Jump to content

Hyfforddiant : 2405 — Cyflwyniad i Gymdeithasau Tai - 2405

Ionawr 11, 2024 @ 1:00yh
Hyfforddiant 2 half days Online

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys 2 sesiwn hanner diwrnod. Cynhelir Rhan 1 ar dydd Iau 11 Ionawr (1yp - 4.30yp). Rhan 2 ar dydd Gwener 12 Ionawr (9.30yb-1yp).

Ar gyfer pwy mae hyn?

Staff ac aelodau pwyllgor sydd wedi ymuno â chymdeithas tai yn ddiweddar a/neu bobl o sefydliadau eraill sy'n dymuno deall sut mae cymdeithasau tai yn gweithio. Cwrs sylfaenol yw hwn ac mae'n tybio nad oes fawr o wybodaeth flaenorol o gymdeithasau tai.

Pam y dylech fynychu?

Gall staff neu aelodau pwyllgor a ymunodd â chymdeithas tai yn ddiweddar ganfod yr ystod eang o bolisïau, rheoliadau a geirfa yn ddryslyd iawn. Bydd y cwrs hwn yn helpu i symleiddio rôl a gweithgareddau cymdeithasau tai, yn ogystal ac egluro peth o'r eirfa.

Trosolwg o'r cwrs

Mae'r cwrs yn anelu i roi dealltwriaeth ehangach i'r rhai sy'n cymryd rhan o rôl cymdeithasau tai mewn darparu tai cymdeithasol yng Nghymru.

Erbyn diwedd y cwrs bydd y cyfranogwyr wedi:

  • Edrych ar bwysigrwydd cynnwys tenantiaid wrth ddarparu tai cymdeithasol
  • Dynodi'r problemau ariannol a chyfreithiol allweddol sy'n wynebu cymdeithasau tai
  • Trafod hanes a llywodraethiant cymdeithasau tai

Am yr hyfforddwr

Mae Deborah Walthorne yn hyfforddwr ac ymgynghorydd uchel ei barch sydd â hanes hir a llwyddiannus o gynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol o'r radd flaenaf. Mae Deborah wedi bod yn hyfforddwr cyswllt ac yn ymgynghorydd gyda Cymuned Tai Cymru ers dros 15 mlynedd.