Datganiad CHC: uchafswm cynnydd rhent cymdeithasol 2024/25
Cyhoeddwyd y datganiad hwn ar 27 Hydref 2023.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi uchafswm newydd yn y cynnydd mewn rhent cymdeithasol o 6.7%, ynghyd â pharhau pecyn gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i gefnogi eu tenantiaid.
Wrth i’r ymateb i’r newyddion dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae gosod rhent yn un o’r penderfyniadau pwysicaf a wneir gan gymdeithasau tai nid-er-elw, ac nid ydynt yn ei gymryd yn ysgafn. Mae’n benderfyniad sy’n sicrhau cydbwysedd ofalus rhwng yr hyn sy’n fforddiadwy ar gyfer tenantiaid unigol gyda buddsoddi yn y cartrefi ansawdd uchel a’r gwasanaethau craidd y maent yn dibynnu arnynt.
“Nenfwd ac nid targed yw’r setliad rhent a ganiateir. Bydd cymdeithasau tai yn awr yn gosod rhenti yn lleol drwy ymgysylltu gyda thenantiaid a defnyddio dulliau i ddeall fforddiadwyedd.
“Maent eisiau i bobl sy’n byw yn eu cartrefi i deimlo’n ddiogel a saff, ac nid oes angen i unrhyw un sydd mewn anawsterau ariannol bryderu am golli eu cartref, lle maent yn gweithio gyda’u cymdeithas tai.
“Os ydych yn denant cymdeithas tai sy’n bryderus am neu yn cael trafferthion gyda rhent neu gostau rhedeg cartref, cysylltwch â’ch landlord yn uniongyrchol os gwelwch yn dda. Mae gan bob cymdeithas tai yng Nghymru dîm lleol arbenigol yn ei le i gefnogi eu tenantiaid.”
Ar gyfer ymholiadau gan y wasg a’r cyfryngau, anfonwch e-bost at Ruth Dawson, pennaeth cyfathrebu - ruth-dawson@chcymru.org.uk.