Cyfres Hyfforddiant Caffael Hugh James
About the training
Yng nghyd-destun y diwygio arfaethedig ar gaffael ac i’ch paratoi ar gyfer gweithredu Deddf Caffael y Deyrnas Unedig, rydym wedi gweithio gyda Hugh James, un o’n parter aelodau masnachol, i greu cyfres o sesiynau hyfforddiant fydd yn eich paratoi ar gyfer y pontio hwn drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar weithdrefnau cystadleuol, gweithdrefnau dan y trothwy a chyffyrddiad ysgafn a rheoli contractau cyhoeddus. Byddwn hefyd yn trafod fframweithiau a systemau prynu deinamig ac eithrio cynigwyr a gwahardd.
Mae dau opsiwn archebu:
- Archebu lle ym mhob un o’r 6 sesiwn a chael gostyngiad o 10%
- Gwneud archebion unigol ar gyfer un neu fwy o’r sesiynau (£65 yr un ar gyfer aelodau a £95 yr un ar gyfer rhai heb fod yn aelodau)
Yr hyfforddwr: Emily Powell
Mae Emily yn bartner yn y tîm corfforaethol a masnachol ac yn arbenigo mewn cynghori’r sector cyhoeddus ar gyfraith gyhoeddus, caffael a rheoli cymorthdaliadau. Rhoddodd Emily gyngor i awdurdodau cyhoeddus ar eu pwerau a dyletswyddau yn cynnwys cynghori awdurdodau lleol ar eu hopsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau anstatudol a sicrhau buddsoddiadau yn y dyfodol. Mae Emily hefyd wedi cynghori cymdeithasau tai ar eu prosesau caffael a gall gynnig gwasanaeth cyfreithiol cyflawn ar gyfer pob gofyniad caffael a phrosiect. Hefyd mae Emily yn cynnal fforwm ar gyfer ‘penaethiaid’ caffael yn gweithio o fewn y sector tai cymdeithasol.
Cyfres Hyfforddiant Caffael Hugh James: Paratoi ar gyfer pontio
Cyfres Hyfforddiant Caffael Hugh James: Cynnal gweithdrefnau cystadleuol
Mae'r digwydiadd hwn wedi dod i ben
Cyfres Hyfforddiant Caffael Hugh James: Fframweithiau a systemau prynu deinamig
Mae'r digwydiadd hwn wedi dod i ben
Cyfres Hyfforddiant Caffael Hugh James: Gweithdrefnau dan y trothwy a chyffyrddiad ysgafn
Mae'r digwydiadd hwn wedi dod i ben
Cyfres Hyfforddiant Caffael Hugh James: Excluding bidders and debarment
Mae'r digwydiadd hwn wedi dod i ben
Cyfres Hyfforddiant Caffael Hugh James: Rheoli contractau cyhoeddus
Mae'r digwydiadd hwn wedi dod i ben