Datganiad CHC: Ymateb cymdeithasau tai i risgiau cynyddol Concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC)
Cyhoeddwyd y datganiad hwn ar 26 Medi 2023.
Fel y soniwyd yn y newyddion ar draws y wlad cafodd risgiau newydd eu nodi am goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) – deunydd a ddefnyddiwyd i adeiladu ac addasu llawer o adeiladau, yn bennaf rhwng y 1950au a’r 1990au.
Tan yn ddiweddar, cafodd canllawiau cenedlaethol ar RAAC mewn adeiladau eu hystyried gan bob llywodraeth yn y Deyrnas Unedig fel bod yn ddull cadarn at ei reoli. Fodd bynnag, ar 31 Awst 2023 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau newydd ar RAAC mewn safleoedd addysg. Ers hynny cafodd Llywodraeth Cymru beth dystiolaeth gan Lywodraeth y DU sy’n dangos y gall fod angen newid ein dull rheoli iechyd a diogelwch ar RAAC.
Er y cafodd rhai adeiladau cyhoeddus – yn cynnwys ysgolion – eu cau fel y cynhelir ymchwiliadau pellach, ar hyn o bryd (26 Medi 2023), buom yn gweithio gyda chymdeithasau tai i fapio fel mater o frys i ba raddau y gellir effeithio ar gartrefi cymdeithasol ac adeiladau eraill a gaiff eu rheoli gan gymdeithasau tai.
Mae sicrhau diogelwch tenantiaid yn flaenoriaeth i gymdeithasau tai felly bu ein haelodau yn edrych yn ddiwyd ar arolygon ac asesiadau o eiddo a adeiladwyd yn y cyfnod y defnyddid RAAC, i ddynodi’r holl adeiladau a fedrai fod wedi eu hadeiladu gyda’r deunydd hwn. I fod yn glir, ni fydd pob tŷ a adeiladwyd rhwng y 1950au a’r 1990au wedi cael eu hadeiladu gyda RAAC, a dyna pam y dechreuodd cymdeithasau tai eu hymchwiliadau drwy edrych ar yr wybodaeth sydd ganddynt wrth law.
Os a phan y dynodir problem, mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i weithredu mor gyflym ag sydd modd i ddelio gydag unrhyw risgiau posibl a sicrhau bod y tenantiaid yr effeithir arnynt yn cael gwybodaeth bob amser.
Gan mai dim ond yn ddiweddar y daeth y risgiau uwch ynghylch RAAC i’r amlwg ar gyfer llawer o fathau o adeiladau yn y Deyrnas Unedig, mae’n bwysig bod gennym gynllun cadarn a gytunwyd ar gyfer ein sector sy’n dilyn arfer gorau. Felly, fel y buom yn asesu os cafodd cartrefi cymdeithasau tai yng Nghymru eu hadeiladu gyda RAAC, rydym hefyd wedi ymuno gyda phartneriaid perthnasol - yn cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Rheoleiddiwr tai cymdeithasol Cymru i gefnogi dealltwriaeth lawnach ar draws pob cartref cymdeithasol.
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru a chymdeithasau tai yn sylweddoli faint o bryder y gall hyn fod yn ei achosi i bobl sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasol hŷn.
Mae pob cymdeithas yn gweithio’n galed i sicrhau y caiff tenantiaid eu hysbysu pan mae gwybodaeth newydd i’w rhannu. Os ydych yn byw mewn cartref cymdeithas tai ac yn bryderus neu’n amau y gall fod yn cynnwys RAAC, cysylltwch â’ch landlord yn uniongyrchol os gwelwch yn dda. Mae ganddynt dimau ar gael a all helpu a rhannu cyngor gyda chi. Peidiwch â phrofi na tharfu ar y deunydd eich hun.
Gofynnwn i chi weithio gyda nhw mor gyflym ag y gallwch os yw eich cymdeithas tai yn cysylltu gyda i chi i ymchwilio os defnyddiwyd RAAC i adeiladu cartref. Rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn parhau’n ddiogel o unrhyw risgiau yn eich cartref.
Ar gyfer ymholiadau gan y wasg a’r cyfryngau ar y pwnc hwn, cysylltwch â Ruth Dawson, pennaeth cyfathrebu; e-bost - ruth-dawson@chcymru.org.uk.