Sbotolau ar Safonau Tai â Chymorth
Diben y sesiwn yma yw ystyried y newidiadau i Dai â Chymorth yn Lloegr a’r effaith debygol ar wasanaethau yng Nghymru.
Daeth Deddf Tai â Chymorth (Trosolwg Rheoleiddiol) 2023, sy’n anelu i wella ansawdd tai â chymorth yn Lloegr i rym ar 29 Awst 2023. Bydd yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion penodol o ddechrau 2024.
Yn y sesiwn sbotolau yma bydd Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r goblygiadau posibl ar gyfer Cymru a chynlluniau i ddatblygu safonau tai â chymorth Cymru mewn partneriaeth gyda’r sector. Bydd hyn yn cynnwys cyfle i roi adborth cynnar ar gynigion.