Cymru a phroffesiynau cysylltiedig sy’n dymuno llenwi’r arolwg wneud hynny yma yn Gymraeg a Saesneg. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 16 Tachwedd.
Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch comms@chcymru.org.uk