Deall ymddygiad ynni tenantiaid tai cymdeithasol
Mae monitro defnydd ynni mewn cartrefi ar draws Cymru yn parhau i fod yn elfen hanfodol wrth benderfynu ar y ffyrdd gorau i gynyddu effeithiolrwydd ynni ar draws stoc landlordiaid cymdeithasol, yn ogystal â chadw costau i lawr ar gyfer tenantiaid.
Yn y sesiwn yma bydd Dr Simon Lannon, Uwch Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Cymru, yn cyflwyno ei ganfyddiadau o brosiect a gwblhawyd yn ddiweddar yn archwilio ymddygiad ynni tenantiaid cymdeithasol.
Bydd Dr Satish BK, Uwch Ddarlithydd mewn Tectoneg Pensaernïol, wedyn yn amlinellu crynodeb gwaith y prosiect cyfredol :”Fy Nhŷ, Fy Rheolau: Archwilio effaith ymddygiad diwylliannol ar ansawdd aer mewn cartrefi sydd wedi eu huwch-insiwleiddio” sy’n edrych yn benodol ar effaith coginio ar ansawdd aer dan do mewn cartrefi Prydeinig-Asiaidd o gymharu gyda chartrefi gwyn Prydeinig.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Tystiolaeth yn dangos y gwahaniaethau rhwng ymddygiad disgwyliedig a’r hyn sy’n digwydd yng nghartrefi tenantiaid cymdeithasol.
- Y gydberthynas rhwng gwerthoedd cymdeithasol a diwylliannol ac ymddygiad ynni aelwydydd.
- Y budd i landlordiaid o greu eu setiau data eu hunain, ynghyd â rhai o’r anfanteision.