Tlodi bwyd yng Nghymru: datgelu effaith yr argyfwng costau byw ar denantiaid tai cymdeithasol
I lawer o bobl ar incwm is, yn cynnwys y rhai sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai, mae siopa am hanfodion wedi arwain at bryder a chonsyrn wrth i gost bwyd barhau i godi.
Drwyddi draw mae prisiau bwyd wedi cynyddu gan tua 27% rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Tachwedd 2023, gan arwain at i lawer o bobl orfod torri’n ôl ar eu siopa, neu beidio cymryd rhai prydau bwyd o gwbl wrth i’r esgid fach ddechrau gwasgu.
Dengys ymchwil gan Sefydliad Bevan hefyd fod pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol bum gwaith yn fwy tebygol o’i chael yn anodd weithiau, yn aml neu bob amser i fforddio hanfodion.
Cafodd y canfyddiadau hyn eu hadleisio gan ein hymchwil ein hunain ac ymchwil gan sefydliadau eraill drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf hefyd. Yma, rydym wedi edrych ar y data hanfodol ar ymchwil bwyd sy’n dangos gwir effaith yr argyfwng costau byw ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru.
Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd
Drwy ein ymchwil Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd oedd yn arolygu cymdeithasau tai ar draws Cymru i ganfod sut yr oedd yr argyfwng costau byw wedi effeithio ar eu tenantiaid a gwasanaethau, gwelsom bod:
- 38% o gymdeithasau tai nid-er-elw yn dweud fod tenantiaid wedi cysylltu â nhw i ofyn am gymorth ariannol brys er mwyn medru fforddio bwyd rhwng Ionawr a Mehefin 2023 yn unig. Mewn gwirionedd, roedd bwyd ymysg y prif resymau pam y cysylltodd tenantiaid â’n landlordiaid am help gyda chostau byw yn ystod y cyfnod hwnnw.
- 63% o gymdeithasau tai yng Nghymru yn defnyddio eu cronfa caledi i gefnogi tenantiaid gyda chostau bwyd.
- 1,836 tenant wedi eu hatgyfeirio i fanciau bwyd gan y gymdeithas tai sy’n landlord arnynt rhwng Ionawr a Mehefin 2023.
- 67% o gymdeithasau tai Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau i fanciau bwyd.
- 65% o gymdeithasau tai hefyd yn cyflenwi a chefnogi cynlluniau eraill ar sicrwydd bwyd yn cynnwys oergelloedd cymunedol, talebau archfarchnad, cyrsiau coginio ar gyllideb, casglu a dosbarthu bwyd dros ben o archfarchnadoedd, a phartneriaethau bwyd lleol.
Darllenwch fwy am ein adroddiad Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd a chanfod mwy am ein galwadau ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i helpu pobl sy’n cael trafferthion gyda’r argyfwng costau byw yma.
Ymddiriedolaeth Trussell
Mae Ymddiriedolaeth Trussell hefyd wedi cynnal ymchwil ar effaith yr argyfwng costau byw ar bobl yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ddosbarthu parseli bwyd yn neilltuol. Gwelodd:
- Rhwng Ebrill a Medi 2023, fe wnaeth banciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru ddosbarthu 88,518 parsel bwyd. Dyma’r nifer uchaf erioed - 15% yn uwch na’r un cyfnod yn 2022 a 77% yn uwch na’r un cyfnod yn 2018.
- Darparodd banciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trusell yng Nghymru 32,149 parsel ar gyfer plant yn y cyfnod hwn. Hwn oedd y tro cyntaf i’r banciau hyn ddarparu’r lefel honno o barseli ar gyfer plant mewn cyfnod o chwe mis.
- Roedd pedwar ym mhob deg (41%) o’r teuluoedd a gefnogwyd gan fanciau bwyd yn cynnwys plant.
- Darparwyd 37,700 parsel bwyd argyfwng ar gyfer teuluoedd gyda thri neu fwy o blant yn chwe mis cyntaf 2023.
Sefydliad Joseph Rowntree (JRF)
Cyn Datganiad yr Hydref, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree grynodeb newydd o’i ymchwil cyfredol ar sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar aelwydydd incwm isel. Mae ei draciwr yn dangos y realaeth llwm y mae aelwydydd incwm isel yn byw trwyddo. Dangosodd data a gyhoeddwyd gan JRF ym mis Tachwedd 2023:.
- Bu’n rhaid i un mewn chwech o deuluoedd ar draws y Deyrnas Unedig droi eu hoergell neu eu rhewgell i ffwrdd oherwydd costau cynyddol ynni.
- Aeth 7.3 miliwn o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig heb hanfodion tebyg i fwyd, gwres a dillad digonol.
Sefydliad Bevan
Fel rhan o’i waith i roi diwedd ar dlodi yng Nghymru, cyhoeddodd Sefydliad Bevan giplun yn edrych yn benodol ar faint y caledi a achoswyd gan yr argyfwng costau byw ar ddechrau 2023. Roedd ei ganfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Yng Nghymru, roedd 14% o gartrefi naill ai weithiau, yn aml neu bob amser heb fod â digon ar gyfer yr holl bethau sylfaenol.
- Roedd un ym mhob pedair aelwyd yn bwyta prydau llai neu’n mynd heb brydau bwyd yn gyfangwbl.
- Dywedodd un ym mhob 20 o bobl yng Nghymru eu bod wedi ymweld â banc bwyd.
- Dywedodd 21% o bobl yn byw gyda phlentyn eu bod wedi gorfod gostwng maint pryd bwyd eu plentyn, neu fod eu plentyn wedi mynd heb bwyd yn llwyr.
- Roedd 44% o bobl ar y Credyd Cynhwysol a 36% o bobl ar fudd-daliadau gwaddol wedi gostwng maint prydau bwyd, neu wedi mynd heb brydau bwyd eu hunain.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi edrych ar effaith uniongyrchol a thymor hirach yr argyfwng costau byw ar iechyd a llesiant plant. Wedi’i gyhoeddi ym mis Medi 2023, mae prif ganfyddiadau’r ymchwil yn cynnwys:
- Mae bron hanner (45%) yr holl blant saith i 11 oed yng Nghymru, a chwarter y rhai rhwng 12 i 18, yn pryderu am gael digon o fwyd i’w fwyta.
- Mae plant sy’n tyfu fyny gydag ansicrwydd bwyd yn fwy tebygol o fod yn or-dew.
- Mae plant sy’n byw yn yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru 76% yn fwy tebygol o fod yn ordew o gymharu â phlant sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog (14% o gymharu gyda 8%).
Ymhellach, canfu arolwg cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r cynnydd mewn costau byw a’i effaith ar iechyd a llesiant:
- 76% o bobl yn dweud fod eu harferion prynu bwyd wedi newid, gan amlaf yn newid i frandiau rhatach (57%).
- Canfu hefyd fod 20% o’r bobl a arolygwyd yn bwyta llai o fwyd.
- Mae 5% o bobl yn defnyddio banciau bwyd.
Ymchwil Senedd Cymru
Gan edrych yn eang ar ymchwil arall, mae Ymchwil Senedd Cymru wedi rhannu adroddiad
Anghynaladwy: dyled o ganlyniad i gostau byw cynyddol, sy’n gwneud argymhellion ar sut y gall Lywodraeth Cymru lywio llwybr cynaliadwy allan o’r argyfwng costau byw a mynd i’r afael ag achosion tlodi. Roedd ei ganfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Bod chwyddiant prisiau bwyd ar ei uchaf ers 45 mlynedd ym mis Mawrth 2023, gyda phrisiau wedi cynyddu gan 19.2% o gymharu gyda blwyddyn yn flaenorol.
- Rhwng 2021-22 a 2022-23, gwelodd Cymru gynnydd o 41% yn nifer y parseli bwyd a ddosbarthwyd, o gymharu â 37% yn Lloegr, 30% yn yr Alban a 29% yng Ngogledd Iwerddon.
Ein galwad ar Lywodraeth Cymru
Gyda chynifer o bobl yn awr yn cael trafferthion i fforddio eitemau bwyd hanfodol, rydym yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wneud mwy i gefnogi’r rhai sydd ag angen brys am help ariannol.
Isod mae’r pethau penodol y gofynnwn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU amdanynt i sicrhau y gall pobl gael mynediad i hanfodion fforddiadwy, yn cynnwys bwyd. Darllenwch am ein holl alwadau yn adroddiad ymchwil llawn Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd.
Galwn ar Lywodraeth Cymru i:
- Ddiogelu cronfeydd argyfwng presennol a sicrhau fod llwybrau i gymorth yn hygyrch ac wedi eu targedu at y rhai sydd fwyaf ei angen.
- Parhau i ariannu cynlluniau hanfodol sy’n targedu tlodi tanwydd a bwyd ac sy’n cefnogi cyfraddau uwch o ddefnydd budd-daliadau.
A galwn ar Lywodraeth y DU i:
- Cefnogi’r Warant Hanfodion i sicrhau fod yr isafswm lefel o gymorth yn gwarantu y gall pobl ei dalu am hanfodion a gweithredu galwadau gan Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Trussell.
Darllenwch fwy am ein hadroddiad Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd a darllen ein canfyddiadau llawn ar sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar denantiaid cymdeithasau tai yng Nghymru yma.