Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: Beth nesaf ar gyfer landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid?
Ar 30 Mai cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y caiff dyddiad gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ei ohirio o 15 Gorffennaf 2022 i 1 Rhagfyr 2022.
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Julie James AoS, Gweinidog Newid Hinsawdd, fod yr oedi yn ganlyniad pwysau enfawr ar landlordiaid yn awr a dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, nid yn lleiaf oherwydd COVID-19. Mae’n anochel bod y sefyllfaoedd lluosog o argyfwng cyhoeddus wedi effeithio ar gapasiti a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru hefyd. Gan na fydd y darnau olaf o ddeddfwriaeth ar gael tan fis Gorffennaf eleni, roedd y Gweinidog yn cydnabod y manteision y byddai amser ychwanegol yn ei roi i landlordiaid wrth baratoi eu hunain a’u tenantiaid ar gyfer yr hyn y bydd y Ddeddf yn ei olygu yn ymarferol.
Beth sydd wedi newid fel canlyniad i’r gohiriad?
Bydd landlordiaid yn dal i fod â chwe mis o ddyddiad gweithredu’r Ddeddf i gyhoeddi contractau newydd i denantiaid presennol. Mae hyn yn golygu y bydd pob tenant yn derbyn eu contractau newydd erbyn 1 Mehefin 2023.
Bydd ymrwymiadau landlordiaid tenantiaid a hawliau newydd tenantiaid (yn cynnwys safonau newydd Ffitrwydd i fod yn Gartref) yn parhau i ddod i rym ar y dyddiad gweithredu ei hun (1 Rhagfyr 2022), p’un ai a gafodd contractau newydd eu cyhoeddi ai peidio.
Beth mae’n ei olygu ar gyfer cymdeithasau tai a’u tenantiaid?
Er fod y Ddeddf wedi cymryd llawer o amser i ddod i rym ac yn cynrychioli’r newidiadau mwyaf i gyfraith tenantiaeth yng Nghymru mewn degawdau, nid yw ei gweithredu yn dasg syml i gymdeithasau tai. Bu gwaith paratoi yn mynd rhagddo am fisoedd lawer ond heb i’r holl ddeddfwriaeth a’r canllawiau terfynol fod ar gael tan ychydig cyn y dyddiad gwreiddiol o 15 Gorffennaf, byddai wedi bod yn anodd iawn i gymdeithasau tai baratoi’n llawn.
Mae’r Ddeddf yn golygu fod angen newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau, diweddaru hyfforddiant ar gyfer staff (yn arbennig y rhai sy’n dod i gysylltiad â thenantiaid), yn ogystal ag addasu nifer o systemau technoleg gwybodaeth. Mae rhai cymdeithasau tai yn landlordiaid i filoedd o denantiaid ac mae’n rhaid iddynt ailddyrannu llawer o’u hadnoddau cyfredol, tra’n dal i redeg gwasanaethau effeithlon ar gyfer eu tenantiaid.
Digwyddodd llawer yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda’r argyfwng mewn costau byw a COVID-19 wedi cael mwy o effaith ar denantiaid tai cymdeithasol na’r rhan fwyaf o bobl. Drwy’r cyfnod neilltuol o anodd hwn, bu cymdeithasau tai yn ymroddedig i helpu eu tenantiaid mewn angen. Bydd yr amser ychwanegol hwn yn eu galluogi i barhau i wneud hynny ar yr un lefel, tra’n sicrhau eu bod yn cael manylion gweithredu yn gywir. Mae hwn yn gyfle enfawr ar gyfer newid cadarnhaol ac mae’n bwysig fod tenantiaid yn cael y budd mwyaf o’r newidiadau a ddaw yn sgil y Ddeddf.
Mae cymdeithasau tai hefyd eisiau cysylltu mor effeithlon ag sy’n bosibl gyda’u tenantiaid a’u helpu i ddeall eu hawliau a chyfrifoldebau newydd. Mae landlordiaid cymdeithasol yn cymryd y gwaith hwn o ddifrif ac yn ei weld fel dyletswydd i sicrhau nad yw tenantiaid yn cael eu drysu, eu llethu na’u dychryn gan y newidiadau sydd ar y gwell. Rhaid iddi fod mor rhwydd ag sydd modd i bob tenant siarad gyda’u landlord newydd os oes ganddynt unrhyw bryderon neu ymholiadau am yr hyn y bydd y newidiadau yn y Ddeddf yn ei olygu iddynt. Mae’r gohiriad yn golygu y bydd gan denantiaid yn awr amser i brosesu gwybodaeth newydd ac ymwneud gyda’u landlordiaid fel sydd angen.
Beth fydd yn digwydd nawr?
Nid yw cymdeithasau tai yn cymryd eu troed oddi ar y sbardun a maent yn parhau i fwrw ymlaen gymaint ag sy’n bosibl gyda’u paratoadau tra’u bod yn disgwyl y darnau allweddol olaf o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn eu galluogi i gwblhau prosesau newydd mewn ffyrdd sy’n cyflawni eu hymrwymiadau ac sy’n gweithio i’w tenantiaid.
Er ein bod yn croesawu’r amser ychwanegol a roddwyd, rydym yn ymwybodol o bryderon a fynegwyd gan rai partneriaid ac Aelodau o’r Senedd am y potensial am gynnydd yn nifer achosion troi allan yn yr amgylchedd economaidd anodd iawn hwn, yn arbennig yn y sector preifat. Mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i barhau’r gefnogaeth a roddant i’w tenantiaid eu hunain, gan sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus a sicrwydd yn eu cytundebau tenantiaeth a’u bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol pe byddent yn canfod eu hunain yn fregus neu os ydynt yn fregus eisoes. Maent hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi pobl yn eu cymunedau ehangach, gan gynnig dulliau, cyngor a chyfeirio fel y gall pobl gael mynediad i ba bynnag help maent ei angen.